Ymchwil newydd yn dangos sut i wneud swyddi gwyrdd yn fwy hygyrch i bawb yn ystod Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd
30 Hydref 2025
Mae partneriaeth arloesol rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Greenworkx yn nodi atebion ymarferol i oresgyn y rhwystrau sy'n wynebu cymunedau sydd wedi'u tanwasanaethu'n hanesyddol wrth iddynt geisio cael mynediad at swyddi gwyrdd
Mae’r adroddiad newydd a gyhoeddwyd yn ystod Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn datgelu bod 88% o’r rhai sy’n ddi-waith ac yn ymgeisio am swyddi gwyrdd yn dweud mai gofynion y cyflogwyr am brofiad yw'r rhwystr mwyaf, tra bod 83% yn dweud y byddai cysgodi neu brofiad gwaith yn eu helpu fwyaf
Mae cymunedau sydd wedi'u tanwasanaethu yn cael eu cau allan o swyddi gwyrdd, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddir yn ystod Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd (3-8 Tachwedd 2025). Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd fewnwelediadau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, a Greenworkx, y cwmni technoleg addysg newydd sy'n meithrin y gweithlu ar gyfer dyfodol gwydn.
Nododd yr astudiaeth saith rhwystr allweddol, yn amrywio o gyfyngiadau ariannol a diffyg profiad gwaith i lwybrau gyrfa aneglur ac arferion recriwtio cyflogwyr sy'n dibynnu'n fawr ar rwydweithiau anffurfiol. Mae'r rhwystrau hyn yn gwaethygu ei gilydd, gan effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd eisoes wedi'u tangynrychioli yn y gweithlu, fel pobl â heriau symudedd neu'r rhai sy'n newydd i'r DU.
Mae'r ymchwil yn argymell cyflwyno gwelliannau ar draws y system trwy raglenni a gynlluniwyd ar y cyd â chyflogwyr, gydag atebion ymarferol fel cysgodi swyddi gyda graddedigion llwyddiannus yn helpu pobl newydd i gael profiad, creu canllawiau clir sy'n dangos beth mae "parod am swydd" yn ei olygu mewn gwirionedd, dod â grwpiau cymunedol, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr ynghyd i weithio ar nodau cyffredin, ac arianwyr yn annog prosiectau i ystyried sut i greu swyddi gwyrdd lleol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru ac Arweinydd ar yr Amgylchedd i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae mwy a mwy o swyddi gwyrdd o ansawdd da yn dod ar gael, yn amrywio o ddiwydiannau fel solar a gosod pympiau gwres hyd at gadwraeth natur, ac mae'r adroddiad hwn yn ein helpu i ddeall y rhwystrau'n well a sut i gefnogi mwy o bobl i yrfaoedd gwyrdd. Drwy weithio gyda phartneriaid arloesol fel Greenworkx, rydym yn arloesi dulliau newydd sy'n gwneud gweithredu amgylcheddol yn berthnasol ac yn hygyrch i gymunedau a allai fel arall gael eu gadael ar ôl. Er enghraifft, mae ein rhaglen Camau Cynaliadwy Cymru yn helpu pobl ifanc ag anableddau a/neu o gymunedau lleiafrifol ethnig ledled Cymru i yrfaoedd gwyrdd, gan fuddsoddi dros £12m mewn pedwar prosiect partneriaeth ledled Gogledd, Gorllewin a De Cymru.
Boed drwy fentrau ar raddfa fawr fel y rhain neu ar lefel gymunedol ar lawr gwlad, gall y prosiectau a ariannwn ledled y DU gael effaith fawr drwy ymgorffori gyrfaoedd gwyrdd - byddem yn annog unrhyw un sydd â syniad ar gyfer prosiect amgylcheddol i ymweld â'n gwefan i gael gwybod mwy a gwneud cais am grant.”
