Cynaliadwyedd a chymuned: hanfod Play it Again Sport
18 Medi 2024
Mae Play it Again Sport yn fenter gymdeithasol sydd wedi'i lleoli yng Nghwm Rhondda ac a gefnogir gan yr elusen People and Work. Eu nod yw dileu rhwystrau ariannol i chwaraeon a lleihau eitemau sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi drwy werthu dillad ac offer chwaraeon a roddwyd iddyn nhw am brisiau gostyngol. Maen nhw’n defnyddio'r arian sy’n cael ei godi i ariannu gweithgareddau chwaraeon ar draws yr ardal leol, gan ddileu’r gost sydd ynghlwm â chymryd rhan.
Yn hydref 2020, cawson nhw £15,000 o'n cronfa Hwb i’r Hinsawdd i brynu cerbyd trydan (CT) ac i ddarparu pwynt gwefru cerbydau trydan (PGCT) yn Rhondda Fach, gan gynyddu eu hymrwymiad i gynaliadwyedd ymhellach.
Mae Natasha Burnell, Rheolwr Menter yn Play it Again Sport, yn dweud mwy wrthyn ni am y project:
"Mae cymryd rhan yn Hwb i’r Hinsawdd wedi bod yn gyfle gwych i ni. Mae wedi ein galluogi i hyrwyddo Play it Again Sport ar draws Cwm Rhondda, i leihau ein hallyriadau carbon a lleihau ein costau, tra'n gwneud chwaraeon ac ymarfer corff yn fwy hygyrch.
Prynon ni Nissan Leaf, car trydan 100%, ac mae wedi lleihau ein hallyriadau o drafnidiaeth i sero. Rydyn ni wedi arbed tua £600 mewn costau tanwydd ers inni dderbyn ein car saith mis yn ôl, sy'n arbediad sylweddol i fenter gymdeithasol. (Byddai wedi bod yn llawer mwy, ond cafodd ein gweithgareddau a'n casgliadau eu lleihau yn sylweddol eleni gan gyfyngiadau COVID-19).
Rydyn ni wedi bod yn defnyddio'r car trydan i gludo ein grŵp cerdded wythnosol i wahanol leoliadau, fel Llanwonno a thaith gerdded y Pedwar Rhaeadr ym Mhontneddfechan. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi lleihau nifer y ceir sy'n teithio o dri char carbon i un car trydan ac wedi lleihau costau pobl i gael mynediad at weithgarwch corfforol drwy gyflenwi'r cludiant ar eu cyfer.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn defnyddio'r car i gasglu rhoddion o Gaerdydd a ledled y Rhondda, yn ogystal ag ar gyfer ein teithio o ddydd i ddydd pan fyddwn allan yn darparu sesiynau chwaraeon. Rydyn ni wedi arbed arian ar yr holl deithiau hyn gan fod defnyddio'r CT tua dau draean yn rhatach na defnyddio petrol – sy'n golygu ein bod yn gallu dargyfeirio'r arian yn ôl i ddarparu chwaraeon yn hytrach na chostau rhedeg.
Wrth wneud y teithiau hyn a chludo pobl a stoc, mae wedi sbarduno sawl sgwrs gyda phobl am gerbydau trydan. Rydyn ni wedi bod yn falch o rannu ein gwybodaeth â'r gymuned leol am wefru, ystod, costau, dichonoldeb hirdymor a pha mor ymarferol yw gyrru CT. Mae pobl wedi cael eu syfrdanu gan y gostyngiad mewn sŵn wrth ddefnyddio CT hefyd (rhywbeth rydw i wedi dod yn hynod ymwybodol ohono wrth ei yrru).
Roedd Adfywio Cymru yn fentoriaid gwych, yn enwedig o ran dod o hyd i wybodaeth nad oedd ar gael yn rhwydd – fel lleoliadau y PGCT yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol gan ein bod am sicrhau na fydden ni yn dyblygu'r ddarpariaeth. Bydd y PGCT ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio yng Nghanolfan Chwaraeon Rhondda Fach yn fuan - yr un cyhoeddus cyntaf yn Rhondda Fach. Helpodd Adfywio Cymru yn aruthrol hefyd gyda dod o hyd i wybodaeth am ddemograffeg yr ardal leol, i nodi ble a beth y dylen ni fod yn ei wneud, ac i roi cyd-destun i ni ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni bellach yn symud ymlaen i ddatblygu canolfan gynaliadwyedd yn y Rhondda. Gobeithiwn ei defnyddio i hyrwyddo cynaliadwyedd a darparu atebion go iawn i bobl wella eu hymrwymiad i'r amgylchedd ac i'w hiechyd a'u lles eu hunain. Byddai'r ganolfan hon yn cwmpasu Play it Again Sport, siop ddiwastraff, caffi trwsio, Benthyg (llyfrgell o bethau) a gweithdai ar gyfer gweithgareddau cynaliadwy fel gwneud deunydd lapio cwyr gwenyn ac ailbwrpasu dillad.
Rydyn ni mor ddiolchgar i gronfa Hwb i’r Hinsawdd am y cymorth i'n helpu i ddod yn fwy cynaliadwy, am ddarparu'r adnoddau roedden ni eu hangen, ac am ein hysbrydoli i gynyddu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ymhellach.”
Roedd Hwb i’r Hinsawdd yn gronfa i gefnogi grwpiau cymunedol i gymryd camau amgylcheddol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys cymorth gan Adfywio Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu.