Dechreuodd drwy edrych o gwmpas - stori Margaret a David
12 Hydref 2026
Darganfu Margaret a David werth ei man gwyrdd lleol drwy wirfoddoli. Nawr, maen nhw’n gwybod bod meithrin natur yn dda i bobl ac i’r blaned.
Nid yw bywyd yn aml yn stopio'n ddigon hir i chi edmygu'r olygfa. O waith a theulu i dasgau bob dydd, mae cymaint sy'n tynnu ein sylw oddi ar harddwch ein hamgylchedd naturiol.
Ond pan gafodd Margaret a David gyfle i arafu, daethant yn chwilfrydig i archwilio. Fe wnaethon nhw ddarganfod bod Gwarchodfa Natur Leol Cleibyllau Hamiltonhill yn agos iawn at eu cartref. Ac nid oedd yn hir cyn iddynt ddechrau ymbrysuro unwaith eto, gan adfer man gwyrdd a dod o hyd i ymdeimlad newydd o bwrpas.
Cefnogir Cleibyllau Hamiltonhill gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn ymgyrchoedd gweithredu amgylcheddol.
Ailadeiladu Cleibyllau Hamiltonhill
Mae'r Cleibyllau yn rhedeg drwy Glasgow, ar hyd rhan o Gamlas Forth a Clyde. Dechreuodd y gwaith o adfywio'r ardal yn ystod y pandemig. Wrth weld y newidiadau mawr yn digwydd, roedd Margaret a David yn gwybod ei fod yn rhywbeth roedden nhw eisiau bod yn rhan ohono.
Mae bellach yn warchodfa ffyniannus, hafan i fywyd gwyllt amrywiol sy'n cynnwys dolydd, coetir, pyllau a mwy.
Ond mae'r newid i'r Cleibyllau yn dibynnu ar gefnogaeth y gymuned i gadw'r warchodfa natur yn lân ac wedi'i chysylltu.
Ymgymryd â her newydd
Roedd gwirfoddoli yn foethusrwydd prin tra'r oedd Margaret a David yn gweithio, gan weithio sifftiau ddydd a nos. Ond ar ôl ymddeol, gallent werthfawrogi'r hyn sydd o'u cwmpas a meithrin eu chwilfrydedd. Roeddent wir yn gallu gwerthfawrogi'r trysor naturiol a oedd yn tyfu gerllaw heb iddynt sylweddoli hynny.
Boed hynny'n clirio sbwriel neu chwyn, yn arwain gwylwyr adar neu fyfyrwyr, maen nhw'n gwbl ymroddedig i'r prosiect.
"Mae gennym wylwyr adar brwd sy'n arwain teithiau cerdded, yn cyflenwi ysbienddrychau ac yn dangos yr adar i bobl," meddai Margaret. Mae'r prosiect wedi arwain at arolygon bridio cynnar yn y bore, lle mae rhywogaethau prin fel y rhegen ddŵr yn cael eu monitro.
Ar yr un pryd, maen nhw'n meithrin lle braf ar gyfer bywyd gwyllt a chrwydron. Maent hefyd yn annog pobl i wneud yr hyn a wnaethant - cymryd rhan a darganfod hyfrydwch gofod naturiol ffyniannus ar gyrion y ddinas.
Rhoi rhywbeth yn ôl
Mae Margaret a David wedi canfod bod gwirfoddoli yr un mor fuddiol iddynt ag ydyw i'r warchodfa. Maent wedi canfod po lanaf a gwyrddaf yw'r safle, y mwyaf adferol ydyw i'r meddwl.
"Rydw i wedi dioddef o glefyd Parkinson ers 14 mlynedd ac mae'n effeithio ar fy llesiant," meddai David. "Rydw i wedi cael cyfnodau o iselder, ond rydw i'n mynd i fyny at y Cleibyllau, a gallwch chi eistedd yno a gwylio'r byd yn mynd heibio, mwynhau'r awr honno a bod o fewn eich hun."
"Weithiau, mae David yn colli ei lais," meddai Margaret. "Ond pan mae'n mynd i'r warchodfa, gyda phobl o'r un anian, ac mae'n siarad am yr adar, mae'n dod yn ôl."
Mae rhyngweithio â'r gymuned yn atyniad enfawr i'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed yn y Cleibyllau. Mae eu digwyddiadau Gwyrdd a Glân rheolaidd yn denu rhwng 20 a 40 o wirfoddolwyr i godi sbwriel.
"Mae'n grŵp amrywiol a chyfeillgar iawn," meddai Margaret. "Rydym yn gwerthfawrogi'r berl fach hon o natur, sy'n dal i fod y tu mewn i'r ddinas."
Dechrau arni
Gyda chyllid gan CAF, gall trigolion lleol arfogi eu hunain â'r offer sydd eu hangen i redeg prosiectau fel Cleibyllau Hamiltonhill. Gallant hefyd fwynhau'r manteision cyffredin o gael gofod naturiol bywiog ar gyfer eu cymuned gyfan.
Rydym yn cefnogi llawer o wahanol brosiectau amgylcheddol. Rydym yn cynnig grantiau gwerth rhwng £300 a £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb, a grantiau gwerth dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
Rhagor o wybodaeth am gyllido amgylcheddol yn eich ardal ac ymgeisio