Dechreuodd drwy adael i natur arwain – stori Gemma a Julie
01 Medi 2026
Gyda'r byd yn newid, roedd Gemma a Julie eisiau helpu pobl i gysylltu â'r amgylchedd gyda dull newydd.
Pan gododd y cyfle i weithio fel artistiaid gydag Artitude, gwnaethon nhw ei dderbyn. Mae Artitude yn brosiect a redir gan theatr The Playhouse yn Derry/Londonderry. Mae'n defnyddio celf i ymgysylltu â chymunedau. Roedd Gemma a Julie yn teimlo mai dyma'r ffordd berffaith o ddefnyddio eu creadigrwydd.
Cefnogir Artitude gan ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF), sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol.
Helpu cymunedau i gymryd rhan
Dechreuodd Artitude yn 2022, gyda'r nod o rymuso trigolion lleol i gymryd rhan mewn sgyrsiau am yr hinsawdd ac ysbrydoli newid dan arweiniad y gymuned trwy gelf.
Fel rhan o'r prosiect, mae Gemma a Julie yn gweithio mewn dwy gymuned yn Derry/Londonderry. Mae Gemma yn arwain grŵp o amgylch Parc Gwledig Creggan yn ardal Triax ac mae Julie yn gweithio yn Muff Glen, Faughan.
Maen nhw'n cynnal gweithdai sy'n archwilio ein perthnasoedd â mannau gwyrdd lleol. Mae un grŵp yn cynllunio darn perfformio, mae'r llall yn gweithio gydag arteffactau a gasglwyd ac a grëwyd.
Gadael i natur arwain
Mae Julie a Gemma eisiau i'r grwpiau fynegi eu hunain gan ddefnyddio'r byd naturiol fel eu hawen.
Maen nhw'n cymryd ysbrydoliaeth o fannau gwyrdd ar gyfer eu prosiectau. Edrychodd grŵp Gemma ar lên gwerin lleol Y Cropie – cylchfan fawr a adawyd heb ei chyffwrdd yn ystod adeiladu Ystâd Creggan, oherwydd bod pobl yn credu ei bod yn gylch tylwyth teg. Arweiniodd hyn y grŵp i feddwl am wahanol fydau yn cydfodoli, yn weladwy neu'n anweledig, yn naturiol neu wedi'u gwneud gan ddyn. Fe wnaethon nhw hefyd archwilio’r cysyniad o Wylnosau Gwyddelig, fel dathliad o fywyd, a ffordd o ddeffro pobl i natur.
Mae grŵp Julie yn cerdded ar hyd Afon Faughan. Nid oes llwybr wedi'i ddiffinio yma, felly maen nhw'n gadael i natur arwain y ffordd. Mae Julie yn ymuno â phob un o'i grŵp ar deithiau cerdded sy'n golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw, gan archwilio straeon personol sy'n gysylltiedig â mannau naturiol.
Gwneud argraff drwy gelf
Gall siarad am yr argyfwng hinsawdd deimlo'n llethol, yn enwedig wrth wynebu ystadegau am dymheredd, allyriadau neu risgiau llifogydd.
Dywed Paula Larkin, Rheolwr Prosiect Artitude, mai dyma lle mae celf yn rhagori wrth gyrraedd cynulleidfaoedd.
“Gall pobl ddeall y rhifau â’u pen, ond a allant eu deall â’u calon?” meddai. “A dyna beth mae celf yn ei gyfrannu at y gwaith hwn – y galon. Mae'n ei wneud yn fwy hygyrch, yn fwy chwareus.”
Drwy feddalu'r cyflwyniad a gwneud lle i brofi llawenydd, mae'r neges yn taro tant personol ac emosiynol.
Egin gwyrdd
Efallai nad yw dull hyblyg Julie a Gemma o ran technegau celf a theatr yn draddodiadol, ond ni ellir dadlau â'r canlyniadau. Mae eu celf gymunedol gydweithredol, hunan-arweiniol, yn helpu pobl i gysylltu'n emosiynol â materion amgylcheddol cymhleth. Archwiliodd llawer o gyfranogwyr deimladau nad oeddent wedi'u teimlo o'r blaen.
Mae cyfranogwyr wedi nodi lefelau is o bryder eco a mwy o ymgysylltiad â hanes a llên gwerin tirweddau naturiol lleol. Mae hyn wedi ysgogi pobl i'w gwarchod.
Mae'r prosiect hefyd wedi helpu pobl i feithrin cyfeillgarwch newydd. Mae mannau fel Artitude – lle mae hunanfynegiant yn cael ei annog – yn helpu pobl o’r un anian i gysylltu â’i gilydd.
Rhoi cychwyn arni
Rydym yn cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob ffurf a maint. Rydym yn cynnig grantiau o £300 hyd at £20,000 drwy ein rhaglen Arian i Bawb agored i grantiau dros £500,000 drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
Dysgwch ragor am ariannu amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais