Dechreuodd gyda sied a phaned – stori Nobby a Jim
27 Chwefror 2026
Dydy gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd ddim bob amser yn edrych fel seilwaith mawr neu dechnoleg gymhleth. Weithiau, mae’n dechrau mewn sied, Gyda chadair wedi torri, tegell ymlaen a sgwrs.
Bwrdd wedi torri? I’r dymp. Hen lamp ddim yn gweithio? I’r bin a hi. Cloc wedi stopiotician? Prynwch un newydd.
I lawer ohonom ni, mae trwsio pethau wedi cael ei ddisodli’n dawel gan daflu pethau i ffwrdd a phrynu rhai newydd.
Ond i’r ffrindiau Nobby a Jim, doedd hynny ddim yn teimlo’n iawn. Cawson nhw eu magu yn trwsio, yn ailddefnyddio ac yn gwneud y tro. Felly, fe wnaethon nhw ofyn cwestiwn syml: beth petaem ni’n trwsio pethau gyda’n gilydd yn lle hynny?
Eu hateb oedd Men in Sheds – prosiect cymunedol lle gall pobl o bob oed ddysgu sgiliau ymarferol, trwsio eitemau bob dydd a threulio amser gyda’i gilydd. Ond mae mwy i hyn na thrwsio pethau. Mae’n ymwneud â lleihau gwastraff, rhannu sgiliau a chreu rhywle lle mae pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n gwneud rhywbeth defnyddiol.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
Trwsio mwy na phethau sydd wedi torri
Mae Nobby wastad wedi hoffi gwneud a thrwsio. Roedd ei sied gartref yn lle i dincran, trwsio eitemau’r cartref a mwynhau gweithio gyda’i ddwylo.
Pan ymddeolodd, dechreuodd feddwl sut i rannu’r sgiliau hynny. Roedd Jim yn teimlo’r un fath. Rhyngddyn nhw, roedd ganddyn nhw amser, profiad a chred gref na ddylid colli gwybodaeth ymarferol.
Yr hyn nad oedd ganddyn nhw oedd yr offer na’r lle i gynnig pethau i bobl eraill.
Helpodd y cyllid i newid hynny. Gyda’r offer a’r peiriannau cywir, daeth Men in Sheds yn lle croesawgar lle gallai pobl ddysgu, trwsio a chysylltu.
Nid yw’n brosiect gweithredu ar newid hinsawdd nodweddiadol - ond mae’n un pwerus. Drwy drwsio yn hytrach na chyfnewid, maen nhw’n helpu’r blaned. Drwy wneud hyn gyda’i gilydd, maen nhw’n cefnogi llesiant pobl ac yn mynd i’r afael ag unigrwydd.
Ac oes, mae digon o de i’w gael hefyd.
Sut mae Men in Sheds yn gweithio
Mae’r syniad yn syml ac yn agored i bawb:
- Os bydd rhywbeth yn torri, dewch ag ef gyda chi yn hytrach na’i daflu
- Bydd Nobby, Jim a’r tîm yn gwneud eu gorau glas i’w drwsio
- Os nad oes modd ei drwsio, dylech ailddefnyddio rhannau a deunyddiau lle bo hynny’n bosibl
- Os nad oes angen eitemau wedi’u trwsio, maen nhw’n cael eu gwerthu i helpu i gynnal y prosiect
Mae’r prosiect yn adfer, trwsio ac ailgartrefu eitemau yn y gymuned leol, gan sicrhau bod deunyddiau’n cael eu defnyddio am gyfnod hirach.
Mae tua 80 i 90% o’r pren maen nhw’n ei ddefnyddio wedi cael ei adfer, yn aml o doriadau a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn lleihau gwastraff, yn arbed arian ac yn dangos beth sy’n bosibl gydag ychydig o greadigrwydd a gofal.
“Weithiau mae pobl eisiau i bethau gael eu trwsio oherwydd nad ydyn nhw’n gallu fforddio mynd allan a phrynu pethau newydd. Mae’n ymwneud â dargyfeirio pethau o safleoedd tirlenwi, rhoi sgiliau newydd i bobl a chreu cymuned yn ein hardal.”– Nobby, prosiect Men in Sheds
Magu momentwm, drwy drwsio un peth ar y tro
Dechreuodd Men in Sheds yn fach. Ar y dechrau, roedd Nobby a Jim yn cynnal un sesiwn y mis.
Lledaenodd yr wybodaeth yn gyflym. Roedd pobl yn dod i gael trwsio pethau ac aros am y cwmni, y dysgu a’r ymdeimlad o bwrpas. Heddiw, mae’r prosiect yn cynnal tair sesiwn yr wythnos, gan groesawu cymysgedd gynyddol o bobl hŷn ac iau.
Mae sgiliau cael eu rhannu’r ddwy ffordd. Mae aelodau hŷn yn trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, tra bod pobl iau yn cynnig syniadau a safbwyntiau newydd.
Mae pawb yn dysgu rhywbeth, gan gynnwys Nobby a Jim.
Mae’r prosiect yn parhau i dyfu, wedi’i siapio gan y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, ac anghenion y bobl sy’n dod drwy’r drws.
Dechrau arni
Dydy gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd ddim bob amser yn edrych fel seilwaith mawr neu dechnoleg gymhleth. Weithiau, mae’n dechrau mewn sied, gyda chadair wedi torri, tegell ymlaen a sgwrs.
Rydym ni’n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob lliw a llun. Rydym ni’n cynnig grantiau o £300 hyd at £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb i grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd.
Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais