Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Gweld y darlun llawn - Sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r ymchwil hwn yn archwilio sut mae sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith. Mae'n edrych ar y technegau mwyaf effeithiol, dan arweiniad pobl, maen nhw’n eu defnyddio i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau lluosog. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer cyllidwyr, llunwyr polisi, a sefydliadau sy'n dylunio cymorth cyflogaeth.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith. Maen nhw'n ategu gwaith canolfannau gwaith, gan gefnogi pobl sydd angen mwy o gymorth, am gyfnod hirach, neu mewn fformatau mwy hyblyg na'r hyn y gall gwasanaethau eraill ei gynnig.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:

  • mae llawer o wasanaethau cyflogaeth cymunedol mewn lleoedd mae pobl yn gyfarwydd â nhw, fel canolfannau cymunedol a chanolfannau ieuenctid, gan wybod bod rhai yn gweld amgylcheddau ffurfiol yn frawychus

  • gall y llwybr o ddiweithdra i swydd fod yn hir – mae'n bwysig bod gwasanaethau'n hyblyg, gan addasu cymorth i'r hyn sy'n digwydd i'r unigolyn hwnnw

  • mae cymorth un-i-un wrth wraidd taith cyflogaeth sydd wedi'i chefnogi'n dda – mae hwn yn rhywbeth mae'r sector gwirfoddol yn ei wneud yn arbennig o dda

  • mae llawer yn elwa o gymorth hyd yn oed ar ôl iddynt ddod o hyd i'w swydd gyntaf, er enghraifft drwy helpu pobl i ddeall beth a ddisgwylir ohonynt yn y gweithle, sut i reoli amser a delio â sefyllfaoedd anodd