Ymateb i Alwad Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am Dystiolaeth - Achosion Da'r Loteri Genedlaethol: Ariannu'r Hyn Sy'n Bwysig i Chi
01 Gorffennaf 2026
Ymateb i alwad am dystiolaeth 'Achosion Da'r Loteri Genedlaethol: Ariannu'r Hyn sy'n Bwysig i Chi,', a gyhoeddwyd heddiw gan y Llywodraeth, gan ein Prif Swyddog Gweithredol David Knott
Mewn ymateb i'r Galwad am Dystiolaeth 'Achosion Da'r Loteri Genedlaethol: Ariannu'r Hyn Sy'n Bwysig i Chi,' a gyhoeddwyd heddiw gan y Llywodraeth, dywedodd David Knott, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
"Rydym yn croesawu'r alwad hon am dystiolaeth - mae'n hanfodol sicrhau bod yr achosion da sy'n cael eu hariannu trwy haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael eu gyrru gan anghenion, gobeithion a dyheadau pobl ledled y wlad ymhell i'r dyfodol.
Byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig a deiliaid grant i sicrhau bod hyn yn adeiladu ar ein profiad ar y cyd o ddarparu grantiau sy'n newid bywydau i gymunedau dros y 30 mlynedd diwethaf. Dangosodd ein Hadroddiad Effaith diweddar ein bod wedi cyrraedd dros 7 miliwn o bobl yn uniongyrchol gyda dros 13,000 o grantiau y llynedd; mae cymaint mwy y gallwn ei wneud i gefnogi cymunedau ac rydym yn annog pobl i rannu eu barn a'u straeon."