Neidio i'r prif gynnwys

Ymunwch â'n sesiynau cyngor galw heibio am ddim yng Nghymru

Rydym yn cynnal sesiynau cyngor galw heibio ar-lein rheolaidd i bobl yng Nghymru. Ymunwch ag un i ddarganfod mwy am gyfleoedd ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

P'un a ydych chi'n meddwl am wneud cais, eisoes â grant gyda ni, neu wedi derbyn ariannu yn y gorffennol, mae croeso i chi ymuno â sesiwn. Yn y sesiynau gallwch ofyn cwestiynau a chlywed mwy am yr hyn rydyn ni'n ei ariannu.

Cynhelir y sesiynau ar-lein ar Microsoft Teams ac maent yn para awr, rhwng 12pm ac 1pm. Mae pob un yn rhedeg yn Gymraeg a Saesneg, felly gallwch gael cyngor yn yr iaith sy'n well gennych.

Ymuno

Mae'r holl sesiynau yn rhedeg rhwng 12pm ac 1pm. Gallwch gofrestru ar gyfer sesiwn gan ddilyn y dolenni isod:

2026

2027

Next steps

Os hoffech gysylltu â ni yn y cyfamser, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 123 0735 neu drwy e-sbotio wales@tnlcommunityfund.org.uk