Neidio i'r prif gynnwys

Rhannwch eich stori i ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol

Heddiw (19 Tachwedd) yw pen-blwydd y Loteri Genedlaethol. Rydym yn gwahodd mudiadau sydd wedi eu hariannu gennym ledled y DU i gymryd rhan mewn ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. Mae hwn yn gyfle i:

  • ddathlu eich cyflawniadau

  • dangos effaith eich grant

  • diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

I ddathlu'r gwahaniaeth y mae grant gan y Loteri Genedlaethol wedi ei wneud i'ch prosiect, cymuned neu fuddiolwyr:

  • crëwch fideo personol, yn cynnwys ein Pris Lysgennad Claudia Winkleman, gan ddefnyddio'r Cynhyrchydd Achosion Da

  • rhannwch eich fideo ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ar 19 Tachwedd

  • ychwanegwch neges o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ym mhennawd eich neges Facebook, LinkedIn neu Instagram

  • defnyddiwch hashnod yr ymgyrch #OherwyddChi

  • tagiwch ein cyfrifon ar bob platfform: defnyddiwch @TNLCommunityFund ar Facebook ac Instagram, a chwiliwch am The National Lottery Community Fund ar LinkedIn

Peidiwch rannu'r ddolen i'r Cynhyrchydd Achosion Da gydag unrhyw un nad oes angen mynediad i'r safle arnynt. Rhannwch gyda chydweithwyr a fydd yn helpu i greu eich neges diolch yn unig. I gael cymorth i greu'r cynnwys, defnyddiwch y pecyn negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle gwych i chi gael bod yn rhan o foment cenedlaethol. Mae'n rhannu miloedd o brosiectau sy'n newid bywydau bob dydd diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Diolch am ein helpu i ddathlu'r gwahaniaeth y mae grantiau'r Loteri Genedlaethol yn ei wneud.