Cyfle i ffynnu: Y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i bobl ifanc
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hwn yn edrych ar sut mae elusennau a grwpiau cymunedol wedi defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi pobl ifanc i wneud y canlynol:
aros yn ddiogel ac yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol
dysgu sgiliau ar gyfer y cartref, gwaith a'r gymuned
gwneud cysylltiadau, dod o hyd i'w angerdd, a chael hwyl
gwneud gwahaniaeth a chael eu clywed
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod rhaglenni ieuenctid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi dros 1.4 miliwn o bobl ifanc ledled y DU.
Mae'n dangos y canlynol:
sut mae'r grwpiau'r sector gwirfoddol a chymunedol (VCS) yn gweithio i gefnogi pobl ifanc, yn aml yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol neu ochr yn ochr â nhw
pa mor hanfodol yw rôl gweithwyr ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed
gall buddsoddi mewn atal arwain at stopio problemau rhag dod yn anoddach i'w datrys
gall cymorth iechyd meddwl adeiladu gwydnwch ar gyfer isafbwyntiau ac uchafbwyntiau bywyd
gall cymorth mewn argyfwng helpu pobl ifanc i sefydlogi eu sefyllfa a gwneud synnwyr o'u profiadau
gall cefnogi pobl ifanc i ddatblygu arferion iach eu helpu i ffynnu i fod yn oedolyn
ffyrdd mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn cefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan salwch