Ymunwch â Phwyllgor Cymru
31 Gorffennaf 2026
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau yng Nghymru i ymuno â'n pwyllgor.
Mae gennym gyfle cyffrous i rywun sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau yng Nghymru. Rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â Phwyllgor Cymru.
Ni yw ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU. Rydym yn dyfarnu arian Achosion Da'r Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru.
Ynglŷn â'r rôl
Mae Pwyllgor Cymru yn helpu penderfynu ar gyfeiriad strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Mae aelodau'r pwyllgor yn defnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u meddwl strategol i:
ddarparu cyfeiriad ar gyfer y Gronfa yng Nghymru
gwneud penderfyniadau ar geisiadau i'n pwyllgorau gwneud grantiau
bod yn llysgennad i'r Gronfa
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Phwyllgor Cymru. Bydd ein haelod newydd o'r pwyllgor yn helpu goruchwylio'r gwaith o gyflawni ein strategaeth Cymuned yw'r man cychwyn yng Nghymru. Byddant yn cefnogi ein gwaith i gynyddu ariannu ar gyfer achosion da a pharhau i ddarparu asedau segur.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
Mae Pwyllgor Cymru yn dwyn ynghyd pobl â chefndiroedd, sgiliau a phrofiadau gwahanol, gan adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu hariannu a'u gwasanaethu.
Y peth pwysicaf yw bod ymgeiswyr yn angerddol am wneud Cymru yn lle gwell i bawb.
Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn dod ag ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad byw ac wedi'i ddysgu. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â:
phrofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl ifanc
profiad o weithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig
Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o sefydliad sy'n trawsnewid bywydau pobl. Os ydych chi'n angerddol am wneud Cymru yn lle gwell ac yn teimlo y gallech gyfrannu at Bwyllgor Cymru, ymgeisiwch i ymuno â ni.
Ymrwymiad amser a thâl
Gofynnwn i chi ymrwymo tua 2 ddiwrnod y mis, er y gall hyn amrywio. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
cyfarfodydd pwyllgor - ar-lein neu wyneb yn wyneb
cyfarfodydd panel ariannu
ymweliadau â phrosiectau
cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid
Y taliad yw £5,323 y flwyddyn.
Sut i ymgeisio
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, gallwch lawrlwytho'r canlynol:
Dyddiadau allweddol
Mae'r dyddiadau allweddol yn cynnwys:
dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 11:59pm ar 23 Awst 2026
dyddiadau'r cyfweliadau - 28 Medi i 9 Hydref 2026 (gall y dyddiadau hyn newid)
Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat arall neu os oes angen amser ychwanegol arnoch i gwblhau'r ffurflen, cysylltwch â wales.committee@tnlcommunityfund.org.uk.
Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein hariannu'n cyrraedd lle mae ei angen.
Rydym hefyd yn credu y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn lle gwych i weithio. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan:
bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig
pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirsefydlog
pobl LHDTC+
pobl o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol
pobl o bob oed
Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cymryd dull rhagweithiol wrth wneud addasiadau rhesymol, os oes angen, drwy gydol y broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth.