Cysylltu cymunedau a gofal iechyd: Gwneud i bresgripsiynu cymdeithasol weithio i bawb
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r hyn rydym ni wedi'i ddysgu gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol am bresgripsiynu cymdeithasol, arfer sydd:
yn cysylltu y sectorau gofal iechyd a gwirfoddol
yn cysylltu pobl â chymorth yn y gymuned fel ffordd o gefnogi iechyd a lles pobl
Mae'r adroddiad wedi'i anelu at unrhyw un sy'n meddwl am ddylunio, gwella neu ehangu cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod gan bresgripsiynu cymdeithasol y potensial i fod o fudd i unigolion, y sector gwirfoddol a'r system iechyd.
Gall wneud hyn trwy’r canlynol:
gwneud gwell defnydd o adnoddau
rhoi mwy o reolaeth i bobl o'u lles eu hunain
Mae elusennau a sefydliadau cymunedol yn chwarae rhan hanfodol mewn presgripsiynu cymdeithasol. Maen nhw’n rhedeg llawer o'r gweithgareddau cymunedol ac yn aml yn darparu'r swyddogaeth gweithiwr cyswllt. Ond mae hefyd yn cyflwyno her i adnoddau trwy gynyddu'r galw am wasanaethau.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
mae presgripsiynu cymdeithasol yn llawer mwy na chyfeirio; mae'n gweithio gyda'r claf fel unigolyn, gan eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i iechyd a lles
mae'r rôl gweithiwr cyswllt yn rôl hanfodol ond heriol; mae'n gofyn am ystod o sgiliau, profiad a gwybodaeth leol
er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol ffynnu, mae'n bwysig cefnogi rôl y gweithiwr cyswllt a darparu gwasanaethau cymunedol
mae presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio orau pan fydd sefydliadau'n barod i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau a rennir a phan nad yw grantiau yn creu cystadleuaeth