Mae ymwybyddiaeth gyfyngedig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn rhwystr allweddol sy'n atal unigolion rhag hyd yn oed ystyried gyrfaoedd gwyrdd. Canfu adroddiad sgiliau gwyrdd gan WorldSkills UK (PDF, 7,164 KB) nad yw 44% o bobl ifanc yn deall pa swyddi gwyrdd sydd ar gael ac nad yw 41% yn deall pa sgiliau gwyrdd y mae cyflogwyr eu hangen.
Mae gwaith Foothold Cymru gyda phobl ifanc rhwng 15 a 30 oed yng Nghymru, wrth baratoi ar gyfer eu prosiect Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd, yn cefnogi hyn. Canfu fod gan bobl ifanc ddiffyg ymwybyddiaeth am yr ystod eang o swyddi y gellir eu hystyried yn wyrdd. Mae'r ymwybyddiaeth gyfyngedig hon, a'r ansicrwydd ynghylch diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor gyrfaoedd gwyrdd, hefyd yn effeithio'n anuniongyrchol ar ddewisiadau gyrfa, gan y gall ffrindiau, teulu, a chynghorwyr gyrfa - sydd i gyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddylanwadu ar benderfyniadau – fod yn brin o wybodaeth a hyder ar gyfleoedd gyrfa gwyrdd, neu hyd yn oed berswadio pobl rhag dilyn gyrfaoedd gwyrdd.
“Does neb am eich cyflogi oni bai bod gennych y profiad - ond sut ydych chi'n cael y profiad os na chewch chi eich cyflogi?” - Shabana, 20 oed
Mae'r ymchwil yn dangos, gyda gweithredu bwriadol ac ymyrraeth systemig, y gall y trawsnewid gwyrdd fod yn ffynhonnell cyfleoedd, gwydnwch, a chynhwysiant i bawb. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwriadu ymgorffori'r mewnwelediadau hyn i ddylunio rhaglenni yn y dyfodol, tra bod Greenworkx yn archwilio sut i ehangu’r cynlluniau peilot llwyddiannus i gyrraedd hyd yn oed mwy o ymgeiswyr a swyddi. Mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i rannu'r canfyddiadau hyn gyda'r sector ehangach i gyflymu’r cynnydd tuag at ddatblygu gweithlu gwyrdd cynhwysol.
Dywedodd Mat Ilic, Prif Swyddog Gweithredol Greenworkx: “Yn Greenworkx, credwn mai pobl yw'r ateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'r trawsnewid mewn ynni yn gyfle i filiynau o bobl gael gwaith ystyrlon, ac rydym yn gwneud y cyfleoedd hyn yn hygyrch, yn enwedig i gymunedau a allai fel arall gael eu gadael ar ôl.
Trwy ein partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym wedi mynd y tu hwnt i nodi'r rhwystrau sy'n dal pobl yn ôl: rydym wedi datblygu argymhellion ymarferol i oresgyn y rhwystrau hyn, ac wedi treialu atebion gan gyflogwyr sy'n pontio'r bwlch hanfodol rhwng hyfforddiant a chyflogaeth, sef lle gwelwn yr heriau mwyaf o ran parodrwydd, hyder a recriwtio.
Gobeithiwn y bydd y mewnwelediadau a'r argymhellion yn yr adroddiad newydd hwn yn llywio dull mwy systemig o ddatblygu’r gweithlu gwyrdd, fel y gallwn ddatblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen i bweru'r trawsnewid mewn ynni gan sicrhau bod y cyfleoedd a grëir yn gynhwysol, yn gredadwy, ac wedi'u hadeiladu i bara."
Nodiadau i'r golygydd
Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Gorffennaf a Medi 2025 drwy gyfuniad o arolygon, grwpiau ffocws byw, adolygiad llenyddiaeth a chyflawni peilot.
Mae'r adroddiad llawn "Overcoming barriers to green energy jobs for historically underserved communities" ar gael yma Greenworkx | 10 million green jobs in 10 years.