Mae cymunedau ledled y DU yn mynd i'r afael â'r argyfwng gwastraff bwyd
05 Mawrth 2026
Wrth i Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd gychwyn, mae ariannwr cymunedol mwyaf y DU yn tynnu sylw at brosiectau llawr gwlad sy'n mynd i’r afael â gwastraff bwyd
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi datgelu heddiw ei bod wedi buddsoddi mwy na £266 miliwn mewn dros 2,600 o brosiectau gwastraff bwyd a chompostio ledled y DU dros y degawd diwethaf - wrth i Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd (9 i 13 Mawrth) daflu goleuni ar un o heriau amgylcheddol mwyaf dybryd y wlad.
Mae'r DU yn cynhyrchu tua 9.5 miliwn tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn - sy'n cyfateb i bwysau Pyramid Mawr Giza. Mae tua dau draean o hynny - hyd at 6.7 miliwn tunnell - yn fwyd a oedd yn dal i fod yn fwytadwy ar yr adeg y cafodd ei daflu i ffwrdd. Mae'r gost i aelwydydd yn arwyddocaol: mae teulu cyffredin yn y DU yn gwastraffu bwyd gwerth tua £470 y flwyddyn, gydag amcangyfrif o wastraff bwyd cartref yn dod i gyfanswm o £14 i 15 biliwn y flwyddyn.
Ar yr un pryd, amcangyfrifir bod 8.4 miliwn o bobl yn y DU yn profi ansicrwydd bwyd - her y mae cymunedau ledled y DU yn gweithio i'w datrys, gan gynnwys Footprints Women’s Centre yn Belfast. Fe wnaethon nhw agor Archfarchnad Gymdeithasol gyntaf Gogledd Iwerddon yn 2017 ac maen nhw’n dargyfeirio 20 tunnell o fwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn - hynny yw dros 54,000 o brydau bwyd.
Yn yr Alban, mae Gleaning Project Transition Dundee yn gweithio gyda thyfwyr lleol. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae wedi arbed bron i 10,000 cilo o gynnyrch rhag mynd i wastraff, gan ddosbarthu bwyd ffres gyda gwerth manwerthu cyfatebol o dros £40,000 trwy 40 o grwpiau cymunedol lleol.
Yn Derby, mae Thrivemind Village CIC wedi achub dros 4 tunnell o fwyd a chynnyrch dros ben wedi'i dyfu'n lleol o bob rhan o'r ddinas a'i ailddosbarthu'n uniongyrchol i'r gymuned. Gan ddefnyddio beic cargo trydan a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, mae gwirfoddolwyr yn casglu cynnyrch a fyddai fel arall yn mynd i wastraff ac yn creu prydau am ddim yn ei gegin gymunedol, gan gefnogi dros 200 o bobl sy'n profi ansicrwydd bwyd.
Yn nhref farchnad y Gelli Gandryll yng Nghymru, mae Hay Regenerative Soils yn gwneud rhywbeth rhyfeddol: casglu gwastraff bwyd o aelwydydd a busnesau lleol a'i drawsnewid yn gompost cyfoethog - gan gadw deunydd organig allan o safleoedd tirlenwi a rhoi maetholion yn ôl i'r tir. I'r gwirfoddolwr Lief van der Baan, mae'r prosiect wedi golygu llawer mwy na
hynny. Dechreuodd Lief, sydd â sgitsoffrenia paranoid ac wedi bod allan o waith ers saith mlynedd, wirfoddoli ar ôl ymddiddori mewn materion amgylcheddol ac eisiau gwneud rhywbeth amdanynt - ar ei delerau ei hun.
"Pan ddechreuais wirfoddoli yn Hay Regenerative Soils, sylwais ar newid eithaf dwys yn fy iechyd meddwl," meddai. "Yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny sylwais fy mod i'n cael newid go iawn yn fy nghyflwr meddyliol. Roedd yn wahanol. Roedd yn adfywiol. Roeddwn i’n teimlo ychydig yn fwy llawen."
Mae'r gwaith yn gorfforol ac ymarferol – trefnu compost, cymryd tymheredd yn y peiriant Ridan sy'n trosi gwastraff bwyd yn gompost, awyru'r baeau aeddfedu - byd i ffwrdd o'r ynysrwydd ar y sgrîn yr oedd Lief wedi dod i arfer ag ef.
"Gyda datblygu gwe, mae'r cyfan yn eich pen. Rydych chi'n eistedd i lawr trwy'r amser. Yr unig beth rydych chi'n ei gyffwrdd yw bysellfwrdd a llygoden. Felly mae hyn yn wahanol iawn. Rwy'n chwarae gyda phridd ac yn cwrdd â phobl."
Yn bwysicaf oll i Lief, roedd yn ddewis a wnaeth iddo'i hun. "Doedd neb yn dweud wrthyf, 'Cer i wirfoddoli ar gyfer hyn. Bydd yn dda i ti.' Ac mae hynny wedi gwneud rhyfeddodau i fy hunan-barch a fy iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn o gael yr ymdeimlad hwnnw o asiantaeth mewn bywyd. Mae gwirfoddoli yma wedi achosi i mi droi cornel yn fy mywyd".
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru ac Arweinydd yr Amgylchedd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae straeon fel un Lief yn ein hatgoffa nad yw'r amgylchedd yn ymwneud yn unig â mynd i'r afael â gwastraff bwyd a gwneud bwyd da yn hygyrch i bawb - mae'n ymwneud â phobl. Pan fydd cymunedau yn dod at ei gilydd o amgylch problem gyffredin, mae'r manteision yn ehangu: llai o wastraff, gwell iechyd, arbed arian, cymdogaethau cryfach, a phobl yn dod o hyd i gysylltiad a hyder na fyddant efallai yn dod o hyd iddynt yn unman arall. Dyna pam rydyn ni'n falch o fod wedi cefnogi mwy na 2,600 o brosiectau ledled y DU, a pham rydyn ni'n galw ar hyd yn oed mwy o grwpiau llawr gwlad i ddod ymlaen.
"Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect amgylcheddol yn eich cymuned, rydyn ni eisiau clywed gennych. Dysgwch ragor ac ymgeisiwch am grant ar ein gwefan https://bit.ly/Environmentfunding."