Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ymunwch â phanel penderfynu ieuenctid ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Mae'r Rheolwyr Portffolio Verity Caiger a Renu London yn dweud wrthym am 2 rôl newydd sydd ar gael i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar sut mae grantiau’r Loteri Genedlaethol yn cael eu buddsoddi mewn gweithredu hinsawdd.

Rydym yn chwilio am 2 berson rhwng 18 a 30 oed i ymuno â'n panel penderfynu Cronfa Gweithredu Hinsawdd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i benderfynu sut mae miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.

Trwy ymuno, byddwch chi’n:

  • dod â safbwyntiau pobl ifanc i mewn i benderfyniadau ariannu

  • helpu prosiectau sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd

  • cefnogi dyfodol tecach

Pam mae'r cyfle hwn yn bwysig

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cymuned yw’r man cychwyn. Bob wythnos, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £30 miliwn ar gyfer achosion da.

Rydym yn defnyddio'r arian hwn i:

  • gefnogi prosiectau sy'n helpu cymunedau i fyw bywydau iachach

  • cryfhau eu cysylltiadau

  • helpu eu pobl ifanc i ffynnu

  • siapio gweithredu amgylcheddol

Mae ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan allweddol o'r gwaith hwn. Ers 2019, mae wedi buddsoddi £180 miliwn mewn 184 o brosiectau, gan helpu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i weithredu ar newid hinsawdd.

Mae ariannu wedi cefnogi gwaith mewn meysydd fel ynni, byd natur, gwastraff a defnydd a’r gronfa Ein Dyfodol Ni. Mae'r gronfa hon yn cysylltu gweithredu hinsawdd â bywydau bob dydd a diddordebau cymunedau lleol.

Rydym yn gwybod bod pobl ifanc eisoes yn arwain newid yn eu cymunedau. Mae llais ieuenctid wrth wraidd ein grantiau ac mae'r rôl hon yn sicrhau bod y llais hwnnw yn siapio penderfyniadau ar lefel genedlaethol.

'Oherwydd fy mod yn teimlo parch a fy mod yn cael fy nghlywed, rydw i nawr yn cerdded i mewn i ystafelloedd eraill ac yn disgwyl yr un peth... Mae'r bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn cerdded i ffwrdd gyda'r hyder hwnnw hefyd, gan wybod bod yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud yn bwysig' – Ffion, Cynghorydd Llais Ieuenctid ers 2025.

Beth fyddwch chi'n ei wneud fel Aelod o'r Panel

'Rhan fwyaf cyffrous y rôl yw cwrdd â phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig a chael clywed am eu taith a'u profiad byw' – Fatemah, Cynghorydd Llais Ieuenctid ers 2025.

Fel aelod o banel penderfynu’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, byddwch yn helpu i wneud penderfyniadau ar geisiadau ariannu hanfodol. Mae'r prosiectau hyn fel arfer yn amrywio o £500,000 i £7 miliwn ac yn cael effaith eang.

Er mwyn helpu i lywio'r llwyth nesaf o brosiectau, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau panel a chydweithwyr eraill ar draws y gronfa. Byddwch yn defnyddio argymhellion a thystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus, teg.

Yn y rôl hon, byddwch chi’n:

  • cyfrannu at benderfyniadau ariannu sy'n cefnogi gweithredu hinsawdd ledled y Deyrnas Unedig

  • dod â'ch profiad byw a'ch mewnwelediadau i drafodaethau

  • helpu i sicrhau bod penderfyniadau'n deg, yn dryloyw ac yn gynhwysol

  • datblygu sgiliau mewn gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth

  • monitro sut mae grantiau yn perfformio a'r effaith y maent yn eu cael

  • gweithredu fel llysgennad i'r gronfa

  • cryfhau eich profiad mewn llywodraethu a rolau cyhoeddus

Mae pob penderfyniad yn cael ei arwain gan Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, gan gynnwys uniondeb, atebolrwydd a bod yn agored. Mae'r egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol ac er y budd mwyaf.

Beth fyddwch chi'n ei ennill

'Trwy fod yn rhan o'r gronfa... rydych chi'n teimlo bod yr adborth rydych chi'n ei roi, eich diddordeb, eich mewnbwn – mae popeth yn cael ei werthfawrogi'n wirioneddol, yn cael ei glywed ac - yn bwysicaf oll - yn cael ei weithredu - Fatemah, Cynghorydd Ieuenctid ers 2025.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i adeiladu eich gwybodaeth a'ch profiad mewn sefydliad cenedlaethol tra'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae llawer o'r bobl ifanc sy'n gweithio gyda ni yn gweld bod y math hwn o waith yn eu helpu i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol, tra hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl.

