HeadStart - Adeiladu gwydnwch pobl ifanc i gefnogi eu hiechyd meddwl a lles
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut roedd partneriaethau HeadStart yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc mewn ysgolion a chymunedau ledled Lloegr. Mae'n canolbwyntio ar gyflawniadau cynnar y rhaglen ac yn dangos sut roedd y partneriaethau yn gweithio i atal problemau iechyd meddwl mwy difrifol rhag datblygu. Nod y canfyddiadau yw hysbysu ymarferwyr, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl pobl ifanc.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod y rhaglen wedi rhoi cyfle i dros 131,000 o bobl ifanc gael mynediad at gymorth lles mewn tair blynedd hyd at haf 2019. Roedd hyn yn cynnwys mannau diogel mewn ysgolion a gwahanol weithgareddau adeiladu gwydnwch.
Roedd dros 18,500 o bobl ifanc wedi mynychu o leiaf un sesiwn gymorth ychwanegol, fel cwnsela neu fentora gan gymheiriaid.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
fe wnaeth y rhaglen arwain at fwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o beth yw gwydnwch a pham ei fod yn bwysig i les pobl ifanc
gall dulliau ysgol gyfan o les helpu i newid meddylfryd ac arferion
roedd cyd-gynhyrchu yn ganolog i bob agwedd ar y rhaglen - fe wnaeth helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau ynghylch pa wasanaethau y dylid eu cynnig
dechreuodd mwy o bobl weld iechyd meddwl a lles fel cyfrifoldeb cyffredin, gan fynd y tu hwnt i dîm bugeiliol yr ysgol i gynnwys y gymuned gyfan