Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Dechreuodd drwy ailberchnogi’r afon – stori Simon

Pan symudodd Simon Myers i Lundain am y tro cyntaf yn 17 oed, nid oedd yn disgwyl syrthio mewn cariad ag afon. Yn araf, daeth yr Afon Lea yn rhan gyson o’i fywyd.

Lle llawn straeon, bywyd gwyllt a hanes. Roedd llawer ohoni wedi’i chuddio y tu ôl i ffensys a dociau anghofiedig. Wrth i’r ddinas o’i chwmpas ddechrau newid yn gyflym, meddyliodd Simon beth fyddai’n digwydd i leoedd fel hyn. Bu hefyd yn meddwl tybed beth fyddai’n digwydd i’r bobl a oedd yn teimlo cysylltiad â nhw, pan fyddai’r datblygiad yn cymryd drosodd.

Yn y pen draw, byddai’r syniad hwnnw’n arwain at Cody Dock, prosiect cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd (CAF). Mae CAF yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.

Gweld beth roedd pobl eraill yn ei golli

Yn y cyfnod cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012, roedd Dwyrain Llundain yn newid yn gyflym. Roedd datblygiadau newydd yn ymddangos yn gyflym, ond fe wnaeth mynediad at yr afon ddiflannu’n dawel.

I Simon a grŵp bach o drigolion lleol, doedd hyn ddim teimlo’n iawn. Roedd yr afon yn cael ei thrin fel petai’n wag neu’n rhywbeth i’w diystyru. Roedden nhw’n gwybod ei bod yn ased â gwerth ecolegol, cymdeithasol a diwylliannol dwfn.

Felly, fe ddechreuon nhw’n fach ac yn ymarferol. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ailagor mynediad i safle doc a oedd wedi’i esgeuluso, gan ei glirio â llaw a gwahodd pobl eraill i gymryd rhan. Daeth yr hyn a ddechreuodd fel gweithred adfer syml yn rhywbeth llawer mwy a hynny’n gyflym.

Gadael i’r gymuned arwain

Roedd Simon wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio y tu ôl i’r llenni. Roedd ei gefndir ym maes y celfyddydau a threftadaeth yn golygu ei fod yn gwybod sut i lunio lleoliadau a galluogi syniadau pobl eraill i ffynnu.

Roedd y sgiliau hynny’n hanfodol pan ddechreuodd Cody Dock dyfu. Yn 2011, cydsefydlodd Simon yr elusen Gasworks Dock Partnership. Byddai’r elusen hon yn arwain gweledigaeth hirdymor y prosiect o ran creu’r amodau i gymunedau gymryd rhan a chymryd perchnogaeth.

Helpodd preswylwyr, gwirfoddolwyr, ysgolion a grwpiau lleol i adfywio’r safle. Fe wnaeth hyn ddatgloi milltiroedd o lwybrau ar lan yr afon a oedd wedi bod yn anhygyrch ers blynyddoedd.

Wrth i’r prosiect esblygu, daeth model ecoleg dan arweiniad dinasyddion i’r amlwg. Dechreuodd pobl leol gofnodi bywyd gwyllt, adfer cynefinoedd a chasglu tystiolaeth am beth oedd yn byw ac yn ffynnu ar hyd Afon Lea.

Ond nid dim ond mater o gasglu data oedd hyn. Roedd yn ymwneud â meithrin hyder, ymddiriedaeth a rhoi llais go iawn i bobl yn y ffordd roedd eu hamgylchedd yn newid.

Mae Simon yn byw ac yn gweithio yn Newham, ardal sy’n ymgysylltu llai â’rcelfyddydau a threftadaeth. Roedd yn glir bod yn rhaid i Cody Dock deimlo’n groesawgar, yn lleol ac yn agored i bawb.

Gweithio gyda newid, nid yn ei erbyn

Daeth y gefnogaeth gan CAF ar adeg dyngedfennol. Galluogodd Cody Dock i gynyddu ei effaith a gweithio gyda datblygwyr ac awdurdodau lleol, yn hytrach na gwrthwynebu adfywio.

Fe wnaeth cyllid CAF gefnogi rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion, ymgysylltu ag ieuenctid ac ysgolion a’r fenter Living Lea. Fe wnaeth hyn helpu’r tîm i gasglu data ecolegol cadarn a dylanwadu ar benderfyniadau cynllunio.

Mae’r prosiect hwn yn gwneud defnydd o newid cynefinoedd fesul cam, goleuadau sy’n addas i ystlumod a mannau gwyrdd sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan y gymuned. Mae’n dangos nad oes angen i ddatblygiad a bioamrywiaeth wrthdaro. Mae hyn yn rhywbeth y mae Simon yn teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch.

Tyfu rhywbeth sy’n para

Heddiw, mae Simon yn gweithio’n agos gyda datblygwyr ac awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod adeiladau newydd yn cyd-fynd yn dda â natur. Mae Cody Dock yn parhau i adfer cynefinoedd ar hyd afon lanw Lea. Mae hefyd yn creu coridor bywyd gwyllt drwy’r ddinas.

Mae dull Cody Dock wedi helpu i newid sut mae cynghorau a datblygwyr yn meddwl am fyd natur mewn dinasoedd. Mae ymchwilwyr wedi cofnodi dros 1,000 o rywogaethau lle nad oedd fawr ddim yn hysbys o’r blaen. Mae’r wybodaeth hon yn helpu i lywio polisi cynllunio ac ymddygiad datblygwyr.

Mae miloedd o drigolion, gwirfoddolwyr a phlant ysgol wedi cymryd rhan. Maen nhw wedi dysgu sgiliau newydd, wedi meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ac wedi gwella eu llesiant. Mae’r hyn a ddechreuodd gydag un person yn sylwi ar afon wedi tyfu’n fodel cryf ar gyfer adfywio dan arweiniad y gymuned yn Llundain a’r tu hwnt.

Dechrau arni

Rydym ni’n cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob lliw a llun. Rydym ni’n cynnig grantiau o £300 hyd at £20,000 drwy ein rhaglen agored Arian i Bawb i grantiau o dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu ar Newid Hinsawdd. Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais