Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Gweithio mewn Partneriaeth: Gwersi o’r Trydydd Sector yng Nghymru

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r ymchwil hon yn rhannu gwersi o drydydd sector Cymru am weithio mewn partneriaeth. Mae'n trafod agweddau ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth ac yn rhannu sut mae llwyddiant yn edrych a sut y gellir mynd i'r afael â heriau cyffredin. Mae'r adroddiad yn rhannu mewnwelediadau ymarferol ar gyfer cyllidwyr, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sydd eisiau adeiladu neu gryfhau partneriaethau.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod y canlynol:

  • roedd 75% o ymatebwyr y trydydd sector yng Nghymru yn ffafriol tuag at weithio mewn partneriaeth

  • roedd y prif fanteision yn cynnwys cynnwys cymunedau yn y prosiect, cymorth a gwasanaethau ar y cyd, a pherthnasoedd tymor hwy

  • diffyg capasiti ac amser oedd y prif heriau i weithio mewn partneriaeth – ac yna cymhlethdod, gwrthdaro, risg, ac ymddiriedaeth

Cafodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (83%) wnaeth weithio ar brosiect partneriaeth a gefnogwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol brofiad cadarnhaol.

Fodd bynnag, dim ond 45% oedd yn teimlo bod y Gronfa yn darparu disgwyliadau clir ar weithio mewn partneriaeth a gofyn am well eglurder a mwy o arweiniad a hyfforddiant.