Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cefnogi teuluoedd un paned ar y tro

Yn y Den Coffee House yn Taunton, mae Claire Naylor yn dod â rhieni plant sydd ag Anghenion Addysgol Ychwanegol ac Anableddau (SEND) ynghyd i greu cymuned ofalgar, dosturiol a chefnogol. Yn rhiant SEND ei hun, mae ei phrofiadau personol yn allweddol i lwyddiant y grŵp.

Mae Claire Naylor yn fam i 4 o blant, 3 sydd ag anghenion ychwanegol. Hi yw sylfaenydd y siop goffi a hwb cefnogi. Cynigir cymorth i rieni sy’n ei chael yn anodd, i dderbyn y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anableddau (SEND) y maent wir ei angen.

Mae’r Den Coffee House yn galluogi rieni ar draws y sir a thu hwnt i ddod at ei gilydd mewn gofod diogel a chefnogol. Gellir magu cyfeillgarwch a derbyn cyngor wrth weithwyr proffesiynol fel arbenigwyr gofal iechyd a gofal ac ymgynghorwyr cyfreithiol.

Mewn ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol*, roedd 7 allan o bob 10 rhiant sydd â phlentyn yn byw ag anabledd neu anghenion ychwanegol wedi adrodd bod diffyg cefnogaeth ar gael yn ystod blynyddoedd cyn-ysgol eu plant. Roedd hyn yn cynnwys rhieni plant SEND. Roedd y diffyg cefnogaeth wedi effeithio’n negyddol ar eu gallu i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain. Disgynnodd hyn i 6 allan o bob 10 rhiant i blant sydd ddim yn SEND.

Yn ogystal, dywedodd 64% o rieni sydd â phlentyn gydag anabledd neu anghenion ychwanegol, fod cefnogaeth annigonol yn ystod blynyddoedd cyn-ysgol eu plentyn wedi effeithio’n negyddol ar eu hyder. O ganlyniad, roeddent yn ansicr sut i gefnogi datblygiad eu plentyn. Mae hyn i’w gymharu gyda 55% mewn rheini i blant sydd ddim yn SEND.

Profiad byw gwerthfawr

Sefydlodd Claire y Den i fynd i’r afael â’r broblem. Mae ei phrofiadau hi yn denu ymwelwyr, gyda rhai yn teithio tair awr i fynychu.

Wedi iddi weithio yn flaenorol fel athrawes SEND, roedd Claire yn gwybod beth i wneud pan wnaeth ei mab MJ ddechrau dangos arwyddion yn gyson ag awtistiaeth. Serch hynny, wedi iddynt gael diagnosis eithaf cyflym, wynebodd gwagle enfawr wrth geisio canfod cefnogaeth emosiynol.

Dywedodd: “Fel mam hŷn i blentyn ag anghenion SEND, yn sydyn roeddwn mewn sefyllfa lle nad oedd gen i nifer o ffrindiau oedd yn yr un sefyllfa ac roeddwn i’n dyheu am gysylltiad gyda rhieni eraill oedd yn yr un cwch.”

Mae MJ bellach yn 6, yn awtistig ac yn ddieiriau. Mae gan Claire 3 o blant eraill, 2 sydd ag anghenion ychwanegol; Jackson sy’n 8 ac sydd â ADHD ac awtistiaeth, ac mae ei merch Jamie, 26, ag amhariad ar y golwg ac yn defnyddio cadair olwyn.

Dywedodd Claire: “Nid oedd tan i MJ ddechrau tyfu y gwnes i sylwi mwy a mwy ar y bylchau yn ei ddatblygiad. Yn sydyn, cefais fy hun yn ymladd am bob math o gefnogaeth, gan gynnwys y Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP) oedd ei angen arno i dderbyn lle mewn ysgol arbenigol.”

Heb rhwydwaith gefnogi i’w chynorthwyo, gadawyd Claire yn teimlo’n anobeithiol ac wedi drysu. Serch hynny, nid oedd wedi ei rhwystro rhag estyn allan at rieni eraill.

Dywedodd: “Roeddwn yn meddwl, daliwch ymlaen am funud, os nad ydw i’n deall beth sy’n mynd ymlaen fel rhywun sy’n gweithio yn y maes SEND, pa obaith sydd yna i rieni eraill?”

Penderfynodd gynnal bore coffi yn ei chaffi lleol. Daeth rhieni o bob cefndir at ei gilydd, rheiny oedd â phlant gydag anghenion SEND neu fel arall.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl,” dywedodd. “Roeddwn wedi fy synnu pan wnaeth 35 o bobl droi i fyny! Dywedodd gymaint ohonynt eu bod wir angen rhywbeth fel hyn”.

Cartref oddi cartref

Mae’r Den yn darparu sesiynau i grwpiau gan gynnwys:

  • mam-gu a thad-cu

  • mamau ifanc

  • tadau

  • oedolion sydd â ADHD

Derbyniodd £20,000 wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo i barhau i gefnogi a datblygu’r gymuned lewyrchus.

Dywedodd Claire: “Mae’r Den yn darparu gwir gartref oddi cartref, lle gall rhieni dreulio gymaint o amser ag y dymunant yn sgwrsio gyda phobl eraill tebyg sy’n delio gyda’r un sialensiau o ddydd i ddydd.

“Mae’n anodd pwysleisio pa mor hanfodol yw’r math yma o rwydwaith cefnogi i rieni sydd wedi dod i ben eu tennyn, oherwydd yn aml nid oes ganddynt ffrindiau na theulu i droi atynt sydd yn llwyr ddeall eu sefyllfa.”

“MJ sydd wedi fy ysgogi drwy hyn i gyd, oherwydd y gôl yw creu byd lle mae’n cael ei ddeall a’i dderbyn. Gyda mwy o siopau coffi a rhwydweithiau cefnogi fel yma, gallwn gefnogi i wneud hyn yn realiti ar gyfer gymaint o deuluoedd.”

Un rhiant sydd wedi cael budd o’r cyngor a chefnogaeth yw Sophie Olivia Blest.

Dywedodd: “Rwy’ mor ddiolchgar i’r Den Coffee House. Pan oedd perygl i fy mab gael ei wahardd o’n hysgol gynradd leol, doeddwn i ddim yn gwybod lle i droi. Roedd dod o hyd i’r gefnogaeth yn y Den Coffee House wedi helpu fy atgyfnerthu pan oedd ei angen fwyaf.”

“Diolch i’r holl gefnogaeth a dderbyniais, mae fy mab bellach yn gwneud gymaint gwell yn yr ysgol, ac rwyf wedi gallu ailgodi fy hun eto.”

Dywedodd Claire: “Hoffwn ddiolch yn fawr i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, hebddynt ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn rydym yn ei wneud a chefnogi rhieni sydd yn chwilio am atebion a chefnogaeth i’w plant.”

*Cynhaliwyd arolwg ar draws y Deyrnas Unedig o 4,750 o rieni plant oed cynradd gan Censuswide. Roedd gan 19% o ymatebwyr blentyn ag anabledd neu anghenion ychwanegol. Casglwyd data drwy arolwg ar-lein, a chynhaliwyd gwaith maes rhwng 4 – 15 Rhagfyr 2025.