Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Yr Etholiad Cyffredinol: Gwybodaeth bwysig i ddeiliaid grant

Ar 22 Mai 2024, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Ar 4 Gorffennaf 2024, bydd etholiadau’n cael eu cynnal ledled y DU i benderfynu ar gyfansoddiad Tŷ’r Cyffredin. Bydd y parti sy’n ennill y nifer uchaf o seddi’n cael rheolaeth dros Senedd y DU.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Cyn pob etholiad, mae Cyfnod Sensitifrwydd. Mae hyn yn gosod cyfyngiadau ar ddefnydd adnoddau cyhoeddus a gweithgareddau gweision sifil. Mae “adnoddau cyhoeddus” yn cynnwys arian y Loteri Genedlaethol, arian Asedau Segur a’r incwm trydydd parti yr ydym yn ei ddosbarthu fel ariannwr. Er y bydd busnes hanfodol yn parhau yn y Gronfa, gan gynnwys gwneud penderfyniadau am grantiau, fel Corff Cyhoeddus Anadrannol (NDPB), mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i fod yn ddiduedd yn wleidyddol.

Felly, o 23 Mai tan 5 Gorffennaf, ni fyddwn yn:

  • Cyhoeddi rhaglenni ariannu, partneriaethau, grantiau neu gyhoeddiadau newydd.
  • Rhyngweithio â gwleidyddion neu ymgeiswyr sy’n ceisio cael eu hail-ethol.
  • Hyrwyddo’r gwaith da rydym wedi’i wneud/y sefydliadau rydym wedi’u cefnogi.
  • Cyhoeddi adroddiadau gwerthuso newydd.
  • Rhyngweithio â deiliaid grant neu rannu cynnwys ganddynt ar ein sianeli digidol neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn parhau â’n gweithgarwch cyfathrebu allanol pan fydd y Cyfnod Sensitifrwydd wedi dod i ben ar ôl i lywodraeth newydd gael ei ffurfio.

Beth mae hyn yn ei olygu i’n deiliaid grant

Fel deiliad grant presennol, gwyddom pa mor bwysig yw hi i chi ddathlu sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r gwaith hollbwysig rydych chi’n ei wneud yn eich cymuned. Er nad oes rhaid i elusennau a sefydliadau a ariennir gydymffurfio â’r Cyfnod Sensitifrwydd yn yr un modd â’r Gronfa, mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud yn ystod y cyfnod hwn.

Y prif beth sydd angen i chi ei wybod yw os ydych wedi derbyn grant yn ddiweddar, ni ddylech gyhoeddi eich grant Loteri Genedlaethol newydd cyn Dydd Iau 4 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys pethau fel erthyglau newyddion neu gyhoeddiadau cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Comisiwn Elusennau’n rhoi canllawiau ei hun i elusennau o ran yr hyn a ystyrir yn gyfreithiol ac yn arfer da yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddiad am etholiad a dyddiad yr etholiad. Darllenwch y canllawiau er mwyn eu deall yn hollol.

https://www.gov.uk/government/publications/speaking-out-guidance-on-campaigning-and-political-activity-by-charities-cc9/charities-elections-and-referendums

Beth i’w wneud os oes unrhyw gwestiynau gennych

Ni all Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gynnig cyngor i ddeiliaid grant ar yr hyn sy’n briodol yn ystod Cyfnod Sensitifrwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y canllawiau uchod, dylech gysylltu â’r Comisiwn Elusennau’n uniongyrchol.