Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Adroddiad Ymchwil Effaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: canfyddiadau ymchwil gyda deiliaid grantiau

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r ymchwil hon yn archwilio cyrhaeddiad ac effaith grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar elusennau a sefydliadau cymunedol mewn pum mlynedd hyd at 2021. Mae'n edrych ar y canlynol:

  • ar gyfer beth y defnyddiwyd grantiau

  • pa gyrhaeddiad oedd gafodd y grantiau

  • pa wahaniaeth a wnaeth y grantiau

Ei nod yw hysbysu cyllidwyr, elusennau, llunwyr polisi, a sefydliadau sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol a chymunedol.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod, mewn blwyddyn nodweddiadol, bod sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyrraedd 5.2 miliwn o bobl. Bob mis, mae 1.8 miliwn o bobl yn defnyddio lleoedd a mannau sy’n cael eu cefnogi gan eu grantiau.

Fe wnaeth yr arolwg ganfod y canlynol hefyd:

  • dywedodd 97% o ddeiliaid grant fod buddion i unigolion, gan gynnwys gwell iechyd meddwl a lles, mwy o gyswllt cymdeithasol, gwell hyder a hunan-barch, a theimlo'n llai unig

  • dywedodd 92% o ddeiliaid grant fod manteision i gymunedau, gan gynnwys cyfleoedd i bobl gymysgu ag eraill sy'n wahanol iddyn nhw, i gymryd rhan yn eu cymuned a helpu i ddiwallu anghenion lleol, a mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael yn y gymuned

  • gwelodd grantiau oedd yn cynnwys asedau a mannau fod buddiolwyr yn ymgysylltu am fwy o amser na mathau eraill o grantiau

  • roedd darparu gweithgareddau fel arfer yn cael ei gyflawni trwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd

  • gweithiodd ychydig dros hanner deiliaid grant gyda sefydliadau eraill i gyflawni gweithgareddau wedi’u hariannu