Gallwch glywed mwy gan ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid, Fatemah a Ffion, a phobl ifanc anhygoel eraill sy'n arwain newid yn eu cymunedau yn ein podlediad Lleisiau ar Waith.

Pwy rydyn ni'n chwilio amdano

Rydyn ni eisiau clywed gan bobl ifanc gydag amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Nid oes angen i chi fod wedi eistedd ar banel o'r blaen. Yr hyn sy'n bwysig yw eich persbectif, eich parodrwydd i ymgysylltu, a'ch ymrwymiad i gymunedau.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl sy'n gallu dangos:

  • dealltwriaeth o brofiadau pobl ifanc - efallai y bydd gennych brofiad o gynrychioli pobl ifanc mewn rôl ffurfiol, neu drwy waith cymunedol, eiriolaeth neu dan arweiniad ieuenctid

  • ymwybyddiaeth o gymunedau a chymdeithas - diddordeb yn y materion cymdeithasol, gwleidyddol neu ddiwylliannol sy'n effeithio ar eich cymuned a sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ymateb

  • sgiliau cyfathrebu cryf - gallwch rannu eich barn yn glir, gwrando ar eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth barchus.

  • gwneud penderfyniadau meddylgar - gallwch ystyried gwybodaeth o wahanol ffynonellau a chydbwyso blaenoriaethau cystadleuol

  • ymrwymiad i gynhwysiant - rydych chi'n deall pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig. Ac rydych chi'n cael eich ysgogi i weld y rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau ariannu

  • adeiladu perthynas - rydych chi'n gyfforddus yn gweithio gyda phobl newydd a chydweithio

  • ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb cyhoeddus - rydych chi'n gwerthfawrogi tegwch, tryloywder a llywodraethu da yn y ffordd y gwneir penderfyniadau

Os nad ydych yn siŵr a yw'ch profiad yn gweddu, rydym yn eich annog i wneud cais. Mae profiad byw, cyfranogiad cymunedol a gwahanol safbwyntiau i gyd yn werthfawr.

Ymrwymiad amser a thaliad

Rydym am i'r rôl hon fod yn hygyrch ac yn rheoladwy ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill fel cyfrifoldebau gwaith, astudio neu ofalu.

Gofynnwn i chi ymrwymo i:

  • 9 diwrnod y flwyddyn

  • cyfarfod gyda'r panel bob 3 mis – mae'r rhan fwyaf o gyfarfodydd ar-lein ond mae 1 cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn (bydd pob cyfarfod panel yn cymryd tua 5-6 awr)

Mae dyddiadau gwneud penderfyniadau panel sydd i ddod yn cynnwys:

  • 17 Medi 2026

  • 10 Rhagfyr 2026

  • 11 Mawrth 2027

Cynigir y rôl am dymor cychwynnol o hyd at 2 flynedd, gydag adolygiad ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Mae Aelodau'r Panel yn cael eu talu £1,962 y flwyddyn. Maen nhw hefyd yn cael costau teithio a chynhaliaeth.

Pam nawr

Mae ein Strategaeth, Cymuned yw’r man cychwyn, yn gosod ein cyfeiriad hyd at 2030. Mae'n canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i gysylltu a gweithredu ar y materion sydd bwysicaf iddynt.

Mae gweithredu amgylcheddol yn rhan allweddol o hyn ac mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd, colli natur ac anghydraddoldebau amgylcheddol yn gydgysylltiedig. Gwyddom fod yn rhaid i atebion gael eu llunio gyda chymunedau, nid ar eu cyfer. Mae dod â phobl ifanc i'r broses penderfynu yn gam hanfodol i wneud hyn yn dda.

Sut i wneud cais

I wneud cais, mae angen i chi:

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 11.59pm 3 Gorffennaf 2026.

Dylech ddweud wrthym:

  • am eich profiadau

  • eich persbectif

  • Pam mae'r rôl hon yn bwysig i chi

Lawrthlwythwch y pecyn ymgeisio

Pecyn ymgeisio panel ieuenctid (ZIP, 775KB)