Dechreuodd gyda llais a galwad am newid - stori Emma
29 Mai 2026
Mae newid go iawn yn digwydd pan fydd lleisiau’n cael eu clywed. Gwneir y penderfyniadau iawn pan fydd pobl yn cael eu deall. I Emma Geen, roedd y genhadaeth yn glir - dod â phobl Anabl o bob rhan o Fryste at ei gilydd i wneud y ddinas yn well i bawb.
Mae newid go iawn yn digwydd pan fydd lleisiau’n cael eu clywed. Gwneir y penderfyniadau iawn pan fydd pobl yn cael eu deall. I Emma Geen, roedd y genhadaeth yn glir - dod â phobl Anabl o bob rhan o Fryste at ei gilydd i wneud y ddinas yn well i bawb.
Gwrando ar leisiau sy’n cael eu tangynrychioli
Roedd Emma wedi cael ei harwain ers tro gan yr egwyddor “dim byd amdanom ni, hebddo ni”.
Pan arweiniodd ei phrofiad bywyd hi i fod yn Swyddog y Rhaglen Hinsawdd ac Anabledd ym Mhartneriaeth Hinsawdd a Natur Bryste, gwyddai Emma fod angen i bolisïau gael eu dylunio gan y bobl y maent yn effeithio arnynt fwyaf.
Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl. Mae’n bygwth bywoliaeth, iechyd a symudedd.
Ond fe wnaeth Emma hefyd gydnabod y cryfderau sy’n rhan o'r gymuned Anabl. Mae llywio drwy amgylcheddau nad ydynt yn diwallu eich anghenion yn gofyn am gydnerthedd a’r gallu i addasu, sy’n allweddol i ymateb i faterion sy’n ymwneud â’r hinsawdd.
Y cynllun gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd
Gan gydnabod bod pobl anabl yn aml yn cael eu heithrio o sgyrsiau am yr hinsawdd, daeth Emma ag oddeutu 150 o bobl Anabl at ei gilydd i gydgynhyrchu’r cynllun gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd fel rhan o’r Rhaglen Hinsawdd ac Anabledd.
Mae’r prosiect yn rhan o’r Prosiect Gweithredu Hinsawdd a Natur Cymunedol ehangach, sy’n cael ei gydlynu gan Bartneriaeth Hinsawdd a Natur Bryste, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
Gwyddai Emma y byddai’r prosiect, drwy ystyried y rhwystrau a wynebir gan bobl Anabl, yn gwneud bywyd yn well ac yn haws i bawb ledled Bryste.
Gall aer glanach helpu rhywun sydd â chyflwr anadlol - ond mae o fudd i bob un ohonom. Mae parciau hygyrch sydd wedi’u dylunio gan bobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn creu mannau gwell i’r gymuned gyfan eu rhannu.
Dyna’r peth gorau am ddylunio cynhwysol - mae pawb ar eu hennill.
Beth sydd wedi’i gyflawni hyd yma
Lluniwyd y cynllun gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd gan oddeutu 150 o gyfranogwyr, a dyma’r cynllun gweithredu cyntaf ar yr hinsawdd yn y DU, ac o bosibl y byd, a gynlluniwyd gan bobl anabl.
Mae’r rhaglen yn parhau i fod yn un o’r unig brosiectau presennol yn y DU sy’n canolbwyntio ar y maes pwysig hwn o weithredu ar yr hinsawdd, ac mae wedi darparu amrywiaeth eang o weithgareddau ac adnoddau, gan gynnwys:
Gwaith ymchwil ac ymgysylltu â phobl Anabl ar drafnidiaeth gynhwysol, ynni cartref, bwyd a natur
Canllawiau i awdurdodau lleol ystyried y gymuned o bobl Anabl mewn polisïau hinsawdd a natur, ac i gyflogwyr greu swyddi gwyrdd cynhwysol
Cydweithio ag artistiaid Anabl ar drafnidiaeth gynhwysol a chyfiawnder hinsawdd
Mae’r cynllun gweithredu a ddatblygwyd drwy’r rhaglen hon bellach wedi’i wreiddio yn strategaeth y ddinas - gan arwain at grŵp trafnidiaeth i bobl Anabl a Chynnig Aur i wneud Bryste y ddinas fwyaf hygyrch.
Dechrau arni
Allech chi fod yn llais dros y gymuned? Y sbardun y tu ôl i newid?
Rydym ni’n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob math a maint. Rydym ni’n cynnig grantiau rhwng £300 a £20,000 drwy ein rhaglen agored Awards for All, a grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
Rhagor o wybodaeth am gyllid amgylcheddol yn eich ardal a sut i wneud cais