Neidio i'r prif gynnwys

Dechreuodd gydag awydd i wneud rhywbeth gwahanol

Camodd Jaz oddi ar y llwybr cyfarwydd a dysgu nad yw addysg bob amser yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth - mae'n digwydd ym myd natur hefyd.

Pan wnaeth gradd addysgu Jaz ei harwain at sefydliad addysg awyr agored, doedd hi ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl - a dyna'n union beth roedd hi eisiau.

Ar ôl treulio amser mewn ystafell ddosbarth draddodiadol, roedd hi'n gweld ei lleoliad fel cyfle i roi cynnig ar rywbeth cwbl newydd. Cafodd ei pharu â Rewilding Youth, elusen addysg a gwaith ieuenctid sy'n seiliedig ar natur... ac nid oedd yn hir cyn iddi sylweddoli ei bod wedi dod o hyd i'w galwedigaeth.

Mae Rewilding Youth yn cael ei gefnogi gan ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF), sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid yn yr hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.

I'r gwyllt

Nid oedd Jaz erioed wedi treulio unrhyw amser ym maes addysg awyr agored cyn ei lleoliad. Yn wir, doedd hi erioed wedi clywed am Rewilding Youth.

Sefydlwyd Rewilding Youth yn 2021 mewn ymateb i'r arwahanrwydd a'r datgysylltiad a brofodd pobl ifanc yn ystod COVID, mae'r sefydliad yn defnyddio cynlluniau sesiwn hyblyg ac yn annog archwilio unigol mewn mannau awyr agored i helpu plant i ddysgu, tyfu a gwella.

Mae'n deg dweud bod cyrraedd y safle a gweld hamogau wedi'u gosod rhwng coed yn lle desgiau a byrddau gwyn yn brofiad bythgofiadwy i Jaz.

Therapi gwyrdd

Mae etheg gwaith Rewilding Youth wedi'i wreiddio yn y gred bod natur yn fyd o bosibiliadau gyda'r pŵer i wella hwyliau a rhoi hwb i'r enaid. Ond nid yw pawb yn gallu cyrchu'r manteision hynny'n hawdd, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd trefol difreintiedig.

Gydag iselder, ynysu cymdeithasol, unigrwydd a diffyg sgiliau gwneud penderfyniadau i gyd yn sgil-effeithiau peidio â threulio digon o amser ym myd natur, mae'r elusen yn mynd i'r afael â'r broblem gyda gweithgareddau byw yn y gwyllt fel fforio am fwyd, adeiladu cuddfannau a chrefftau naturiol.

Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth draddodiadol, gwelodd Jaz bŵer natur bron ar unwaith. Daeth plant a oedd wedi ymddieithrio yn chwilfrydig; daeth y swil yn hyderus, a ffynnodd plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA) gyda'r rhyddid i ddewis a digon o le.

Antur annisgwyl

Nid dim ond pobl ifanc sydd wedi elwa o Rewilding Youth. Wedi'i sbarduno gan y darganfyddiad nad oes angen i addysg ddilyn strwythur llinol, darganfu Jaz ymdeimlad o bwrpas a newidiodd gwrs ei gyrfa.

Mae hi bellach yn dilyn chwilfrydedd plant yn hytrach na chynllun gwers traddodiadol, gan gofleidio athroniaeth newydd o hwyluso yn hytrach na chyfarwyddo. "Dydw i ddim yma i ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud, rydw i yma i'w tywys" esbonia Jaz. "Dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny."

Ar ôl cofrestru i hyfforddi ym maes Arweinyddiaeth Ysgol Goedwig, cynigiwyd rôl iddi ar ôl iddi orffen ei gradd. Erbyn hyn, mae hi'n helpu i redeg tair rhaglen wythnosol ar gyfer plant rhwng 0 ac 18 oed, ac mae ei "chwricwlwm" yn cynnwys chwarae blêr naturiol, gweithgareddau crefft penagored ac amser segur yn yr hamogau.

Wedi'i wreiddio yn y gymuned

Gan weithio ar draws Hull ac East Riding, nid yn unig yw Rewilding Youth wedi troi parciau a ddiystyrwyd yn llefydd llawn posibiliadau - mae wedi eu troi'n fannau o gefnogaeth. Mae'r sesiynau rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar y gymuned wedi cyflwyno rhieni i'w gilydd ac wedi creu rhwydweithiau ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu gartref.

Ac, fel gyda Jaz, mae cymorth i symud ymlaen i yrfaoedd gwyrdd. Drwy'r rhaglen Wild College, mae pobl ifanc yn archwilio plannu coed, gwaith coed ac arweinyddiaeth amgylcheddol. Mae rhai wedi mynd ymlaen i leoliadau â thâl, gan helpu i lunio dyfodol mwy gwyrdd i'w dinas - ac iddyn nhw eu hunain.

Dechrau arni

Rydym ni'n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob math a maint. Rydym ni'n cynnig grantiau rhwng £300 a £20,000 drwy ein rhaglen agored Awards for All, a grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.

Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais.