Dechreuodd gyda darganfyddiad newydd – Stori Faith
21 Medi 2026
Roedd Faith wedi blino ar sgyrsiau am gadwraeth ac am weld gweithredu ecolegol o ddifrif. Wrth lwc, sylweddolodd nad oedd yn rhaid iddi adael y ddinas i faeddu ei dwylo.
Roedd yr hen dir diwydiannol ar lannau Afon Lea yn Nwyrain Llundain heb ei gyffwrdd ers degawdau. Tan iddo gael ei drawsnewid yn drysorfa o fioamrywiaeth.
Sefydlwyd prosiect Cody Dock i helpu datblygwyr i ddylunio adeiladau sy'n gwarchod bywyd gwyllt a mannau gwyrdd mewn dinas brysur.
Mae Cody Dock yn cael cefnogaeth Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol (CAF). Mae'r gronfa'n helpu cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid yn yr hinsawdd ac i gynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
O ystafell y bwrdd i lan yr afon
I Faith Wilder, Rheolwr Prosiect Ecoleg Drefol Cody Dock, roedd y prosiect yn ddarganfyddiad cyffrous.
Roedd Faith yn rhwystredig ynglŷn â sut mae cadwraeth draddodiadol yn gwneud penderfyniadau mawr. Mae teimlad bod yn rhaid dilyn y llwybr masnachol, lle nad oes gan neb lais, a bod y pwysigion yn gwneud penderfyniadau ar ran pawb. Mae ymgysylltu'n holl bwysig.”
Ond yn Cody Dock, mae swydd Faith yn cyfuno ystyriaethau masnachol gydag allgymorth cymunedol.
Ambell ddiwrnod bydd yn gweithio â datblygwyr ac awdurdodau i wella ansawdd cynefinoedd.
Dro arall, mae hi'n hau hadau neu wrth yr afon gyda'r gymuned, yn rhannu pleserau'r cynefinoedd naturiol lleol.
Rhoi help llaw
Mae bywyd gwyllt Afon Lea yn ffynnu diolch i waith tîm Cody Dock. Ac mae'r prosiect ei hun yn ffynnu gyda chefnogaeth gynyddol y gymuned.
"Mae gennym filoedd o wirfoddolwyr bob blwyddyn" medd Faith. "Mae gennym ddiwrnod agored bob tymor ac mi gawn rhwng 500 a 1,500 o bobl."
Hefyd mae dyddiau arolygon, lle mae gwirfoddolwyr yn darganfod y pleser o gamu i laid naturiol yr afon i gofnodi amrywiaeth y bywyd gwyllt.
"Mae pawb sy'n dod wrth eu bodd cael yr hawl i faeddu eu dwylo ac i fynd i mewn i'r afon" meddai Faith.
Darganfod bywyd gwyllt lleol
Mae cymuned yn hanfodol i warchod y safle rhag ochr annymunol datblygu trefol. “Mae gwybodaeth yn bŵer,” yn ôl Faith. Drwy astudio a chofnodi'r ddyfrffordd, mae'r tîm yn cael dealltwriaeth fanwl o Cody Dock.
"Yn y gorffennol mae diffyg gwybodaeth wedi golygu bod datblygwyr yn cael ffordd eu hunain yn rhy aml" yn ôl Faith.
Wrth i fwy o bobl leol ymddiddori yn Cody Dock a'r achos, mae pobl wedi gallu cadw llygad. Yn ddiweddar cofnodwyd y 1000fed rhywogaeth yno, y planhigyn Llysiau'r Sipsiwn.
Bywyd gwyllt diddorol arall a welwyd ac a gofnodwyd ar hyd y glannau yw:
Yr Eyed Longhorn Beetle sydd mewn perygl difrifol, a dim ond wedi'i gofnodi yn Swydd Gaergrawnt o'r blaen.
Llysywod Ifanc Caribïaidd, a welwyd gan Faith yn nofio yn yr afon.
"Mae'n cymryd 3 blynedd iddynt i nofio yma,” meddai. “Mae'r ffaith bod llifddorau ar yr afonydd, heb sôn am y llygredd yn y dŵr yn dipyn o her iddynt."
Gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd
Mae adfer yr afon yn un o brif flaenoriaethau Faith. Mae hi eisoes wrthi'n adfer gwely cyrs i helpu bywyd gwyllt yr afon, i reoli gwaddod, ac i lanhau'r dŵr.
Mae'n arwydd o lwyddiant y prosiect. Gyda gwell dealltwriaeth o'r afon a mwy o wirfoddolwyr, mae Cody Dock yn newid ei bwyslais i warchod dyfodol yr afon.
Mewn ardal a oedd wedi'i hesgeuluso, mae planhigion a bywyd gwyllt yn awr yn ffynnu, gyda help y gymuned.
Dechrau arni
Rydym yn cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob maint a math. Mae gennym grantiau o £300 i hyd at £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb i dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
Dysgwch ragor am ariannu amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais.