Neidio i'r prif gynnwys

Aelod bwrdd newydd i ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi penodiad Fraser Hardie i'w bwrdd.

Mae Fraser yn arweinydd busnes, polisi a chyfathrebu profiadol iawn. Ar hyn o bryd mae'n Uwch Gynghorydd i'r cwmni cynghori busnes Teneo ac mae'n gweithio gyda byrddau, Prif Weithredwyr, ac arweinwyr gweithredol mewn sefydliadau byd-eang a chwmnïau FTSE100. Mae hefyd yn Gadeirydd Autism Action ac yn ymddiriedolwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau elusennol ers dros 20 mlynedd.

Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, dan arweiniad Yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, bydd Fraser yn ymgymryd â'i rôl ar 11 Ionawr 2027.

Mae ei benodiad yn dilyn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi’n ddiweddar Michelle Mitchell OBE a Sunder Katwala i'r bwrdd. Dechreuodd Michelle a Sunder eu rolau ym mis Awst 2026.

Bydd Fraser a'r bwrdd yn gweithio gyda'r Cadeirydd, y Fonesig Julia Cleverdon i osod y weledigaeth a goruchwylio'r broses o gyflawni strategaeth, perfformiad ac ariannu cymunedau’r Gronfa yn effeithiol.

Mae'r bwrdd yn goruchwylio perfformiad effeithiol gweithrediad a ddyfarnodd dros £900 miliwn mewn dros 14,000 o grantiau i brosiectau cymunedol ledled y DU yn 2025 to 26 yn unig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r Gronfa wedi dosbarthu £4.6 biliwn drwy 118,000 o grantiau yn ystod y deng mlynedd diwethaf – sy'n cyfateb i 40 o grantiau ym mhob ardal cod post yn y DU.

Bydd Fraser yn ymuno â'r bwrdd ar adeg bwysig wrth i'r Gronfa symud i'r ail gam o gyflwyno ei strategaeth, Cymuned yw’r Man Cychwyn. O dan y strategaeth, a gafodd ei lywio gan farn 18,000 o bobl o bob cwr o'r DU, bydd y misoedd nesaf yn gweld cyflymiad cefnogaeth Y Gronfa i syniadau mwy o faint, mwy beiddgar i gefnogi mwy o newid mewn cymunedau a'u helpu i adeiladu'r sylfeini, y pŵer a'r dylanwad sydd eu hangen arnynt i lunio eu dyfodol eu hunain.

Yn ystod ei yrfa mae Fraser wedi cynghori Llywodraeth y DU ar gyfathrebu polisi ar ystod eang o faterion gan gynnwys cymunedau, iechyd cyhoeddus, materion tramor ac etifeddiaeth Olympaidd. Roedd hefyd yn Gadeirydd Gweithredol Teneo Blue Rubicon ac yna Teneo UK, ar ôl sefydlu ac arwain ymgynghoriaeth cyfathrebu strategol Blue Rubicon yn flaenorol. Roedd ei yrfa gynharach yn cynnwys rolau arweinyddiaeth cyfathrebu gyda’r busnesau FTSE 100 Rio Tinto a Powergen (Eon bellach).

Wrth ymateb i'r penodiad newydd, dywedodd y Fonesig Julia Cleverdon, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

"Rwy'n falch iawn bod Fraser wedi derbyn gwahoddiad yr Ysgrifennydd Gwladol Lisa Nandy i ymuno â'r Bwrdd gwych y mae gen i'r fraint o gadeirio. Bydd yn dod â phrofiad cyfathrebu a pholisi o'r radd flaenaf i ni ar adeg pan fod gwrando ar y rheng flaen mewn cymunedau ac adeiladu cyfleoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau yn hanfodol.

"Bydd ei brofiad aruthrol o adeiladu ymddiriedaeth yn gaffaeliad enfawr wrth i ni gyd weithio i sicrhau bod effaith arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar achosion da yn cael ei weld a'i deimlo ledled y DU, ac wrth i ni adeiladu ar ein nod i fuddsoddi mewn cymunedau ar gyfer effaith hirdymor."

Mae bwrdd Y Gronfa yn y DU hefyd yn goruchwylio gwaith 4 pwyllgor ar gyfer pob un o wledydd y DU, sy'n cysylltu â blaenoriaethau lleol, yn cefnogi rôl y timau ariannu lleol, yn gwneud penderfyniadau ar grantiau mawr ac yn sicrhau bod grantiau yn cael yr effaith fwyaf posibl ar draws cymunedau pob gwlad.

Darllenwch am Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn apwyntio aelodau newydd i’r bwrdd yma.