"Peidiwch â bod ofn gwneud cais" - awgrymiadau gan Little Potting Club ynglŷn â gwneud cais am grant
11 Mawrth 2026
Gall gwneud cais am grant fod yn frawychus. Weithiau y rhan anoddaf yw'r cam cyntaf.
Mae Vicki Davies o'r Little Potting Club yn Swydd Gaerhirfryn, yn dweud y dylai sefydliadau bach "fynd amdani." Yn y blog hwn, mae hi'n rhoi cyngor i sefydliadau bach sydd eisiau gwneud cais am grant.
Derbyniodd Little Potting Club £15,275 o Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Lloegr. Mae'r grant yn cefnogi clwb garddio a natur i blant a'u teuluoedd.
Allwch chi ddweud wrthym am eich prosiect?
Mae'r Little Potting Club yn darparu gweithgareddau garddio i blant a'u teuluoedd. Ond dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i fod yn llawer mwy.
Rydym yn tyfu ffrwythau a llysiau yn ein gardd gymunedol. Rydym hefyd yn cynnig:
- cadwraeth natur
- gweithgareddau gwyddoniaeth
- crefftau natur
Rydym yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol teuluoedd ac yn eu hannog i fynd allan ym myd natur. Mae'r gweithgareddau yn rhad ac am ddim i bawb gymryd rhan.
Beth oedd yr her fwyaf gyda'ch cais?
Ei gychwyn. Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddem yn ddigon teilwng neu'n ddigon pwysig i gael grant.
Fe wnaethom fynychu cyflwyniad a gynhaliwyd gan Swyddog Ariannu lleol o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Fe wnaeth hyn ein sicrhau ein bod yn bodloni'r meini prawf ac yn gallu gwneud cais am grant.
Helpodd y cyflwyniad i ni wybod beth oedd angen i ni ei wneud a rhoddodd bwynt cyswllt i ni. Os gallwch fynychu cyflwyniad ariannu lleol byddwn yn argymell mynd.
Sut wnaethoch chi fynd â'ch prosiect o syniad i gais ysgrifenedig?
Roedd y prosiect eisoes wedi'i sefydlu'n dda ac wedi'i ymgorffori yn y gymuned. Yn syml, ysgrifennais yr hyn yr oeddem yn angerddol amdano a'r gwaith da rydyn ni'n ei gyflawni yn y clwb. Gadewais i'r clwb ddisgleirio drosto'i hun.
Roedd hefyd yn helpu i gael aelod o staff i gysylltu â nhw. Mae gallu e-bostio person mor werthfawr.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i sefydliadau bach sy'n gwneud cais am grant?
Fy nghyngor i sefydliadau bach yw:
- cael nod clir ar gyfer eich prosiect
- gofyn am help os oes ei angen arnoch
- peidio â bod ofn gwneud cais
Gall ymgeisio deimlo’n frawychus ond ewch amdani.
Pa effaith gadarnhaol mae eich prosiect wedi'i chael hyd yn hyn?
Agorodd y prosiect gymaint o ddrysau, mae wedi:
- rhoi cyfle i deuluoedd gymryd rhan am ddim
- darparu amgylchedd dysgu hamddenol
- helpu’r gymuned ehangach i fwynhau'r blodau rydyn ni'n eu plannu yn y parc a'r ardd gymunedol, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n mynychu'r clwb
Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Loteri Genedlaethol am roi cyfleoedd ariannu fel hyn i grwpiau bach.