Neidio i'r prif gynnwys

Dechreuodd gyda chynllun adfer - stori Scott

Ar ôl cael ei fagu mewn ardal ddifreintiedig, ceisiodd Scott Milligan newid a helpodd i weddnewid Cleibyllau Hamiltonhill er budd y gymuned gyfan.

Roedd Scott yn blentyn yn ardal Possilpark yn y 1970au. Wrth iddo ef a'i ffrindiau dyfu fyny, roedd yr economi leol yn dirywio'n gyflym. Roedd pobl yn colli swyddi, roedd siopau'n cau ac roedd bywyd yn galed.

Gwelodd y rhanbarth hwn o Glasgow gyfraddau uchel o ddiweithdra pan gaeodd diwydiannau lleol. Gwagiwyd adeiladau gan achosi iddynt adfeilio, a daeth cyffuriau'n fwy cyffredin. Erbyn y 1980au, roedd ardal Possilpark yn wynebu amddifadedd economaidd difrifol.

Yn y cyfamser, rhannodd cartref Scott yn ddau pan adawodd ei fam ei dad. Fel llawer o bobl o'i gwmpas, trodd Scott at gyffuriau. "Roedd yn ddihangfa o realiti. Daeth cyffuriau i Possilpark a dim ond ychydig o bobl a lwyddodd i'w hosgoi," meddai Scott.

Dechreuodd Scott gymryd cyffuriau pan oedd yn ifanc, gan frwydro yn erbyn bod yn llwyrddibynnol arnynt fel oedolyn. Yn 31 oed, ym 1998, cychwynnodd Scott ar daith adfer. Ymgysylltodd â rhaglenni adsefydlu yn Red Towers a Phoenix House (Phoenix Futures erbyn hyn). Ac roedd yn mynd ar deithiau cerdded rheolaidd yng Nghleibyllau Hamiltonhill, gwarchodfa natur leol.

Daeth Scott o hyd i gyfeillgarwch a gobaith gyda dau fentor a wnaeth ei helpu i newid ei fywyd. Fe wnaeth y caredigrwydd hwn ysbrydoli Scott i fod yn fodel rôl i eraill. Dechreuodd weithio ym maes adsefydlu, gyrfa a barodd 16 mlynedd. Ochr yn ochr â hyn, neilltuodd ei amser i waith ieuenctid a chymunedol.

Cysylltiad Scott â'r Cleibyllau

Mae Cleibyllau Hamiltonhill wedi bod yn rhan gyson o fywyd Scott. Pan oedd yn ei arddegau, roedd yr ardal yn cael ei galw'n 'Cowp' gan bobl leol - hen air Albanaidd am domen sbwriel. "Fe fydden ni'n mynd yno pan oedden ni yn ein harddegau i ddianc oddi wrth ein rhieni, i ddianc rhag y byd," meddai Scott. Pan oedd yn gwella o'i gaethiwed i gyffuriau, arferai gerdded llwybrau halio'r gamlas yng Nghleibyllau Hamiltonhill. Helpodd hyn iddo osgoi croesi llwybrau â phobl oedd un ai'n cymryd neu'n gwerthu cyffuriau ar y strydoedd.

Fe wnaeth Scott gysylltu go iawn â'r Cleibyllau yn ystod pandemig COVID-19, yn 2020. Roedd cerdded yno yn helpu pobl a oedd yn teimlo'n ynysig yn ystod y cyfnodau clo. Ac yna fe wnaethon nhw ddechrau gofalu am y lle. "Un diwrnod, rydw i'n cofio cerdded yn yr ardal, a dechreuais godi ychydig o sbwriel. Cyn pen dim, roedd gen i declyn codi sbwriel."

Mae Scott bellach yn aelod o bwyllgor Cleibyllau Hamiltonhill, sy'n cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn ymgyrchoedd gweithredu amgylcheddol.

Dod yn wirfoddolwr

Dechreuodd Scott ymgysylltu â Chleibyllau Hamiltonhill ar lefel ddyfnach. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at wirfoddoli ac ymuno â'r bwrdd. Mae wedi gweld sut mae mynediad i'r awyr agored wedi ei helpu ef, ac eraill fel fe.

"Weithiau, yr unig beth sydd angen ar bobl yw mynd am dro, cael sgwrs fach, neu ymgysylltu'n dawel â byd natur. Yr awyr agored yw'r feddyginiaeth orau. Rwy'n 59 oed. Rwy'n cofio bod yn 31 oed a theimlo ac edrych yn 59. Erbyn hyn, rydw i'n 59 oed ac rydw i'n teimlo ac yn edrych yn 31 oed," mae'n ychwanegu, gan chwerthin. "Pe na bawn i'n defnyddio Gwarchodfa Natur Leol Cleibyllau Hamiltonhill, ni fyddai fy iechyd meddyliol a chorfforol gystal ag y mae heddiw."

Ardal Cleibyllau Hamiltonhill ar ei newydd wedd

Diolch i Scott a gwirfoddolwyr fel fe, mae'r warchodfa wedi dod yn hafan i fyd natur a phobl leol. Mae croeso i bawb yma, o gerddwyr cŵn i geufadwyr, plant a phobl hŷn. Ac mae'r warchodfa natur yn cynnig cartrefi i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Mae'r warchodfa wedi dod yn encil rhad ac am ddim, diogel a chroesawgar i unrhyw un sydd ei angen, ac mae wedi hybu lles meddyliol a chorfforol - yn enwedig i grwpiau agored i niwed yn y gymuned.

Mae gan y gwirfoddolwyr gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Maen nhw eisiau gosod trydan solar mewn dau gynhwysydd ar y safle i storio eu hoffer a chynnal grwpiau natur addysgol.

Dim ond dechrau rhywbeth mwy yw hyn.

Dechrau arni

Rydym yn cefnogi llawer o wahanol brosiectau amgylcheddol. Rydym yn cynnig grantiau gwerth rhwng £300 a £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb, a grantiau gwerth dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.

Rhagor o wybodaeth am gyllido amgylcheddol yn eich ardal ac ymgeisio.