Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Hwb i brosiectau hinsawdd cymunedol, diolch i bartneriaeth arloesol newydd

Mi fydd partneriaeth arloesol newydd a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn trawsnewid gweithredu dros yr hinsawdd gan gymunedau ledled y DU drwy gysylltu prosiectau llawr gwlad, rhannu arbenigedd, a chynyddu effaith leol ar raddfa genedlaethol.

Bydd Partneriaeth Dysgu a Chymorth y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) yn dod â dros 130 o brosiectau hinsawdd cymunedol at ei gilydd gyda rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU i gyfrannu at fudiad eang a all sbarduno newid systematig.

O dan arweiniad Arup, mewn cydweithrediad ag Innovation Unit, Creature & Co., a Phrifysgol Leeds, bydd y bartneriaeth saith mlynedd uchelgeisiol hon yn cefnogi prosiectau sy’n cael eu hariannu drwy Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) yn rhaglen 10 mlynedd, gyda chyllid o £100 miliwn sy’n ysbrydoli ac yn galluogi cymunedau ledled y DU i weithredu yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cafodd ei sefydlu yn 2019 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithredu cymunedol yn y DU a’i nod yw cyfrannu at fudiad ehangach sy’n ymgyrchu dros newid. Hyd yma, cafodd dros 130 o brosiectau eu hariannu, gan annog pobl i weithredu dros yr hinsawdd ar lefel gymunedol ledled y DU.

Mi fydd y bartneriaeth newydd yn ymdrechu i gyflymu gweithredu dros yr hinsawdd drwy annog cydweithredu a rhannu dysgu rhwng prosiectau amrywiol sy’n rhoi pwyslais ar themâu amgylcheddol gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, bwyd, gwastraff a defnydd, ac ar yr amgylchedd naturiol. Bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol, yn cynhyrchu syniadau gwerthfawr, ac yn helpu i sicrhau bod lleisiau arweinwyr hinsawdd llawr gwlad ledled y wlad yn cael eu clywed i ysbrydoli cymunedau eraill i weithredu dros yr hinsawdd.

Prif Fuddiannau’r Bartneriaeth

Cymorth Gwell i Ddeiliaid Grantiau 

Mynediad at wybodaeth, arbenigedd a chymorth a rennir, gan helpu prosiectau i gynyddu eu heffaith ac i gyflawni mwy.

Sector Amgylcheddol a Gweithredu Hinsawdd Cryfach

Bydd prosiectau unedig a dulliau cydweithredol yn cryfhau’r holl fudiad hinsawdd cymunedol.

Effaith Gymdeithasol Ehangach

Bydd prosiectau sydd wedi’u cysylltu’n well yn cynyddu ymgysylltiad â’r cyhoedd, yn creu datrysiadau mwy cynaliadwy ac yn hybu newid systematig.

Cynyddu Gwybodaeth

Bydd pum mlynedd o ddysgu yn sgil gweithredu dros yr hinsawdd ar lawr gwlad yn cael ei goladu, ei ledaenu a’i rannu i gyflawni mwy o ganlyniadau.

Ysbrydoliaeth i Weithredu dros yr Hinsawdd yn y Dyfodol

Bydd storïau gafaelgar a gwybodaeth newydd yn arwain at syniadau y gall pobl uniaethu â hwy a’u hailadrodd i annog mwy o gymunedau i weithredu.

Meddai Ben Smith, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Hinsawdd a Chynaliadwyedd gydag Arup: "Rydym wrth ein bodd yn cael arwain y consortiwm sy’n gweithio â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu’r rhai sydd wedi cael grantiau gan eu Cronfa Gweithredu Hinsawdd. Mae wedi bod mor braf cael cwrdd â rhai o ddeiliaid y grantiau a dysgu mwy am y prosiectau lleol ysbrydoledig maent yn eu harwain. Rydym yn gweld cymaint o botensial i godi ymwybyddiaeth, darparu cymorth dysgu, hwyluso rhannu gwybodaeth ac yn y pen draw ysbrydoli mwy o bobl i weithredu dros yr hinsawdd. Yn bwysicach na dim, rydym yn credu y gall gweithredu dros yr hinsawdd ar lefel unigol a chymunedol arwain at newid systemau ehangach. Pobl angerddol sy’n creu newid.”

Meddai Mel Eaglesfield, Cyfarwyddwr Strategaeth Gyllido, Cyfathrebu ac Effaith gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae gweithredu lleol yn cael effaith yn genedlaethol a bydd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Mae’r bartneriaeth newydd arloesol hon yn arwydd o’n hymrwymiad nid yn unig i ariannu prosiectau amgylcheddol cymunedol ond hefyd i sbarduno gweithredu dros yr hinsawdd ledled y DU. Drwy gysylltu arbenigedd ar lawr gwlad gydag adnoddau cenedlaethol, mi fydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i gynyddu galluedd a rhwydweithiau a all annog y newidiadau systematig sydd eu hangen ar ein cymunedau.”

Meddai Matthew Horne, Cyd-Brif weithredwr Innovation Unit: “Mae hi’n fraint inni gael gweithio â deiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Maent yn gwneud gwaith arbennig iawn â chymunedau lleol i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, i newid ymddygiadau ac i ddarbwyllo pobl o’i effeithiau. Rydym yn edrych ymlaen at eu helpu i gael mwy fyth o effaith yn lleol, i leihau anghyfiawnder hinsawdd ac i gael mwy o ddylanwad ar ein systemau cenedlaethol.”

Ychwanegodd Peter Johnson, Rheolwr GyfarwyddwrCreature & Co.: "Mae gennym gyfle gwirioneddol i helpu nid yn unig deiliaid grantiau ond hefyd ymateb y wlad i’r argyfwng hinsawdd byd-eang. Gobeithir y bydd helpu derbynwyr y grantiau hyn i gyfathrebu’n bywiogi cymunedau ar hyd a lled y wlad."

Ynghylch y Partneriaid

Arup – Y partner arweiniol, sy’n arbenigwyr mewn cynaliadwyedd a chydnerthedd hinsoddol a chynhyrchu tystiolaeth am weithredu dros yr hinsawdd ar lefel gymunedol.

Innovation Unit – Menter gymdeithasol sy’n gweithio i leihau anghydraddoldebau a thrawsnewid systemau drwy helpu cymunedau i ddatblygu mentrau arloesol sy’n cael eu gyrru gan bobl. Byddwn yn annog cydweithrediad a dysgu rhwng deiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Creature & Co. – Asiantaeth gyfathrebu sy’n creu ac yn curadu llais ar y cyd i ddeiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Prifysgol Leeds – Sefydliad academaidd blaenllaw sy’n cynhyrchu ymchwil a gwybodaeth am weithredu dros yr hinsawdd ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr cymunedol mwyaf y DU, sy’n cefnogi gweithgarwch i greu cymunedau cydnerth, cynhwysol ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy ledled y DU. Mae pobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos at achosion da ym mhob rhan o’r DU. Diolch i’w cyfraniad hwy, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwriadu buddsoddi dros £4 biliwn mewn cymunedau erbyn 2030.