Dechreuodd gyda phryd poeth – stori Nirmal
04 Mawrth 2026
Mae gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd yn gallu digwydd yn y mannau mwyaf annisgwyl. Tyfodd yr hyn a ddechreuodd fel cymryd rhan yn fuan iawn i fod yn rhywbeth mwy.
Mae gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd yn gallu digwydd yn y mannau mwyaf annisgwyl. Yn yr achos hwn, mae’n dechrau yng nghanol sŵn plant yn chwerthin, beiciau’n clecian dros darmac a phêl-droed yn taro yn erbyn ffensys.
Ond mae Felix Road Adventure Playground yn fwy na dim ond siglenni a fframiau dringo. Chwe diwrnod yr wythnos, mae plant yn gallu mynd yno a chael pryd poeth, heb orfod ateb unrhyw gwestiynau. I rai, mae’n bleser ar ddiwedd diwrnod prysur. I rai eraill, mae’n rhywbeth maen nhw’n dibynnu arno. Y naill ffordd neu’r llall, mae croeso i bawb.
Ers bron i 15 mlynedd, mae Nirmal wedi bod wrth galon y lle hwn. Ei rôl yw sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon, dysgu o ble mae’n dod a theimlo’n gartrefol.
Ochr yn ochr â gweithgareddau awyr agored, mae bwyd wedi dod yn rhan hanfodol o’r hyn sy’n digwydd yn Felix Road Adventure Playground.
Mae’r prosiect yn rhan o’r Prosiect Community Climate & Nature Action sy’n cael ei gydlynu gan Partneriaeth Bristol Climate & Nature. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
Dod o hyd i ffordd i mewn
Daeth Nirmal i Felix Road am y tro cyntaf drwy ymuno â rhai gweithdai arbed costau a oedd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd. Cymerodd ran fel aelod o’r gymuned, gan ddysgu ffyrdd ymarferol o arbed arian ac ynni gartref.
Wrth iddi gymryd mwy o ran, awgrymodd Felix Road ei bod yn rhannu ei gwybodaeth mewn fideo byr am arbed ynni. Roedd hi’n betrusgar – doedd hi ddim eisiau bod ar gamera – ond cytunodd i roi cynnig arni. Ac roedd yn un o’r penderfyniadau gorau a wnaeth hi!
Roedd y fideos yn rhannu syniadau syml a defnyddiol fel:
- coginio swp
- cael y gorau o’ch rhewgell
- cadw cartrefi’n gynnes:
Roedd y fideos yn defnyddio Saesneg, Pwnjabeg a Somalieg i helpu mwy o bobl yn y gymuned i gael gafael ar yr wybodaeth.
Tyfodd yr hyn a ddechreuodd fel cymryd rhan yn fuan iawn i fod yn rhywbeth mwy. Agorodd y fideos y drws i Nirmal gynyddu faint roedd hi’n ei wneud yn Felix Road. Defnyddiodd ei sgiliau, ei hyder a’i phrofiad mewn ffyrdd newydd i gefnogi’r gymuned.
O weithdai i’r gegin
Ochr yn ochr â’r gweithdai, dechreuodd Nirmal gymryd rhan yn yr ardd gymunedol yn Felix Road. Roedd gwirfoddolwyr a phlant yn tyfu llysiau fel bresych, pwmpenni, tatws a thomatos. I lawer o blant, dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw weld sut roedd bwyd yn tyfu neu i roi cynnig ar lysiau newydd. Daeth prydau bwyd yn gyfle i ddysgu,
yn ogystal â bwyta. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gynaeafu’r bwyd, ei olchi a thrafod sut roedden nhw’n ei goginio.
Gan ddefnyddio dros 20 mlynedd o brofiad o reoli siop tecawê leol, gwelodd Nirmal gyfle. Awgrymodd ddefnyddio’r llysiau oedd yn cael eu tyfu ar y safle i goginio prydau bwyd i’r gymuned. Roedd hyn yn dathlu diwylliannau, chwaethau a blasau gwahanol.
Gyda chymorth y Gronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd, trodd y syniad hwnnw’n swydd gyflogedig. Daeth Nirmal yn gydlynydd y gegin ac yn arweinydd y gegin gymunedol. Bu hefyd yn helpu i wneud prydau poeth yn rhan naturiol a chroesawgar o’r sesiynau chwarae mynediad agored, yn hytrach na rhywbeth ar wahân i’r diwrnod.
Rhywle lle mae croeso i bawb
Heddiw, mae Nirmal yn rhedeg y gegin yn Felix Road, gan ddarparu prydau poeth am ddim 6 diwrnod yr wythnos. Dechreuodd y gwasanaeth yn ystod COVID-19 ac mae’n parhau oherwydd bod yr angen yno o hyd.
Mae rheol syml: ni oes unrhyw gwestiynau’n cael eu gofyn. Bydd unrhyw blentyn dan 16 oed sydd eisiau pryd o fwyd yn cael un. Ar ddydd Sul, mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i rannu prydau bwyd, gyda dathliadau fel Diwali, y Nadolig neu’r Pasg yn denu hyd at 300 o bobl.
Mae llysiau’n dod o’r ardd lle bo hynny’n bosibl, ynghyd â chynnyrch organig sydd dros ben gan bartneriaid. Maen nhw’n cynllunio prydau bwyd o amgylch y tymhorau, gyda thyfu a choginio’n gweithio law yn llaw.
Mwy na bwyd
Bwyd yw’r man cychwyn, ond mae’r effaith yn mynd ymhellach. Mae’r plant yn dysgu o ble daw bwyd. Mae'r rhieni’n cysylltu dros baned o de. Mae rhai pobl ifanc a ddaeth am brydau bwyd flynyddoedd yn ôl bellach yn dychwelyd fel gwirfoddolwyr.
Ar ôl bron i 15 mlynedd yn Felix Road, mae Nirmal yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd iawn.
“Mae fel teulu mawr. Mae pawb yn hapus – rhywun yn chwarae, rhywun yn camfihafio. Mae’n ganolbwynt mawr lle mae pobl yn dod at ei gilydd.” - Nirmal, Cydlynydd y Gegin yn Felix Road Adventure Playground
Dechrau arni
Drwy gefnogi lleoliadau fel Felix Road, rydym ni’n helpu cymunedau i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddyn nhw i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r dysgu’n parhau, wedi’i siapio gan y bobl sy’n dod yno bob dydd.
Rydym ni’n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob lliw a llun. Rydym ni’n cynnig grantiau o £300 hyd at £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb i grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd. Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais