Ysbryd 2012: cau ein drysau ond parhau â'n hetifeddiaeth
02 Hydref 2025
Gan Ruth Hollis, Prif Weithredwr, Ysbryd 2012
Mae wedi bod yn fraint anhygoel bod gydag Ysbryd 2012 ers y diwrnod cyntaf. Wrth i mi fyfyrio ar y cyfan, rwy'n teimlo ymdeimlad dwfn o falchder. Nid yn unig am yr hyn rydym wedi'i gyflawni, ond yr egni a’r ymrwymiad rhyfeddol roddodd cynifer o bartneriaid, deiliaid grant, gwirfoddolwyr, cydweithwyr a ffrindiau i wireddu ein gweledigaeth. Mae eu gwaith, a'u ffydd yn yr hyn oedd yn bosibl, wedi gwneud i'n heffaith ymestyn i bob cwr o’r DU.

Mae stori Ysbryd 2012 yn dechrau gyda syniad beiddgar a pharodrwydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i fentro. Ysbrydolwyd y diweddar Peter Ainsworth gan fwrlwm bythgofiadwy Gemau Llundain yn 2012. Y ffordd y daethant â phobl a chymunedau ynghyd, ledled y DU. Gwelodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y cyfle i fachu ar yr ysbryd hwnnw a'i wneud yn rhan o fywydau bob dydd pobl.
Felly, gyda gwaddol a her glir, fe wnaethon nhw sefydlu Ysbryd 2012. Ymddiriedolaeth 'gwario', a oedd yn ymroddedig i ariannu prosiectau a oedd yn dod â phobl ynghyd, yn chwalu rhwystrau, yn cynyddu hapusrwydd, ac yn cryfhau cymunedau. (Felly, dim disgwyliadau o gwbl!) Yn ogystal, gofynnwyd i ni ddatblygu a gadael 'Banc Gwybodaeth' am sut y gellid defnyddio digwyddiadau’n fwy effeithiol i wneud bywydau pobl yn hapusach.
Wrth edrych yn ôl, rwy'n falch iawn o'r hyn y gwnaethom ei gyflawni gyda'n gilydd. Mae'r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain:
- 238 o grantiau wedi’u dyfarnu i rymuso syniadau a mentrau ledled y DU
- £48 miliwn o grantiau wedi'i fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad
- 3.5 miliwn o bobl wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau a gefnogir gan Ysbryd
- 62,000 o wirfoddolwyr a chynorthwywyr cymunedol wedi ymgysylltu a'u grymuso
- Dros 99,000 o bobl wedi cael cefnogaeth i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, y celfyddydau a diwylliant yn rheolaidd
Nid ystadegau yn unig mo'r rhain. Maent yn straeon am newid go iawn a phobl go iawn, ledled y DU. Am fagu cyfeillgarwch, chwalu rhwystrau, gwella cymunedau a meithrin hyder. Mae pob cyflawniad rydych chi'n darllen amdano yn ein Hadroddiad Effaith 10 Mlynedd diolch i ymroddiad a chreadigrwydd pobl ar lawr gwlad. Ein deiliaid grant. Ein partneriaid. Y rhai a fanteisiodd ar y cyfle i roi cynnig ar bethau newydd a chymryd risgiau i gyrraedd cymunedau sydd, yn rhy aml, yn cael eu gadael allan o'r sgwrs.
Nid eich ariannwr cyffredin
O'r diwrnod cyntaf, mae Ysbryd 2012 wedi bod yn ariannwr ymarferol. Rydym bob amser wedi gweithio mewn partneriaeth agos â'n deiliaid grant – gan eu cefnogi nid yn unig gydag arian ond gyda'r adnoddau a'r anogaeth i ymchwilio'n fanwl i'w heffaith. Fe wnaethom hyrwyddo Damcaniaethau Newid a gofyn am fesurau safonol, yn enwedig o ran lles. Roedd hyn yn golygu annog ein partneriaid i gael sgyrsiau a allai fod yn anodd am sut mae pobl yn teimlo go iawn am eu bywydau a'u cymunedau – ac yna eu helpu i ymateb i'r canfyddiadau hynny.
