Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

O ariannu prosiectau cymunedol i ariannu pŵer cymunedol

Dyma David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn esbonio pam rydym yn symud o ariannu prosiectau cymunedol i helpu adeiladu pŵer cymunedol.

Fe wnes i dreulio amser yn Bulwell, gogledd Nottingham, yn ddiweddar – ddim yn bell o’r man lle dyfais i fyny yng nghymuned Sherwood ac Arnold. Mae’r rhain yn lleoedd, yn gymunedau ac yn heriau rwy’n eu hadnabod yn dda iawn.

Mae gan Nottingham – ac ardaloedd fel Bulwell – ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chymuned. Mae heriau go iawn yma. Tlodi, salwch, troseddu ac anfantais economaidd. Ond mae rhywbeth arall yma hefyd. Gweithredu ymarferol, siarad plaen a hyderus gan bobl sy’n benderfynol o wella’r lleoedd maent yn bwy ynddynt. Does dim angen gwneud stŵr am hynny.

Wrth ddychwelyd i Bulwell yn ddiweddar, ymwelais â Bulwell Forest Gardens, gofod cymunedol sydd wedi ei gefnogi gan grant Loteri Genedlaethol. Yr hyn wnaeth fy nharo oedd nid y prosiect ei hun, ond yr ymdeimlad o berchnogaeth a chyfranogiad o’i amgylch.

Ymysg y coed pinwydd – a blannwyd yn wreiddiol gan blant ysgol lleol yn y 1980au – mae trigolion lleol a gwirfoddolwyr wedi creu gerddi, pyllau, cabanau a gofodau i’w rhannu. Fe wnaeth gwirfoddolwyr ifanc helpu i adeiladu ardaloedd bywyd gwyllt. Cyfrannodd busnesau lleol a masnachwyr ddeunyddiau a sgiliau. Roedd teuluoedd yn coginio ac yn rhannu bwyd gyda’i gilydd. Roedd plant yn dysgu am fyd natur yn ystod gwyliau ysgol, ac eraill yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, ioga a llesiant.

Ers ei agor, gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth. Wedi dod yn elusen. Cyflogi staff. Datblygu partneriaethau. Ac ehangu’r gefnogaeth a gweithgareddau y mae’n ei gynnig i bobl sy’n bwy gerllaw yn Bulwell.

I mi, roedd yn fy atgoffa nad yw pŵer cymunedol yn gysyniad haniaethol. Dyma’r hyn sy’n digwydd pan fydd pobl leol yn cael y cyfle, hyder a’r gefnogaeth i lunio dyfodol eu hardal eu hunain.

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai cymuned yw’r man cychwyn. Dyna pwy rydym yn gwasanaethu. Ledled y Deyrnas Unedig, rwy’n clywed neges debyg gan gymunedau yn gynyddol: mae pobl eisiau cael eu clywed, eu hymddiried, ac i fod yn rhan o lunio dyfodol y lleoedd maent yn byw ynddynt.

Yn rhy aml, mae pobl yn teimlo bod penderfyniadau yn cael eu gwneud drostyn nhw yn hytrach na gyda nhw. Ond ar yr un pryd, rwy’n parhau i weld enghreifftiau rhyfeddol o gymunedau yn camu ymlaen. Yn cefnogi ei gilydd. Yn datblygu sefydliadau lleol. Yn gwella cymdogaethau ac yn creu cyfleoedd lle mae eraill yn gweld heriau yn unig.

Dyma pam mae cymuned yn bwysicach nag erioed.

Pan wnaethom ni lansio ein strategaeth, Cymuned yw’r Man Cychwyn, fe wnaethom ymrwymo i flaenoriaethu cymunedau sy'n profi'r rhwystrau mwyaf a'r gefnogaeth leiaf. Ond yn gynyddol, credwn fod hyn yn ymwneud â mwy nag ariannu prosiectau unigol neu weithgareddau tymor byr.

Mae'n ymwneud â helpu cymunedau i adeiladu hyder, perthnasoedd, gallu a phŵer parhaol. Y gallu i lunio eu dyfodol eu hunain.

Mae hynny'n gofyn i ni feddwl yn wahanol am sut rydyn ni'n ariannu, gyda phwy rydyn ni'n partneru, a ble rydyn ni'n canolbwyntio ein cefnogaeth. Yn gynyddol, rydym yn symud o ariannu prosiectau cymunedol i helpu i adeiladu pŵer cymunedol.

Mae dull sy'n seiliedig ar degwch yn rhan o'r newid hwnnw. I ni, mae'n golygu cydnabod bod gwahanol gymunedau yn dechrau o wahanol leoedd ac yn wynebu rhwystrau gwahanol. Os ydym am i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig ffynnu, ni allwn bob amser drin pob lle neu bob her yn union yr un modd.

Mae rhai cymunedau angen cefnogaeth ddyfnach, hirach neu fwy hyblyg oherwydd bod yr heriau maen nhw'n eu hwynebu yn ddyfnach hefyd. P'un ai yw hynny'n gymunedau dosbarth gweithiol gwyn sy'n profi dirywiad economaidd hirdymor; cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n wynebu gwaharddiad a gwahaniaethu; cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan hiliaeth strwythurol ac anghydraddoldeb iechyd; neu gymdogaethau lle mae tlodi a bylchau mewn cyfleoedd wedi cael eu gwreiddio dros genedlaethau.

Aeth mwy na hanner ein grantiau yn 2024-2025 i ardaloedd sy'n profi'r lefelau uchaf o dlodi ac anfantais. Ond rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fynd ymhellach - nid yn unig ymateb i geisiadau ond dod yn fwy bwriadol ynglŷn â ble a sut rydyn ni'n buddsoddi.

Yr haf hwn byddwn yn cyhoeddi cyfres o fuddsoddiadau hirdymor sylweddol sy'n canolbwyntio ar gymunedau sy'n profi anghydraddoldeb ac anfantais barhaus - gan gynnwys partneriaethau sy'n mynd i'r afael â hiliaeth strwythurol, anghydraddoldeb iechyd a rhwystrau i gyfleoedd.

Ond nid y newid mwyaf yw'r swm o arian sy'n gysylltiedig. Rydym yn benderfynol i gefnogi arweinyddiaeth gymunedol, profiad byw, a newid hirdymor.

Rydym hefyd yn gwrando'n ofalus ar gymunedau eu hunain am sut rydyn ni’n gweithio. Mae hynny'n golygu bod yn barod i addasu ein prosesau ariannu, lleihau rhwystrau, a gweithio ochr yn ochr â sefydliadau sy'n deall eu cymunedau'n ddwfn.

Er enghraifft, pan wnaethom lansio ein Cronfa Thrive Together, fe wnaethom bartneru gyda GiveBradford i helpu i lunio'r rhaglen a chefnogi’r bobl oedd lleiaf abl i ddod at ei gilydd trwy grantiau cymunedol graddfa fach. Trwy ein Partneriaethau Anghydraddoldebau Iechyd, rydym yn cefnogi sefydliadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hirsefydlog wrth helpu i lunio dulliau i’r dyfodol ochr yn ochr â chymunedau eu hunain.

Rydym yn gwybod na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Ddylem ni ddim chwaith. Mae newid parhaol yn digwydd trwy berthnasoedd, partneriaethau a dysgu. Dyna pam rydym yn buddsoddi mewn Paneli Dysgu Cymunedol a dulliau eraill sy'n galluogi cymunedau a deiliaid grant i lunio ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio - a beth sydd ddim yn gweithio.

Rydym hefyd yn cydnabod ein safle ein hunain. Mewn llawer o ystafelloedd, ni yw'r ariannwr mwyaf sy'n bresennol. Mae hynny'n cario dylanwad, cyfrifoldeb a phŵer.

Wedi'i ddefnyddio'n wael, gall y pŵer hwnnw gau sgyrsiau yn anfwriadol neu atgyfnerthu dibyniaeth. Wedi'i ddefnyddio'n dda, gall helpu cymunedau i ddatblygu hyder, gallu a dylanwad hirdymor iddyn nhw eu hunain. Dyna'r cydbwysedd rydyn ni'n ceisio llywio'n gyson.

Ar adeg pan mae llawer o bobl yn teimlo anghysylltiad â sefydliadau ac yn ansicr am y dyfodol, mae cymuned yn hollbwysig. Nid yn unig fel ffynhonnell o gefnogaeth, ond fel ffynhonnell asiantaeth, cyfranogiad a gobaith.

Ein rôl ni yw nid gorfodi atebion o uwchben, ond cefnogi cymunedau eu hunain - yn enwedig y rhai sy'n rhy aml yn cael eu hanwybyddu - gyda'r ymddiriedaeth, y perthnasoedd a'r buddsoddiad hirdymor sydd eu hangen i lunio eu dyfodol eu hunain.

Dyna'r newid rydyn ni'n ei wneud: o ariannu prosiectau cymunedol i helpu i adeiladu pŵer cymunedol.