Ymunwch â'n Bwrdd: chwilio am ymddiriedolwyr newydd i helpu newid bywydau ledled y DU
03 Mawrth 2026
Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â Bwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dyma gyfle cyffrous i weithio â'n Cadeirydd, y Fonesig Julia Cleverdon, i gryfhau ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau ledled y DU.
Ynglŷn â'r rôl
Fel aelod o'r Bwrdd, byddwch yn helpu arwain sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ein grantiau yn cyrraedd cymunedau ym mhob rhan o'r DU, ac rydym yn canolbwyntio ein cefnogaeth lle mae’r angen mwyaf.
Rydyn ni eisiau i'n Bwrdd adlewyrchu ehangder y gymdeithas rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ar draws pob rhanbarth a chefndir, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw a all ddod â safbwyntiau newydd i'n gwaith.
P'un a ydych chi'n arweinydd cymunedol sefydledig neu os oes gennych brofiad a allai gynnig safbwynt newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Sut i wneud cais
I ddysgu rhagor a chyflwyno cais, ewch i wefan DCMS
I gael rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd a'n llywodraethu, ewch i'r dudalen Ein Bwrdd ar ein gwefan.