Roedd natur gyfyngedig o ran amser ein gwaddol yn golygu bod y cloc yn tician drwy'r amser. Creodd hyn ymdeimlad o frys. Ymrwymiad i ddysgu cymaint ag y gallem, cyn gynted ag y gallem. Gyda'n partneriaid, fe wnaethom brofi, ac fe wnaethom ddysgu. Roeddem am wella'r ddealltwriaeth o sut i gael y gorau o ddigwyddiadau, ymhell ar ôl i'r confeti setlo. Dyna pam y gwnaethom ddyrannu hyd at 10% o'n harian i bartneriaid werthuso eu gwaith eu hunain. Fe wnaethom hefyd sefydlu partneriaethau hirdymor gyda sefydliadau ymchwil fel InFocus, Renaisi, a'r Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol – i ddarparu safbwyntiau annibynnol a'n helpu i wella.
Effaith ledled y DU
Roedden ni’n gwybod o’r cychwyn cyntaf fod angen i’n harian gyrraedd pob cwr o’r DU. Ar gyfer nod fel ein un ni, roedd hi’n naturiol i fwy o arian lifo tuag at ardaloedd sy’n cynnal digwyddiadau mawr.
Ond roedden ni hefyd yn ofalus i gefnogi rhaglenni ledled y wlad – yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac arfordirol – lle mae pobl yn aml yn teimlo'r lleiaf o fudd o ddigwyddiadau cenedlaethol sy'n digwydd mewn mannau eraill. Gwnaethom yn siŵr bod ein harian yn cael ei wario'n ddoeth, gan dargedu tri maes allweddol: annog pobl i fod yn egnïol, i fod yn greadigol, a chael pobl i gysylltu.
Roedd y dull wedi’i dargedu hwn yn golygu ein bod wedi buddsoddi dros £13.3 miliwn mewn prosiectau a gynlluniwyd i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith y bobl leiaf egnïol. Fe wnaethom ariannu gwerth dros £12.5 miliwn mewn prosiectau creadigol a feithrinodd dalent artistig ac a ddatblygodd sgiliau arweinyddiaeth. Ac fe neilltuom £21.1 miliwn i fentrau a ddaeth â phobl o wahanol gefndiroedd ynghyd, gan feithrin ymdeimlad o bwrpas a rennir a chymuned.
Helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf
Roedd ein prosiectau’n fwriadol yn chwilio am y bobl a’r cymunedau a allai elwa fwyaf. Mae’r data’n dangos pan ddechreuai pobl ein prosiectau, fod eu lles cyfartalog yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Ac eto, diolch i waith arloesol ein deiliaid grant, fe wnaethant adael gan deimlo’n hapusach, yn llai pryderus, ac yn fwy bodlon â bywyd.
Ym mhob cwr o’r DU, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein harian yn cyrraedd y rhai sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, gyda ffocws penodol ar bobl iau a phobl hŷn, pobl anabl, a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol. Roedd dros hanner ein cyfranogwyr rheolaidd o dan 25 oed, a nododd 32% eu bod yn anabl. Mae'r ffigurau hyn yn dangos ymdrech ymwybodol i chwalu rhwystrau a chreu cyfleoedd cynhwysol lle mae eu hangen fwyaf. I ni, dyma wir ysbryd 2012 ar waith.
Diwedd un bennod, dechrau un arall
Wrth i ni gau ein drysau, rydym yn gadael mwy na dim ond rhestr o gyflawniadau ar ein hôl. Mae'r hyn a ddysgwyd o'n taith ddeg mlynedd bellach ar gael i bawb ei ddefnyddio ar ein Banc Gwybodaeth. Mae'n hwb ar-lein cynhwysfawr sy'n cynnwys yr holl ddysg rydym wedi'i feithrin dros y blynyddoedd, gan gynnwys canllawiau, adroddiadau, canllawiau gan arbenigwyr, awgrymiadau ac ystadegau. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli arianwyr, cymunedau a llunwyr polisi i barhau i adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddechrau. Nid oedd ysbryd 2012 erioed yn ymwneud ag un foment mewn amser. Roedd yn ymwneud â chadw teimlad o undod, posibilrwydd, a llawenydd ar y cyd, a'i ymgorffori yn ffabrig ein cymunedau.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu gweledigaeth a'u hymddiriedaeth gychwynnol, ac i bob person sydd wedi bod yn rhan o'n stori. Er y gallai Ysbryd 2012 fod ar ben, bydd yr egni, yr angerdd a'r cysylltiadau a grëwyd yn parhau, ynghyd â'r wybodaeth rydym wedi'i chronni.