Gofod Anadlu: Sut mae ein grantiau yn helpu cymunedau i ddefnyddio, creu a gwella mannau awyr agored
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hwn yn archwilio'r gwahaniaeth mae grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei wneud wrth adeiladu, cynnal a gwella mannau awyr agored cymunedol ledled y DU.
Mae mannau awyr agored yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles a'n bywyd cymunedol. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut mae ein grantiau wedi cefnogi'r gwaith o greu, gofalu am, a sicrhau hygyrchedd parciau, meysydd chwarae, a mannau gwyrdd ledled y DU. Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio'r ffyrdd mae'r mannau hyn o fudd i bobl leol a pham mae buddsoddiad parhaus yn bwysig.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod, dros gyfnod o bum mlynedd hyd at 2021, fod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros £520 miliwn i gefnogi darpariaeth, cynnal a chadw a hygyrchedd mannau awyr agored.
Fe wnaeth yr arian hwn alluogi cymunedau i adeiladu a gwella’r canlynol:
mannau awyr agored naturiol megis coetiroedd a dyfrffyrdd,
datblygu mannau awyr agored fel parciau a meysydd chwarae,
gweithgareddau awyr agored fel tyfu bwyd a
ffitrwydd, a mynediad i'r awyr agored i sicrhau bod pawb yn teimlo'n gartrefol
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod pob mis, fod 1.8 miliwn o bobl yn defnyddio lleoedd a mannau sy'n cael eu cynnal a'u gwella drwy grantiau'r Loteri Genedlaethol. Mae cyfran fawr o'r rhain yn fannau awyr agored lle mae cymunedau'n cwrdd, yn chwarae, yn ymarfer ac yn gweithio.