Lleisiau o’r Pandemig - Cyfrol 2: Pum cyfweliad ag arweinwyr meddwl o bob rhan o’r sector
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio profiadau arweinwyr elusennau yn ystod pandemig COVID-19 a'u syniadau ar gyfer adferiad.
Mae'n tynnu sylw at sut y bu'n rhaid i elusennau a sefydliadau cymunedol newid i ymateb i heriau newydd a heriau oedd yn dod i'r amlwg a'r hyn mae'r arweinwyr elusennau yn disgwyl ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn rhannu mewnwelediadau i gyllidwyr, sefydliadau gwirfoddol a llunwyr polisi am dirwedd y sector sy'n newid.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod llawer o elusennau a grwpiau cymunedol wedi gorfod gwneud newidiadau parhaol a beiddgar i'r ffordd maen nhw'n gweithio i ymateb i heriau a achoswyd gan COVID-19.
Dangosodd y cyfweliadau ag arweinwyr elusennau y canlynol:
gall sefydliadau cenedlaethol ddod o hyd i'w lle yn y sector heb gysgodi gwaith grwpiau bach ar lawr gwlad
mae angen brys i ganolbwyntio ar gydraddoldeb a thegwch, gan edrych yn onest ar bŵer a sut y gallwn ni ei ddefnyddio i wneud cymdeithas decach
mae angen edrych ar lais y sector: pwy sy'n cael ei glywed a'i fwyhau, a sut y gall y sector gwirfoddol gymryd ei sedd wrth y bwrdd ar gyfer cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau
mae'n bwysig adeiladu gallu pobl o ardaloedd difreintiedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a'u cymunedau
mae llawer o sefydliadau seilwaith lleol yn chwarae rôl allweddol wrth alluogi gwaith rheng flaen