7 peth rydym wedi’i ddysgu yng Ngŵyl gyntaf y Gronfa Gweithredu Hinsawdd
01 Rhagfyr 2025
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ddod â bron i 100 o brosiectau'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) ynghyd o bob rhan o'r DU i ddathlu gweithredu amgylcheddol a arweinir gan y gymuned. Dyma seith peth a ddysgwyd gennym pan gysylltodd cymunedau, arbenigwyr hinsawdd ac arweinwyr ifanc am y tro cyntaf.
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ddod â bron i 100 o brosiectau'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) ynghyd o bob rhan o'r DU i ddathlu gweithredu amgylcheddol a arweinir gan y gymuned.
Agorodd ein cadeirydd, y Fonesig Julia Cleverdon DCVO, CBE y digwyddiad mewn sgwrs â Pam Warhurst, CBE, o Incredible Edible ac Immy Kaur o Civic Square. Gosododd y drafodaeth fywiog hon y naws ar gyfer y diwrnod cyn i'n deiliaid grant anhygoel a'n siaradwyr arbenigol arwain sesiynau, rhannu arbenigedd a dangos i ni beth sy'n bosibl pan fydd cymunedau yn gweithredu.
Dyma seith peth a ddysgwyd gennym pan gysylltodd cymunedau, arbenigwyr hinsawdd ac arweinwyr ifanc am y tro cyntaf.
1. Mae partneriaethau yn bwerus
Dangosodd yr Ŵyl beth sy'n digwydd pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar weithredu hinsawdd.
Wedi'i drefnu gan Bartneriaeth Dysgu a Chymorth y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – dan arweiniad Arup gyda'r Uned Arloesi, Creature & Co., a Phrifysgol Leeds – daeth y digwyddiad â phobl ag arbenigedd a phrofiad byw at ei gilydd.
"Mae'n ymwneud â phartneriaeth a chysylltiadau a gweledigaethau cyffredin o ddyfodol gwell i bawb." - Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru, aelod o banel y Gronfa Gweithredu Hinsawdd a Bwrdd y DU, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae'r bartneriaeth CAF yn cysylltu 140+ o brosiectau hinsawdd cymunedol ledled y DU i rannu gwybodaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd, a chyfrannu at newid parhaol. Mae'n dangos sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dod â phobl at ei gilydd i bontio'r bwlch rhwng anghenion cymunedol a'r hyn sy'n bosibl.
2. Mae cysylltiad yn allweddol
Dysgu oddi wrth ei gilydd oedd y thema a ddaeth i fyny amlaf yn yr arolwg ar ôl y digwyddiad. Dywedodd 95% o'r mynychwyr fod yr Ŵyl wedi eu helpu i wneud cysylltiadau newydd, cynyddodd 98% eu gwybodaeth am brosiectau deiliaid grant eraill, ac roedd 92% yn teimlo'n rhan o fudiad ehangach.
"Roedd yn gyfle mor werthfawr i gysylltu â deiliaid grant CAF eraill a chael synnwyr o ehangder a dyfnder y gwaith sy'n digwydd ar draws y rhwydwaith. Gwnaeth i ni deimlo fel ein bod ni'n rhan o fudiad mwy." - Zarina Ahmad, WEN (Women’s Environmental Network).
"Mae’r cyfle hwn yn dod â ni at ein gilydd, yn agosach ac yn gysylltiedig â'r wybodaeth bod troi i fyny a bod yn rhan o rywbeth sydd ag ystyr - weithiau yn ddigon." - Charlotte Carson, Green & Healthy Frome.
3. Mae cymunedau yn creu newid
Mae cymunedau yn gwybod beth sydd ei angen arnynt. Profodd amrywiaeth y prosiectau a gynrychiolir yn yr Ŵyl – o ôl-ffitio yn Ucheldiroedd yr Alban i orielau yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a rhwydweithiau meddygon teulu yng Ngwlad yr Haf – ehangder rhyfeddol o weithredu dan arweiniad y gymuned.
"Roedd ymdeimlad o gyffredinrwydd ymhlith yr holl wahanol grwpiau y gwnes i gyfarfod â nhw, o brosiectau ymgysylltu ag ysgolion i ôl-ffitio ar raddfa fawr a phrosiectau tyfu ar gyfer menywod. Gadewch i ni dderbyn yr her sydd o'n blaenau gyda'r pŵer cyfunol hwn a thaflu goleuni ar y cyfan!" Charlotte Carson, Green & Healthy Frome.
"Dechreuodd rhai o welliannau system mwyaf arwyddocaol ein hamser gyda chamau bach gan ychydig o bobl a ddangosodd y gellid ei wneud." - Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru ac aelod o Fwrdd y DU, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
"Mae'n rhaid i ni i gyd gredu y gallwn wneud newid, peidiwch ag aros i eraill ei wneud." - Hannah M, prosiect Earthwatch Europe Tiny and Wee Forests.
4. Ymddiried mewn pobl ifanc i arwain
Roedd yr Ŵyl yn llwyfan i genhedlaeth newydd o weithredwyr cymunedol rannu eu straeon a llywio'r sgwrs am yr hinsawdd.
"Uchafbwynt i mi oedd clywed gan banel o bobl ifanc a adawodd y gynulleidfa gyda thri chyfarwyddyd clir ar sut i gynnwys mwy o bobl ifanc mewn gwaith amgylcheddol yn briodol a gyda phwrpas: ymddiried ynddynt, cofio'r anawsterau y mae’r byd ohoni’n achosi ar eu cyfer, a'u gwahodd yn rhagweithiol i wneud gwahaniaeth." - Amy Haynes, Nature Neighbourhoods.
"Roedd yr egni a'r awydd i wneud gwahaniaeth yn heintus! Fe wnes i fwynhau cwrdd â deiliaid grant CAF eraill, clywed gan siaradwyr ysbrydoledig, a dod â mewnwelediadau defnyddiol yn ôl i helpu llywio'r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl ifanc a chymunedau lleol mewn gweithredu hinsawdd yn well." - Joshua Taylor, New Forest National Park, yn mynychu ar ran partneriaeth cynllun Youth for Climate and Nature (YouCAN).
"Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i rannu fy mhrofiadau a fy safbwyntiau. Archwiliodd y panel themâu ymgysylltu ieuenctid mewn digwyddiadau hinsawdd, rhwystrau i weithredu a sut y gellir darparu cefnogaeth orau i ganiatáu i bobl ifanc arwain wrth wneud newid ar gyfer yr hinsawdd a natur. Roedd yn wych clywed gan bobl ifanc mewn prosiectau eraill ledled y wlad, a rhannu mewnwelediadau o'r prosiect #YouCAN a New Forest Youth Board." - Eva Wilcock, gosodwr paneli solar a phanelydd Young People Leading Change.
"Fy ngwers allweddol oedd pa mor bwysig yw hi bod pobl ifanc yn cael eu grymuso wrth wneud penderfyniadau lleol a bod eu creadigrwydd, eu barn a'u datrysiadau unigryw yn cael eu hyrwyddo a'u cyflawni, er budd eu hunain a'u cymunedau lleol." - Aidan Dempsey, aelod o brosiect a phanelydd Sefyll Dros Natur Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
5. Mae adrodd straeon yn bwysig, nawr yn fwy nag erioed
"Mae'r arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom ar yr hinsawdd eisoes yma - mae angen llawer, llawer mwy o bobl i wybod amdano. Dyna oedd fy ngwers mawr o ddiwrnod gwirioneddol ysbrydoledig." Rachael Orr, Climate Outreach.
Mae gweithredu hinsawdd yn dod ym mhob ffurf a maint. Mae diwylliant a hunaniaeth yn bwysig yn y ffordd rydyn ni'n cysylltu cymunedau â'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
"Mae angen i ni newid y naratif ynghylch gweithredu hinsawdd, ac mae'r sefydliadau hyn, y bobl anhygoel hyn, y casgliad gobeithiol, llawen hwn o weithredu yn gwneud yn union hynny. Nawr mae angen i ni ddweud wrth bawb." – Peter Johnson, Creature & Co.
"Mae'r gwaith yn siarad drosto'i hun - adrodd y straeon a pharhau i'w hailadrodd. Gwnewch yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hadlewyrchu a'u cynrychioli yn yr hyn rydych chi'n ei wneud." - Liz Watchorn, Pennaeth Ariannu, Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
6. Harneisio gobaith
Roedd 86% o'r mynychwyr yn teimlo ymdeimlad newydd o obaith a phosibilrwydd.
"Roedd yr egni a'r awydd i wneud gwahaniaeth yn heintus! Roedd y diwrnod yn ysbrydoledig ac yn fy ngadael â chwilfrydedd dyfnach am yr hyn y gallwn i a ni ei wneud, yn ogystal â gobaith dwfn o'r cynnydd sy'n cael ei wneud mewn cymunedau a chan gymunedau." - Susie Farren, Dirprwy Gyfarwyddwr Portffolio’r DU, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
"Roedd yr egni ar y diwrnod yn wych. Roedd bwrlwm go iawn yn yr awyr, ac roedd y diweddglo gyda'r sioeau ffasiwn a'r gerdd yn ffordd mor wych i orffen." - Zarina Ahmad, Wen (Women’s Environmental Network).
Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd wedi dyfarnu dros £150 miliwn i fwy na 140 o brosiectau ers 2019. Trwy bŵer partneriaeth a chydweithio, mae'r prosiectau hyn bellach yn cysylltu, rhannu gwybodaeth ac adeiladu mudiad ar gyfer newid parhaol.
"Mae cymaint o weithredu hinsawdd eisoes yn digwydd ar draws cymunedau'r DU. Mae angen i ni rannu mwy ohono. Mae yna lawer i fod yn obeithiol amdano!" - Liz Watchorn, Pennaeth Ariannu'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
7. Mae newid yn dechrau pan fyddwch chi'n dechrau rhywbeth
Fel y dywedodd y bardd Siana Bangura yn ei cherdd yn crynhoi'r hyn yr oedd hi wedi'i glywed trwy gydol y dydd: mae'r pethau bach yn cronni. Mae pob gweithred yn bwysig.
Yn ystod adegau heriol a phegynol, mae gadael i bobl weld gwerth gweithredu yn siarad yn uwch nag unrhyw ddadl. Mae dechrau arni yn bwysig.
"Trwy bŵer gweithredoedd bach, fel tyfu bwyd lleol, rydyn ni'n troi llwyd yn wyrdd. Credwch ym mhŵer gweithredoedd bach. Dywedwch y stori. Cymunedau yw arloeswyr yfory." Pam Warhurst, Incredible Edible.
"Mae gan bobl y pŵer i greu newid; yr hyn sydd gennym yn yr ystafell hon yw pobl sy'n gwybod beth sydd wedi gweithio i'w cymunedau lleol ac sy'n gallu rhannu dysgu." - Y Fonesig Julia Cleverdon, DCVO CBE.