Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Partneriaeth newydd ledled y Deyrnas Unedig i atgyfnerthu garddio cymunedol a bod o fudd i fwy o bobl

  • Mae'r RHS, Hubbub a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi uno ar gyfer rhaglen newydd sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

  • Arian i ymgynnull a thyfu symudiad garddio cymunedol, cefnogi creu gofodau gwyrdd newydd, gyrru effaith a hysbysu datblygiad polisi

23 Mai, 2026

Bydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), Hubbub a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn buddsoddi £3.8 miliwn i dyfu symudiad garddio cymunedol y Deyrnas Unedig yn dilyn derbyn grant gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Bydd y grant yn helpu 20,000 o erddi cymunedol sy'n bodoli eisoes i ehangu ar eu cyrhaeddiad ac effaith, i ysbrydoli'r bron i 15 miliwn sydd eisiau cychwyn garddio yn eu cymuned a helpu i sicrhau tir ar gyfer tyfu mewn ardaloedd lle mae mynediad cyfyngedig at ofodau gwyrdd.

Gall gerddi cymunedol chwarae rôl bwysig wrth helpu cymunedau i ymateb i heriau lleol, o greu cyfleoedd i bobl gysylltu drwy arddio a thyfu bwyd, i gefnogi cymdogaethau i fod yn fwy gwyrdd ac adfer natur leol. Mewn llawer o leoedd, maent hefyd y cyfrannu tuag at fuddiannau amgylcheddol ehangach fel bioamrywiaeth, oeri trefol a gwydnwch hinsoddol.

Tra bod 4% (2.5 miliwn) eisoes yn garddio yn eu cymuned, mae pumed o'r boblogaeth yn awyddus i gymryd rhan. Serch hynny, mae dros hanner (56%) o grwpiau garddio cymunedol yn gofidio am eu dyfodol. Mae dros chwarter (30%) yn dibynnu ar gyllideb o lai na £500 y flwyddyn, dim ond 3% sy'n meddu ar eu tir eu hunain, tra bod nifer o grwpiau yn adrodd ar y diffyg sgiliau arweinyddiaeth, gweinyddiaeth a marchnata sydd eu hangen i gynnal a thyfu eu cyfleoedd.*

Bydd partneriaeth yr RHS, Hubbub a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn ceisio diogelu dyfodol y symudiad garddio cymunedol drwy ehangu ymwneud, datblygu sgiliau, cryfhau rhwydweithiau, gweithio gydag awdurdodau lleol a chynnig cyfleoedd i grwpiau ddylanwadau ar benderfyniadau.

Elfen allweddol o'r rhaglen yw platfform ar-lein newydd, fydd yn lansio yn 2028, a fydd yn cynnig ystod o offer ymarferol gan gynnwys cyngor ar dyfiant drwy'r flwyddyn, gweithdai tyfu cynaliadwy, rhaglenni mentora a dulliau digidol o fesur a phrofi cynaliadwyedd. Bydd y platfform hefyd yn cyfeirio pobl tuag at adnoddau allanol fel grantiau sydd ar gael.

Bydd y platfform hefyd yn gwasanaethu fel lle i grwpiau gwrdd, rhannu eu storïau a recriwtio gwirfoddolwyr, gydag ymgyrchoedd cefnogi gan y partneriaid i gysylltu pobl ifanc awyddus 18 i 35 oed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyda gerddi cymunedol. Bydd y rhaglen yn gweithio gyda Thrive i helpu ymdrin â rhwystrau systematig i gymryd rhan - yn enwedig ar gyfer rheiny heb gynrychiolaeth ddigonol a thyfwyr sydd ag anghenion ychwanegol - drwy ddulliau cydweithredol sydd wedi cael eu creu ar y cyd.

Bydd dod â’r sector ynghyd hefyd yn uno galwadau i weithredu ar lefel lleol a chenedlaethol ac yn helpu gyrru newid. Bydd uwchgynhadledd flynyddol, gyda’r cyntaf yn 2026, yn dod â garddwyr, arianwyr a llunwyr polisi ynghyd i drafod materion allweddol a dathlu potensial.

Dywedodd Sarah Galvin, Pennaeth Rhaglenni Cymunedol Cenedlaethol gyda'r RHS: "Mae gerddi cymunedol yn seilwaith hanfodol - maent yn cefnogi pobl, y blaned a lleoedd - ond nid yw'r llwybr i greu, cynnal a gwneud y mwyaf o ofodau bob amser yn syml. Ein bwriad yw uno 20,000 o grwpiau garddio cymunedol mewn un symudiad dewr, cynhwysol a datgloi pŵer gofodau gwyrdd i gyflawni gweithredu hinsawdd, atgyfnerthu cymunedau, a gwella bywydau ledled y Deyrnas Unedig."

Dywedodd Gavin Ellis, Cyfarwyddwr gyda Hubbub: "Mae gerddi cymunedol wedi'u profi fel catalyddion ar gyfer gweithredu hinsawdd ar lawr gwlad. Rydym yn genedl sy'n caru natur, sy'n gwneud y gofodau yma yn unigryw o bwerus - lle mae cysylltiad gyda natur yn borth i ymwneud amgylcheddol ehangach. Ond, er bod dros 15 miliwn o bobl eisiau cymryd rhan, mae grwpiau cymunedol yn aml heb ddigon o arian ac wedi eu llethu. Mae'r grant yma yn adnabod gofodau gwyrdd cymunedol fel seilweithiau hanfodol, gan alluogi 20,000 o grwpiau i yrru gweithredu hinsawdd ystyrlon yn eu cymunedau eu hunain."

Dywedodd Gary Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol: “Mae garddwyr cymunedol eisiau rhannu eu sgiliau arbennig, nid yn unig wrth arddio a chysylltu gyda phobl ond yn y ffyrdd maent yn mynd i'r afael â nifer o'r pryderon allweddol mae cymdeithas yn eu hwynebu. Lluniodd eu mewnwelediadau’r rhaglen angenrheidiol hon, a fydd yn dyst i grwpiau garddio yn cefnogi ei gilydd yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y pedair cenedl. Rydym wrth ein bodd bod y rhaglen yn dod â phrofiadau Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Hubbub a'r RHS ynghyd am y tro cyntaf i ddod â nifer o fanteision i gymunedau yn y Deyrnas Unedig, gyda ffocws ar erddi cymunedol hardd cymdogaethau, datblygu sgiliau lleol, mwynhau ymwneud cymunedol a dylanwad gwirioneddol."

Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae gerddi cymunedol yn ymwneud â llawer mwy na phlanhigion a gofodau gwyrdd. Maent yn lleoedd lle mae cyfeillgarwch yn tyfu, hyder yn tyfu a chymunedau yn tyfu'n gryf gyda'i gilydd. Mewn cyfnod lle mae pobl yn chwilio am ffyrdd o wella'u hardal leol, cefnogi natur a theimlo mwy o gysylltiad, mae gerddi cymunedol yn cynnig rhywbeth pwerus, ymarferol a gobeithiol. Rydym yn falch bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu cymunedau i fywiogi'r gofodau yma a chreu newid parhaol lle mae pobl yn byw."

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r RHS, Hubbub a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi derbyn £3,843,344 dros 4 blynedd gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd, ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Daw cyhoeddiad y grant newydd wrth i Sioe Flodau RHS Chelsea ddod i ben gyda 30 o erddi yn paratoi i fyw mewn cymunedau ledled y wlad. Mae'r sioe yn darparu cyllid hollbwysig ar gyfer gwaith elusennol ehangach yr RHS a oedd yn 2025 yn £17miliwn.

Yn ogystal â chreu adnoddau ar gyfer grwpiau garddio cymunedol ledled y wlad, bydd yr RHS yn partneru â Tate Britain a Sefydliad Clore Duffield i ddarparu cyfleoedd dysgu drwy gydol y flwyddyn. Wedi'i lleoli yng Ngardd Clore newydd Tate Britain, y mae'r RHS wedi helpu i'w chreu, bydd yr elusen yn cydweithio â Tate i ddylunio a chyflwyno rhaglen ddeng mlynedd o weithgareddau, a ariennir gan Sefydliad Clore Duffield, ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid, gan gefnogi cysylltiadau cryfach rhwng pobl, celf a phlanhigion.

Am ragor o wybodaeth am arddio cymunedol ewch i gwefan yr RHS.

Nodiadau i Olygyddion

Lle i dyfu: gwireddu potensial y mudiad garddio cymunedol, RHS, 2025 (PDF 4.5 MB, yn agor tudalen Saesneg)