Gweithredu Cymunedol dros yr Amgylchedd: Yn ddigon bach i boeni, yn ddigon mawr i wneud gwahaniaeth
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio sut mae cymunedau yn gweithredu i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd.
Ei nod yw deall y canlynol:
ffyrdd o annog newid ymddygiad
cyd-fanteision gweithredu ar newid hinsawdd
sut i wneud gweithgarwch newid hinsawdd dan arweiniad y gymuned yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol
Mae'r ymchwil yn seiliedig ar brofiadau grwpiau sydd wedi’u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae'r canfyddiadau wedi'u bwriadu ar gyfer pobl sy'n sefydlu, gwella, comisiynu neu gyflawni gwaith amgylcheddol mewn cymunedau ledled y DU
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod y gall gweithredu cymunedol chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â heriau amgylcheddol a chefnogi gweithredu yn yr hinsawdd. Gall grwpiau lleol wneud y canlynol:
ddod â phobl ynghyd
adeiladu ymwybyddiaeth
annog gweithgareddau amgylcheddol ymarferol
arwain ac ysbrydoli newid ymddygiad
cynnig atebion lleol ar gyfer problemau sy'n gallu ymddangos yn frawychus o gymhleth a haniaethol
Gall gwaith dan arweiniad y gymuned hefyd gryfhau perchnogaeth leol o atebion amgylcheddol.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
gall gweithredu cymunedol sy'n cefnogi'r amgylchedd gyflawni cyd-fanteision pwysig
gall pobl a chymunedau wneud gwahaniaeth mewn gweithredu ar newid hinsawdd
annog gweithredu amgylcheddol, ei gwneud yn hawdd ac yn ddeniadol, ac apelio at werthoedd pobl
mae gweithgareddau ymarferol fel cadwraeth, tyfu bwyd a phrosiectau ynni yn adeiladu ymgysylltiad lleol
mae arweinyddiaeth gymunedol yn cryfhau cyfranogiad ac ymrwymiad hirdymor i newid amgylcheddol
croesawu a galluogi amrywiaeth yn gwneud gweithredu amgylcheddol yn fwy cynhwysol