Dechreuodd gyda grŵp da o fechgyn – stori Callum
12 Mawrth 2026
Mae stori Callum yn dangos sut gall cefnogi eich llesiant meddyliol eich hun a gofalu am y blaned fynd law yn llaw.
Mae dod yn rhiant yn gallu teimlo’n llethol, yn enwedig pan mae’n anodd dod o hyd i gymorth. I Callum, tad o Newcastle, roedd hyn yn golygu pwysau, teimlo’n ynysig a chael trafferth gyda’i iechyd meddwl.
Fe wnaeth dod o hyd i North East Young Dads and Lads ei helpu i sylweddoli nad oedd ar ei ben ei hun. Rhoddodd sgiliau ymarferol iddo, amser yn yr awyr agored a’r hyder i feithrin perthynas gryfach â’i blant. Mae North East Young Dads and Lads yn rhan o’r prosiect Birds, Bikes, Bees and Trees sy’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
Pan fydd bod yn dad yn teimlo’n drymach na’r disgwyl
Does dim llawlyfr ar gyfer magu plant. I Callum, roedd y dyddiau cynnar o fod yn dad yn anodd. Gan dreulio cyfnodau hir dan do, yn ceisio cadw i fyny â chyfrifoldebau newydd, dechreuodd ei iechyd meddwl ddioddef.
Roedd iselder yn treiddio i mewn, ac roedd Callum yn gwybod bod angen cymorth arno.
Cysylltodd â North East Young Dads and Lads drwy sesiwn un-i-un – lle i siarad yn agored, heb farnu, â rhywun a oedd yn deall y pwysau y mae tadau ifanc yn gallu ei wynebu.
Roedd y sgyrsiau cynnar hynny’n bwysig. Roedd cael rhywun yn gwrando arno yn helpu Callum i deimlo’n llai unig ac yn rhoi sicrwydd iddo nad oedd cael trafferth yn golygu ei fod yn methu.
Dysgu sgiliau newydd a mynd allan i’r awyr agored
Wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i Callum weld bod North East Young Dads and Lads yn cynnig mwy na dim ond cefnogaeth emosiynol. Mae’r grŵp yn meithrin hyder dynion ifanc drwy weithgareddau ymarferol.
Drwy’r prosiect, dysgodd Callum sgiliau newydd fel cynnal a chadw beiciau a chadw gwenyn. Rhoddodd y sesiynau hyn amser iddo yn yr awyr agored, sgiliau ymarferol i fod yn falch ohonyn nhw a chyfle i gysylltu â phobl eraill heb bwysau.
Roedd mynd allan, symud ei gorff a gweithio ochr yn ochr â thadau eraill yn rhoi lle i Callum anadlu. Roedd y sgyrsiau’n aml yn llifo mwy pan roedd ei ddwylo’n brysur a'r disgwyliadau’n isel.
"Pan gafodd fy mhlant eu geni, roedd fy iselder yn wael iawn. Fe wnaeth y prosiect Birds, Bikes, Bees & Trees ein cael ni allan o’r tŷ llawer mwy. Yn hytrach na bod yn yr un pedair wal drwy’r amser. Mae wedi gwneud i ni wneud ffrindiau hefyd, rhywbeth nad oedd gen i o’r blaen.” – Callum
Mwy na dim ond beiciau
Gyda chefnogaeth gan CAF, mae North East Young Dads and Lads yn cynnal rhaglen feiciau sy’n cael gwared ar rwystrau cyffredin i feicio. Felly, nid dim ond dysgu sut i drwsio beiciau wnaeth Callum – gallai hefyd eu reidio, heb orfod prynu na bod yn berchen ar feic.
I lawer o dadau ifanc, mae hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r grŵp yn darparu trelars ar gyfer beiciau, er mwyn i dadau allu dod â’u plant gyda nhw. Mae teithiau teulu a theithiau grŵp yn cynnig lle hamddenol i dadau siarad, cefnogi ei gilydd a mwynhau manteision iechyd meddwl treulio amser yn yr awyr agored.
Drwy sesiynau galw heibio a gweithdai beicio, daeth Callum o hyd i ffrindiau newydd a chymuned o ddynion sy’n wynebu heriau tebyg. Roedd y profiad cyffredin hwnnw’n ei gwneud hi’n haws bod yn agored, magu hyder a dysgu ffyrdd iachach o ymdopi.
Fe wnaeth hyn helpu Callum i ddod o hyd i gydbwysedd a chryfhau ei berthynas â’i blant.
Cefnogi tadau a dynion ifanc
Ers dechrau yn 2017, mae North East Young Dads and Lads wedi cefnogi dros 800 o dadau ifanc.
Mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i straeon unigol. Mae adborth gan gyfranogwyr yn dangos:
- bod 90% yn teimlo’n agosach at eu plant
- bod llawer yn dweud bod eu lles meddyliol wedi gwella
- bod tadau’n teimlo’n fwy hyderus wrth siarad am eu problemau
- bod tadau’n rhannu ac yn normaleiddio modelau cadarnhaol a gofalgar o wrywdod (fel cofleidio!)
Mae rhai dynion ifanc yn mynd ymlaen i wirfoddoli gyda’r rhaglen neu i weithio fel gweithwyr cefnogi. Mae rhai eraill yn cymhwyso fel arweinwyr beiciau Cycling UK, gan ddefnyddio eu sgiliau i gefnogi grwpiau newydd sy’n cael eu sefydlu.
Dechrau arni
Rydym ni’n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob lliw a llun. Rydym ni’n cynnig grantiau o £300 hyd at £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb i grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd. Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais