Cymunedau bregus ond heb fod ar ben eu tennyn, bydd angen mwy nag arian yn unig i gael effaith hirdymor – adroddiad newydd
23 Mehefin 2026
Mae prosiectau cymunedol a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol yn helpu 7 miliwn o bobl wrth i gymunedau wynebu pwysau cynyddol
Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn galw am gefnogaeth gref, hirdymor i gymunedau, trwy ariannu, ymddiriedaeth a ffordd wahanol o weithio
Aeth mwy na hanner y grantiau yn 2024/25 i gymunedau mwyaf difreintiedig y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chyrraedd y rhai mwyaf anghenus
Mae syniad a dderbynnir bob 3 munud, a grant a ddyfernir bob 8 munud yn dangos bod y galw am gefnogaeth gymunedol yn uwch nag erioed
Mae gwydnwch beunyddiol cymunedau'r DU yn dal gwead cymdeithasol y wlad at ei gilydd ar adeg pan fo ei angen yn fwy nag erioed, meddai adroddiad newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol heddiw.
Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd ddata o gyfanswm o £790.9 miliwn o ariannu a ddyfarnwyd i dros 13,000 o brosiectau cymunedol yn 2024/25 yn unig. Aeth mwy na hanner (51%) o'r arian i'r 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU.
Yn ogystal, canfu arolwg o ddeiliaid grantiau y daeth eu prosiectau i ben yn 2024/25 fod eu harian wedi cefnogi 6.8 miliwn o bobl yn uniongyrchol dros oes y prosiectau, ac wedi cyffwrdd â bywydau hyd at 14 miliwn yn rhagor.
Mae'r adroddiad, Cymunedau'n Gwneud y Gwahaniaeth, yn dangos bod ariannu ar lawr gwlad yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig, gyda mwy nag 8 o bob 10 (81%) o'r prosiectau a gynhwyswyd yn yr astudiaeth, yn nodi eu bod wedi helpu i ddod â phobl ynghyd, a dywedodd 72% o brosiectau eu bod wedi helpu i wella cysylltiadau a pherthnasoedd yn y gymuned.
Ar adeg pan fo pobl a lleoedd ledled y DU yn parhau i wynebu ansicrwydd economaidd, rhaniadau ac anghydraddoldebau, mae'r adroddiad yn canfod bod pŵer mudiadau cymunedol sy'n darparu lleoedd, perthnasoedd a strwythurau cymorth sy'n helpu pobl i deimlo'n fwy diogel, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig, yn bwysicach nag erioed.
Aeth dros £310 miliwn o arian yn 2024/25 yn unig i brosiectau a oedd yn cefnogi cymunedau i ddod at ei gilydd, gyda grantiau a ddaeth i ben yn 2025 yn cefnogi 3.2 miliwn o bobl yn uniongyrchol.
Cefnogodd grantiau a ddaeth i ben yn 2024/25 hefyd 1.1 miliwn o blant a phobl ifanc, o gefnogaeth blynyddoedd cynnar i deuluoedd i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy'n gwneud y newid i fod yn oedolion gyda chefnogaeth hyfforddiant, addysg a chyflogaeth. Cefnogodd prosiectau a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a lles corfforol a meddyliol 1.2 miliwn o bobl, ac elwodd dros hanner miliwn o bobl o brosiectau amgylcheddol fel gerddi cymunedol a thrawsnewid mannau gwyrdd lleol.
Mae adroddiad heddiw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ysbryd cymunedol yn ffynnu yn y DU, gyda byddin o bron i 128,900 o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser yn hael i'r prosiectau ledled y wlad, gan gyfrannu dros 1 filiwn o ddiwrnodau gwaith.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae ein hadroddiad yn dangos y gwahaniaeth sy'n newid bywydau y mae mudiadau cymunedol yn ei wneud bob dydd - yn dawel, yn bwerus ac yn aml o dan bwysau enfawr.
"Ar draws y DU, mae pobl a lleoedd yn wynebu ansicrwydd economaidd, anghydraddoldeb a rhaniad. Ond yr hyn a welwn drwy arian y Loteri Genedlaethol yw, er bod llawer o gymunedau yn fregus, nad ydynt ar ben eu tennyn, ac mae mudiadau lleol yn dal cymunedau at ei gilydd o dan straen enfawr.
"Ond ni allant wneud hyn ar eu pennau eu hunain. Mae creu canlyniadau hirdymor gwell i'n cymunedau angen i ni i gyd feddwl a gweithredu'n wahanol nawr. Os ydym am gael dyfodol iachach, tecach a mwy gwydn, mae angen cefnogaeth hirdymor gryfach ar gymunedau. Mae hynny'n golygu ariannu ond mae hefyd yn golygu perthynas wahanol rhwng mudiadau a'r bobl a'r lleoedd y maent yn eu gwasanaethu, un sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, amynedd a gwybodaeth leol.
"Yn Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, dyna beth rydyn ni'n ei olygu wrth ein strategaeth Cymuned yw'r man cychwyn. Byddwn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ariannu ar lawr gwlad, tra hefyd yn camu ymlaen i wneud ymrwymiadau mwy, mwy beiddgar a thymor hwy sy'n helpu cymunedau i arwain y newid maen nhw'n gwybod sydd ei angen."
Cafodd Graeme Aston, 62, ei hun yn gweithio 78 awr yr wythnos i gadw ei hun uwchlaw'r dŵr fel pennaeth Saesneg mewn ysgol yn Hartlepool, ochr yn ochr â dau ddiagnosis o ganser yn y teulu, a'r gefnogaeth sylweddol sydd ei hangen ar ei fab ifanc anabl. Daeth o hyd i gefnogaeth, perthyn a chymuned gyda Rhaglen Pals yn Stockton-On-Tees, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r grŵp yn darparu gweithgareddau lles i ddynion o bob cymuned. Yn dilyn straen eithafol a bod i ffwrdd o'r gwaith am wyth mis, clywodd Graeme am y rhaglen gan ffrind, ac aeth draw i gwrdd â Mike, y sylfaenydd.
Dywedodd Graeme:
"Roedd Mike yn gallu gweld fy mod i'n nerfus a dywedodd yn dawel yn fy nghlust 'edrycha o gwmpas yr ystafell, mae hanner y dynion yma'n mynd trwy sefyllfa anodd'. Gwnaeth i mi deimlo'n llai unig. Yna dechreuon ni ganu. Dim byd mwy na grŵp o ddynion yn canu Keep the Home Fires Burning mewn tafarn, ond roedd yn anhygoel."
Parhaodd Graeme: "Dechreuais fynd bob wythnos ac yn gyflym iawn dechreuais gymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau. Mae mor hawdd ymgolli yn eich dioddefaint eich hun a diflastod bywyd bob dydd, ond fe wnaeth y côr fy nhynnu allan o hynny. Roedd gwneud pethau fel garddio, rhywbeth hollol y tu allan i'm byd arferol, a chwrdd â'r dynion hyn na fyddwn i byth wedi cwrdd â nhw, yn hynod werthfawr. Mae gennym ni fywydau mor wahanol, ond eto rydym ni i gyd yn wŷr, yn dadau, yn weithwyr ac yn rhannu cariad at ein cymuned a set gyffredin o werthoedd."
Mae adroddiad Cymunedau'n Gwneud y Gwahaniaeth hefyd yn nodi cwestiynau dysgu ar gyfer y Gronfa i'n helpu i ddeall gan gymunedau beth sy'n gweithio i ddod â phobl ynghyd ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig, pam, a beth arall sydd ei angen. Bydd hyn yn cefnogi dull y Gronfa o gefnogi cymunedau yn ail hanner ei strategaeth bresennol gyda chamau mwy beiddgar a thymor hwy i helpu i gryfhau ymddiriedaeth, cyfranogiad a pherthyn ledled y DU.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £2.5 biliwn mewn grantiau i fudiadau sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU, o ddyfarniadau llawr gwlad yn dechrau ar £300 i brosiectau partneriaeth gwerth miliynau o bunnoedd.