Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Trawsgrifiad o brif araith David Knott A fydd datganoli yn stopio gyda sefydliadau?

Dydd Mawrth 7 Gorffennaf, gwnaeth David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, brif araith yn San Steffan 'A fydd datganoli yn stopio gyda sefydliadau?'. Galwodd ar y llywodraeth, arianwyr a gweision cyhoeddus i ddefnyddio'r amser hwn o adnewyddu cenedlaethol i fynd y tu hwnt i ariannu yn unig a rhoi'r pŵer i gymunedau gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Adfywiad Gedling

Rwyf o Nottingham.

Cefais fy magu yn Sherwood yn gyntaf, yna i fyny llethrau serth Gedling.

Nid yn San Steffan. Na Manceinion. Un o'r llefydd yna yn y canol y gall y ddadl genedlaethol ei anghofio weithiau.

Efallai y dylem eu galw yn Canol-diroedd.

Ond mae llefydd fel yma yr un mor bwysig.

Roedd Gedling yn dir glofaol.

Yn fy arddegau byddwn yn ymlwybro i fyny'r bryn at y siop bapurau newydd, punt yn fy mhoced, a rhifau'r Loteri wedi'u cofio.

Yn teimlo'n obeithiol iawn.

Roedd y pentref o'm hamgylch yn edrych yn wahanol i sut roeddwn i'n teimlo.

Glofa Gedling wedi'i guro a'i gleisio...

Pentyrrau sborion du ac offer troi rhydlyd, yn gorwedd dros y bryniau.

Roedd yn taflu cysgod dros ein cymuned…

Yn ein hatgoffa o'r hyn a gollwyd.

Am bron i ganrif, roedd mwmian y pwll glo yn cadw curiad.

Roedd mwy na 2,000 o bobl o dros 30 o wledydd yn gweithio'r pwll glo hwnnw.

Daeth yn adnabyddus fel Pwll Glo'r Cenhedloedd o ganlyniad.

Cymuned o bobl galed a oedd yn llafurio gyda'i gilydd, nad oeddent yn edrych, meddwl nac yn swnio'r un peth.;

Ond oedd yn rhannu cysylltiad cyffredin, a balchder yn ei gilydd, o dan y ddaear.

Ac ar yr wyneb, tyfodd cymuned o'i amgylch: Ysgolion, capeli, clybiau gweithwyr, tafarndai, elusennau…

Seilwaith cymdeithasol cyffredin lle.

Felly pan stopiodd olwynion y pwll glo droi yn 1991, fe nododd gymaint mwy na diwedd diwydiant yn unig.

Fy dynnwyd diwydiant yr oedd bywyd bob dydd Gedling wedi ei sefydlu o'i amgylch.

Ond ni ddiflannodd y gymuned - na'r cysylltiad, y balchder a'r atgofion.

Fe gymerodd 25 mlynedd hir i adnewyddu a throi'n Barc Gwledig Gedling.

Heddiw mae bywyd gwyllt wedi cymryd lle bywyd y pwll glo.

Man lle mae ffrindiau a theulu yn dod ynghyd.

Lle'r oedd cerbydau glo unwaith yn teithio.

Ac os byddwn yn ymlwybro i fyny'r bryn hwnnw am fy nhocyn Loteri heddiw…

Byddai Gedling yn edrych llawer mwy gobeithiol nag y gwnaeth bryd hynny.

Nawr gwrandewch - fel pennaeth corff ariannu cyhoeddus, gallwn adeiladu'r stori honno i ddiweddglo clyfar oedd yn dweud - 'ac mae hynny oherwydd grantiau'r Loteri Genedlaethol'.

Ond fyddai hynny ond yn rhannol gywir …

A byddai'n diystyru'r wers.

Oherwydd fel y glowyr ym Mhwll Glo'r Cenhedloedd, daeth llawer o bobl wahanol eraill at ei gilydd i'w adnewyddu:

Busnesau lleol, elusennau, gwirfoddolwyr.

Pobl oedd yn rhoi o'u hamser oherwydd eu bod yn rhannu cysylltiad cyffredin - yn caru'r lle roeddent yn byw - ac oherwydd eu bod yn gwybod beth oedd ar goll, a ble roedd angen adnoddau i fynd.

A gydag arian, caniatâd a chefnogaeth gan sefydliadau fel ein un ni yn gefn iddynt…

Fe wnaethant droi'r pentyrrau sborion du ac offer troi rhydlyd i'r math o le yr oedd ei angen ar Gedling, ac yr oedden nhw ei eisiau,.

Felly mae'r stori honno yn dangos cryfder cymunedau yn dod ynghyd.

Mae hefyd yn dangos y posibilrwydd o adnewyddu pan fydd llywodraeth a chyrff ariannu fel ein hunain yn ymddiried mewn pobl mewn lleoedd a chymunedau fel Gedling gyda phŵer ac asiantaeth.

Dyna'r ddadl rwyf eisiau ei wneud heddiw.

Oherwydd mae gormod o'r Deyrnas Unedig yn teimlo fel y pwll glo wedi iddo gau, a cyn iddo gael ei adnewyddu.

Ac rydyn ni angen adnewyddiad ledled y wlad. Nawr.

Ond ni ddaw wrth i Whitehall, neu unrhyw gorff ariannu, gamu i mewn, darparu grant, ac yna penderfynu 'mae'r gwaith wedi ei gwblhau'.

Na - fe ddaw drwy ddarparu pob math o gymunedau, sydd â'r wybodaeth a synnwyr pwrpasol, gyda phŵer ac asiantaeth dros y penderfyniadau, gwasanaethau a buddsoddiadau sy'n siapio eu bywydau.

A thrwy ymddiried ynddynt, i'r carn.

Y sefyllfa - y foment ar gyfer adnewyddu cenedlaethol

Mae'n rhaid dweud, rwy'n falch iawn o amseru'r ddadl hon.

Byddwn wrth fy modd yn dweud ei fod wedi'i gynllunio.

Oherwydd bod yr union gwestiynau y tu ôl i'r araith hon newydd symud i ganol y ddadl genedlaethol.

Ble ddylai pŵer eistedd? I ble ddylai'r arian fynd?

A phwy ddylai siapio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd cyffredin?

Mae ymyriadau diweddar ar adnewyddu a datganoli wedi rhoi brys i'r cwestiynau hynny sydd eu hangen arnynt ers amser maith.

Mae hwn yn achos i obeithio.

Oherwydd y mae'r reddf y gywir - mae pŵer yn gweithio'n well pan mae'n symud yn agosach at fywydau pobl.

A - nawr - mae Galwad am Dystiolaeth y Llywodraeth ar ariannu achosion da'r Loteri yn dod â'r cwestiwn yn syth atom:

Bydd yn gofyn sut ddylai ein grantiau wasanaethu pobl a chymunedau'n well nawr ac am y degawdau i ddod?

Rydym yn croesawu hynny.

Mwy na hynny, mewn gwirionedd. Pan ddaw i ddiwygio difrifol, rydym yno yn llwyr.

Rydym eisiau ateb hynny, ac yn barod i wneud:

Ers 3 degawd mae'r Gronfa Gymunedol wedi rhoi mwy na £18 biliwn mewn i gymunedau.

Mae ein timoedd yn gweithio ym mhob cod post yn y Deyrnas Unedig.

Mae bron i 80% o'n grantiau yn cael eu dyfarnu drwy Arian i Bawb: grantiau bach sy'n mynd yn uniongyrchol i gymunedau ac yn ymateb i'r hyn maen nhw'n gofyn i ni.

Rydym yn derbyn syniad gan gymuned bob 3 munud, ac yn ariannu un bob 8.

Ac felly dyma ni'n cyrraedd y foment hon, ac i unrhyw gwestiwn ynghylch rhoi mwy o bŵer i gymunedau, gyda degawdau o dystiolaeth ac ymarfer.

Yn ogystal â syniadau, atebion - a chwestiynau ein hunain.

Dyma un yr hoffwn ei ofyn heddiw.

A fydd datganoli yn stopio gyda sefydliadau?

Oherwydd prawf diwygio yw nid o le mae'r pŵer yn dod unig - ond i ble mae'r pwer yn cyrraedd.

Pentref glofaol, tref arfordirol, ystâd ganol dinas, sir wledig - neu gymuned wedi ei greu o amgylch salwch, hunaniaeth neu brofiad a rennir - ni fydd angen yr un ateb ar y rhain.

Ac ni ddaw'r atebion o sefydliadau newydd eu datganoli.

Felly tra bod y foment hon yn achos i obeithio, ac ein bod yn barod am yr her i ddod, rwyf eisiau gwybod nawr - a fydd pŵer ac asiantaeth yn cyrraedd yr holl ffordd i'r cymunedau hynny lle mae gwybodaeth, perthnasau ac arweinyddiaeth, wedi ei gyfuno gyda phŵer, yn gwneud i ddiwygiad weithio?

Oherwydd os ydym am wneud hyn yn gywir, dyna sydd angen digwydd.

Problem - trin pobl fel derbynwyr cyn cyfranogwyr

A dyma'r risg.

Gall cymunedau barhau i fod yn dderbynwyr goddefol o gymorth, yn hytrach na chyfranogwyr gweithredol, hyd yn oed mewn gwlad fwy datganoledig.

Gall pŵer symud o'r llywodraeth i neuadd dref, i ystafell gyfarfod, neu gorff cyhoeddus newydd …

A pharhau i adael cymunedau allan.

Yn cael eu hymddiried digon i ddal pob dim o'r tu allan, ond heb eu hymddiried digon i gael eu croesawu i mewn.

Dyna un o'r rhesymau pam mae cymaint o bobl yn teimlo'n rhwystredig.

Meddyliwch am y pwysau y mae cymunedau wedi gorfod eu dioddef.Difrod y chwalfa ariannol, blynyddoedd o galedi, yr argyfwng ynni, COVID-19, costau byw.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hymestyn. Mae cyllid cyhoeddus yn gyfyngedig. Mae'r galw yn cynyddu.

Ac mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau yn hynod fregus.

Ar ben hynny, ni ellir datrys llawer o'r heriau anoddaf sy'n ein hwynebu - iechyd gwael, unigrwydd, cyfleoedd i'r ifanc, heneiddio, dirywiad cymdogaeth - gan wasanaethau yn unig.

Mae angen perthnasoedd, asiantaeth, a gallu cymunedol cyn i'r argyfwng gyrraedd.

Mae pob un o'n deiliaid grantiau yn brawf nad oes gan y broblem sy'n ein hwynebu unrhyw beth i'w wneud â diffyg ewyllys cymunedol, neu nerth.

Er gwaethaf pwysau ar ôl pwysau, mae pobl wedi cadw drysau ar agor, gofalu am deuluoedd, cadw cymdogaethau gyda'i gilydd, a dod o hyd i'r atebion a gollodd sefydliadau mawr.

Ond yn rhy aml, mae'r sefydliad yn diffinio'r broblem.

Mae'n dylunio'r ymateb, yn rheoli'r arian, yn casglu'r dystiolaeth.

Ac yn gofyn am farn unwaith y bydd y prif ddewisiadau wedi'u gwneud.

Felly, mae'r wlad yn parhau i ddibynnu ar gryfder cymunedau wrth roi diffyg pŵer iddynt dros yr amodau sy'n gwneud y cryfder hwnnw yn angenrheidiol.

I ni yn y Gronfa Gymunedol, mae'r un broblem yn ymddangos yn y model ariannu.

Rydym wedi cefnogi angen brys trwy argyfyngau dro ar ôl tro.

Roedd hynny'n iawn.

Ni all teulu mewn argyfwng aros am strategaeth ddeng mlynedd.

Ond ni all cefnogaeth brys ddod yn fodel gweithredu cyfan.

Ac yn aml mae ariannu tymor byr yn gofyn i bobl rannu bywydau cysylltiedig yn brosiectau ar wahân: problem iechyd yno, problem tai yma, prosiect ieuenctid yn rhywle arall.

Gallai pob prosiect lwyddo. Gallai pob un ddiwallu angen uniongyrchol.

Ond gellir gadael pobl yn parhau i ymdopi, heb yr asiantaeth i newid yr hyn sy'n cynhyrchu'r angen hwnnw yn y lle cyntaf.

Ar ôl 30 mlynedd o ddysgu a gwrando, rydym bellach yn gweld 2 beth yn glir:

Mae ein cymunedau ymhell o fod wedi torri: unrhyw beth ond.

Ond - rydym wedi camgymryd eu gwytnwch fel gallu anorchfygol i ddioddef.

Ni all hynny fod y cytundeb ar gyfer y cam nesaf.

Yn enwedig gan eu bod wedi bod yn dangos i ni, trwy'r amser, sut mae'r adnewyddu sydd ei angen arnom i gyd yn gweithio.

Ateb 1 - y newid cenedlaethol

Felly, sut ydyn ni'n manteisio ar y foment bresennol?

Sut ydyn ni'n gwneud i ddatganoli weithio a throi optimistiaeth yn gynllun?

Mae angen trefniant mwy hyderus ar y cam nesaf.

Un lle mae sefydliadau yn llawer mwy parod i ddatganoli pŵer - ac asiantaeth - i'n cymunedau.

Sefydliadau, gyda llaw, sydd ei angen arnom yn ddirfawr...

Wrth gwrs ein bod eu hangen, nhw sy'n cynrychioli, yn casglu ac yn adlewyrchu ein cymunedau.

Ond mae'n rhaid iddyn nhw - gan gynnwys ni ein hunain - drwsio arferion drwg.

A bod yn fwy ymddiriedus.

Sy'n golygu cynnwys cymunedau cyn gosod blaenoriaethau. Cyn penderfynu ar gyllidebau. Cyn i bolisïau galedu. Cyn i raglen, targed neu wasanaeth ddiffinio'r broblem ar eu rhan.

Dyma'r naid y mae'n rhaid i'r llywodraeth, arianwyr, a sefydliadau - y rhai sydd mor arfer â gwneud yr holl benderfyniadau eu hunain - ei wneud.

Ar adeg lle mae ymddiriedaeth mor isel, os nad ydym yn gwneud ei ailadeiladu yn brif flaenoriaeth, prin y bydd y newidiadau a wnawn - waeth pa mor dda - yn mynd i unman.

Nawr, ym Manceinion Fwyaf, rydym wedi partneru ag arweinwyr lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedau i wneud Byw'n Dda yn bosibl.

Mae'n gefnogaeth sy'n cael ei adeiladu yn sylfaenol o amgylch pobl a pherthnasoedd, nid yn unig o amgylch gwasanaethau.

Ac er bod cefnogaeth y Gronfa Gymunedol wedi helpu i greu'r gofod i hynny ddigwydd ar raddfa, daeth y gwir bŵer o'r bartneriaeth ei hun - y bobl sy'n gweithio gyda chyrff cyhoeddus o'r cychwyn cyntaf.

Dyna'r union fath o ymddygiad sefydliadol sydd ei angen arnom: pŵer sydd ddim yn stopio gyda nhw, ond adnoddau cenedlaethol yn cefnogi uchelgais leol, a chymunedau sy'n cymryd rhan ar y dechrau i lunio'r ateb.

Mae penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud pan fydd gwybodaeth a phrofiad lleol yn cael eu trin fel deallusrwydd annatod.

Dyna sut rydyn ni'n ailadeiladu ymddiriedaeth, cryfhau democratiaeth, creu cymdeithas fwy ataliol a chyfranogol - a gwneud i adnewyddu cenedlaethol ddigwydd.

Ateb 2 - beth mae'r Gronfa Gymunedol yn awgrymu ei wneud

Er mwyn helpu i wneud hynny, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwriadu chwarae rôl wahanol, fwy.

Ac rydyn ni'n mynd i fod yn llawer mwy gweithgar, ac yn fwriadol, ynglŷn â datrys y broblem gyda'n model ariannu presennol.

Oherwydd mae'r cam nesaf yn gofyn i ni fod yn llawer mwy nag ariannwr a darparwr grantiau.

Mae'n gofyn i ni ddarparu cefnogaeth hirdymor ar gyfer gallu cymunedol; ymgynnull, llunio a dylanwadu ar waith gyda chyrff cyhoeddus, llywodraeth leol, busnes, dyngarwch, prifysgolion a chymdeithas sifil, fel y gellir cyflwyno asedau llawn cymunedau a lleoedd.

Rydyn ni'n gwybod bod gennym fwy i'w ddysgu, ac rydyn ni'n gwybod bod mwy y gallwn ei wneud.

Ond oherwydd ein degawdau o brofiad, yr hyn rydyn ni eisoes wedi'i ddysgu, ein pŵer a'n hadnoddau, rydym bellach yn barod i esblygu'r model hwnnw.

Rydyn ni eisoes ar y gweill.

Enw ein strategaeth yw Cymuned yw'r man cychwyn.

Mae ei iteriad nesaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn aros gyda nhw - yn y ffordd y mae problemau'n cael eu diffinio, grantiau yn cael eu siapio, tystiolaeth yn cael ei gasglu, a sut mae pŵer yn cael ei rannu.

Oherwydd bod pawb yn cytuno bod atal yn well na'r iachâd.

Y cwestiwn anoddach yw sut ydyn ni'n ariannu'r stoc bresennol o broblemau yn ogystal ag atal?

Wel, ein hateb yw hyn:

Byddwn yn parhau i ddiwallu angen brys, ond byddwn yn gweithio'n llawer caletach i roi'r asiantaeth, yr ymddiriedaeth a'r pŵer i'r cymunedau lunio'r hyn a ddaw nesaf.

Yn benodol, mae hynny'n golygu:

Dod â chymunedau i mewn yn gynharach.

Trwy raglenni fel You Decide, Have Your Say, a'r Health Inequalities Partnership, rydym yn dysgu sut y gall pobl nodi problemau, dylunio ymatebion a phenderfynu ble mae arian yn mynd.

Pan gymerais ran mewn uwchgynadleddau ar anghydraddoldebau iechyd du, roedd cymunedau yn dangos i ni ble roedd ymddiriedaeth wedi chwalu.

Fe wnaethon nhw ddangos i ni yr atebion a fyddai'n cyrraedd pobl mewn gwirionedd.

Yn ail, byddwn yn ariannu gallu ac nid gweithgarwch yn unig.

Ble bynnag y byddwn yn gwneud grant, byddwn yn gofyn i ni'n hunain - pa angen uniongyrchol fydd hyn yn ei ddiwallu, ond hefyd beth fydd y gymuned hon yn gallu newid yn well oherwydd hynny?

A all y sefydliad hwn gynllunio y tu hwnt i'r misoedd nesaf?

A all arweinwyr lleol siapio'r hyn sy'n digwydd yma?

A all pobl barhau i weithio gyda'i gilydd ymhell ar ôl i'r grant ddod i ben?

Rwy'n meddwl am y Welsh House Farm Green Grafters ym Mirmingham.

Ar ddiwrnod eira, fe wnes i gyfarfod â Graham, y cadeirydd, sydd wedi byw yno trwy gydol ei oes, a Michael, a oedd yn gwella o COVID hir, a oedd wedi dod o hyd i hyder newydd trwy wirfoddoli.

Gyda 3 grant Arian i Bawb, maent yn adeiladu gerddi a gofodau disglair.

Ond aeth ymhellach na hynny: mentora pobl ifanc, trafod gwasanaethau bysiau gyda'r cyngor, a chreu atebion ymarferol i broblemau bob dydd.

Dyna sut mae gallu yn edrych.Mae pobl yn dod yn gallu newid yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas.

A dyna pam mae'r Gronfa Cyfoeth Cymunedol yn bwysig. Mae'n rhoi'r newid i ni gefnogi mwy o'r math hwn o waith - am gyfnod hirach, mewn mannau lle mae pobl yn rhy aml yn cael eu gofyn i ymdopi â phroblemau, yn hytrach na rhoi pŵer ac adnoddau i lunio atebion.

Ac yn drydydd, rydyn ni'n mynd i gario gwybodaeth gymunedol i'r penderfyniadau cenedlaethol mwy.

Dylai profiadau a gwybodaeth cymunedau o bob math fframio penderfyniadau.

Ein gwaith yw ei gysylltu â thystiolaeth, partneriaid a sefydliadau eraill.

Edrychwch ar A Better Start.

Dros ddegawd, mae wedi gweithio gyda mwy na 75,000 o deuluoedd a dros 200 o bartneriaid ledled y Deyrnas Unedig.

Ei wers yw bod atal yn gweithio orau pan fydd rhieni yn cael eu gwrando arnynt ac mae gwasanaethau yn gweithio gyda nhw dros y tymor hir ac ar raddfa genedlaethol.

Dyna'r math o ddysgu lleol y mae angen i ni ymuno â'i gilydd, codi i fyny, a gollwng i mewn i bolisi.

Sy'n golygu ein bod yn dod â mwy o gymunedau, deiliaid grantiau, prifysgolion, arianwyr, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymdeithas sifil at ei gilydd.

Y gofyniad:

Dyna ein cynllun.

Rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ein harian, ein tystiolaeth a'n pŵer ymgynnull i ddiwallu angen uniongyrchol, adeiladu gallu, cefnogi stiwardiaeth a symud pŵer yn agosach at y rhai sy'n deall y problemau.

Ond fel gydag adnewyddu Gedling, ni fydd adnewyddu cenedlaethol yn dod o ariannu gan y Gronfa Gymunedol yn unig.

Felly i'r llywodraeth: daliwch i fynd.

Rydym yn croesawu'r reddf i symud pŵer i ffwrdd o San Steffan.

Ond gwnewch yn siŵr bod pŵer gwneud penderfyniadau a chynllunio yn teithio ymhell y tu hwnt i sefydliadau ac yn cyrraedd yn uniongyrchol i gymdogaethau, rhwydweithiau a chymdeithas sifil.

Byddwn ond yn adennill yr ymddiriedaeth a gollwyd yn ein sefydliadau sydd ei angen arnom i effeithio ar newid trwy ymddiried mwy ynddynt.

Ac rydym am ateb eich cwestiynau. Rydym yn fwy na chytuno - rhaid i arian y bobl fynd i galon cymunedau...

Felly, pan ddaw i ddiwygio brys ac ystyrlon - rydyn ni i mewn yn llwyr.

Rydyn ni yma i helpu.

I gyrff cyhoeddus ac arianwyr eraill: mae angen parhau i weithio gyda sefydliadau sydd eisoes yn ymddiried ym mywydau pobl, a chyn i argyfwng gyrraedd.

Mae angen ariannu gallu hirdymor yn ogystal â phrosiectau gyda chylchoedd adrodd byr.

I'r gymuned academaidd, busnesau, casglwyr tystiolaeth a llywodraeth leol: gweithiwch gyda ni - rydym am adael i brofiadau lleol siapio'r cwestiynau.

Ac i gymdeithas sifil: daliwch ati i drefnu, cydweithio a'n herio ni.

Daliwch ni at yr uchelgeisiau rydyn ni wedi'u gosod i ni ein hunain heddiw.

Ac i bawb: daliwch y balchder a'r cyfrifoldeb rydych chi'n eu cario dros y bobl rydych chi'n eu gwasanaethu.

Mae'r cam nesaf hwn yn perthyn i ni i gyd.

Cau

I'r diwedd.

Nid oes angen i ni boeni am ein cymunedau yn torri, neu'n eu gwneud yn gryfach.

Maen nhw yno eisoes.

Mewn pentrefi ac ystadau.

Mewn grwpiau cymdogaeth ac elusennau lleol.

Yn y bondiau sy'n dal pobl gyda'i gilydd pan fydd popeth o'u cwmpas yn teimlo'n ansicr.

Ewch yn ôl i Barc Gwledig Gedling ac rydych chi'n gweld hyn.

Mae murlun ar wal y caffi yn cofio Pwll Glo'r Cenhedloedd.

Offer troi yr hen lofa.

A baneri gwledydd y glowyr bu'n gweithio yno.

Man oedd yn mwmiam gyda diwydiant sydd bellach yn rhoi rhywbeth yn ol.

Yn ein hatgoffa o'r hyn sy'n weddill.

Cymuned o bobl wahanol iawn...

Cefndiroedd, safbwyntiau a syniadau gwahanol...

Sydd wedi'u huno gyda'i gilydd gan gysylltiad cyfoethog a phwerus.

Oherwydd y mae adnewyddu cenedlaethol yn dechrau gyda chydnabod, nid dyfeisio, cymuned.

Gadewch i ni weithio gyda nhw.

Maen nhw'n gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw, ac eisiau.

Maen nhw'n gwybod beth allan nhw ei adeiladu.

Ac maen nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

Diolch.