Neidio i'r prif gynnwys

Rydym yn diweddaru ein gwefan ar 10 Hydref rhwng 10am a 2pm. Efallai y bydd rhywfaint o wybodaeth ar goll neu'n anghywir yn ystod y cyfnod hwn.

4.5 miliwn yn methu cael mynediad at fyd natur o gwbl, er gwaethaf y galw am 'bresgripsiynau gwyrdd'

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod:

  • amcangyfrifir bod 4.5 miliwn o oedolion yn y DU yn methu cael mynediad i fyd natur o gwbl

  • mae pobl o aelwydydd incwm is yn fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o ddweud nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at natur o gwbl (13%) o'i gymharu â chyfoedion incwm uwch (4%)

  • mae'r mwyafrif helaeth (80%) o oedolion y DU yn dweud bod amser ym myd natur wedi helpu eu hiechyd a'u lles cyffredinol dros y flwyddyn ddiwethaf

  • amcangyfrifir y byddai 76% o'r rhai a gafodd eu cyfweld yn agored i gael eu presgripsiynu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel rhan o gynllun triniaeth ehangach

Amcangyfrifir bod 4.5 miliwn o oedolion ledled y DU yn methu cael mynediad i fyd natur o gwbl, yn ôl ymchwil newydd gan Censuswide a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae'r rhai o aelwydydd incwm is yn fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn gallu cael mynediad at natur o gwbl (13%) o'i gymharu â'r rhai o aelwydydd incwm uwch (4%).

Er gwaethaf y rhwystrau, mae 80% yn dweud bod amser ym myd natur wedi helpu eu hiechyd a'u lles cyffredinol i ryw raddau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae 76% o oedolion y DU yn dweud y byddent yn agored i gael presgripsiwn i fyd natur gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel rhan o gynllun triniaeth ehangach.

Sut mae mynediad at natur yn gwella iechyd meddwl

I Jordan, tad ifanc o Gateshead, newidiodd y buddion llwybr ei fywyd.

Roedd Jordan yn cael trafferth gydag OCD a gorbryder difrifol a oedd yn gwneud bywyd bob dydd yn anodd. Daeth gadael y tŷ, cymdeithasu, a chadw gwaith i gyd yn her. Dim ond pan ymunodd â North East Young Dads and Lads y gwnaeth pethau newid, ac fe gafodd ei gyfeirio at Birds, Bees, Bikes & Trees, prosiect amgylcheddol a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

"Tua'r adeg y cafodd fy mhlentyn cyntaf ei eni, cefais fy nghyfeirio at y prosiect oherwydd bod fy OCD a'm gorbryder yn gwneud bywyd bob dydd yn anodd ac roedd cadw gwaith i gyd yn her," meddai Jordan.

"Ond rhoddodd y prosiect reswm i mi fynd tu allan ac ailgysylltu â phobl eto, ac mae wedi newid llwybr fy mywyd. Rydw i bellach yn wenynwr hyfforddedig, yn cael fy nghyflogi gan yr elusen, ac mae gen i gynlluniau ar gyfer prosiect i roi cadw gwenyn ar gwricwlwm yr ysgol."

Tystiolaeth o effaith natur ar iechyd a lles

Mae meddygon teulu wedi cyfeirio 1.3 miliwn o bobl at bresgripsiynu cymdeithasol mewn un flwyddyn, yn ôl y dadansoddiad cenedlaethol diweddaraf gan ymchwilwyr yn UCL. Mae ymchwil bellach yn awgrymu bod mynediad rheolaidd i fannau gwyrdd yn lleihau ymweliadau â meddygon teulu 28% ac fe allai arbed hyd at £2 biliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd

Dangoswyd bod treulio amser ym myd natur yn lleihau pryder pobl ac yn gwella eu hapusrwydd a'u boddhad bywyd, yn ôl canfyddiadau astudiaeth drawslywodraethol dwy flynedd a gyhoeddwyd gan yr Academi Genedlaethol Presgripsiynu Gwyrdd Cymdeithasol.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl â natur yn y lleoedd sydd ei angen fwyaf, fel Birds, Bees, Bikes & Trees ar lannau'r Tyne, Sporting Nature ar draws Gogledd Iwerddon, Hamiltonhill Claypits yn Glasgow, neu Wye Adapt sy'n ailgysylltu cymunedau ag Afon Gwy yng Nghymru.

Meddai Sarah Jordan, Cyfarwyddwr Mannau Gwyrdd ar gyfer Iechyd yn y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy, "Rydym yn gwybod o gasgliad cynyddol o dystiolaeth y gall natur gael effaith fesuradwy ar iechyd a lles.

Fodd bynnag, yr hyn rwy'n ei weld dro ar ôl tro trwy fy ngwaith, yw mai'r bobl sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i gael mynediad at fannau gwyrdd yn aml yw'r rhai sy'n profi'r manteision mwyaf pan fydd y rhwystrau hynny'n cael eu dileu.

Mae'r ymchwil newydd hon yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth honno ac yn atgyfnerthu pam bod buddsoddiad parhaus i ddod â natur yn agosach at bob cymuned mor bwysig.

Fel un o sefydliadau mwyaf a mwyaf dibynadwy'r wlad, mae gan y system iechyd rôl hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i natur a'r manteision iechyd y gall ei ddarparu."

Meddai Liz Watchorn, Pennaeth Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Ni ddylai eich iechyd ddibynnu ar eich cod post na'ch pecyn cyflog, ond i ormod o bobl, dyna sy'n digwydd.

Rydym wedi buddsoddi dros £24 miliwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig ar brosiectau sy'n helpu pobl i wella eu hiechyd trwy ddod â nhw'n agosach at natur, ac rydym am wneud mwy.

Mae cymunedau'n gwybod orau beth sydd ei angen arnyn nhw a sut i alluogi newid, felly os oes gennych syniad, rydyn ni eisiau ei glywed."

Y camau nesaf

Os ydych chi'n rhan o grŵp neu sefydliad cymunedol, darganfyddwch pa grantiau amylgcheddol sydd ar gael yn eich ardal.

Nodiadau i'r Golygydd

Ymchwil am fynediad at natur

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Censuswide, ymhlith sampl o 4000 o ymatebwyr cynrychioliadol yn genedlaethol yn y DU, 18+ oed.

Casglwyd y data rhwng 28.08.2026 - 03.09.2026. Mae Censuswide yn aelod o'r Market Research Society (MRS) a'r British Polling Council (BPC), ac yn llofnodwr i'r Global Data Quality Pledge. Rydym yn cadw at God Ymddygiad MRS ac egwyddorion ESOMAR.

Gofynnwyd i'r ymatebwyr, 'Ar gyfartaledd, pa mor aml ydych chi'n gallu cael mynediad at natur (h.y. coedwig neu goetir, parc mawr, llyn neu afon, traeth neu arfordir)?' . Dewisodd 8.2% "Amherthnasol - Nid wyf yn bersonol yn gallu cael mynediad at unrhyw natur/byth”. Wedi'i gymhwyso i amcangyfrif canol blwyddyn SYG 2024 o boblogaeth y DU 18 oed a throsodd (55,022,253), mae hyn yn cyfateb i 4,525,580 o oedolion.

Mae'r gwahaniaeth rhwng aelwydydd incwm is ac incwm uwch yn ystadegol arwyddocaol ar lefel hyder 95% (p < .05)

Mae'r canfyddiadau yn atgyfnerthu ymchwil flaenorol y llywodraeth yn Lloegr sy'n dangos awydd cyhoeddus sylweddol am bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd.

Mae'r arolwg yn cefnogi tystiolaeth ehangach gan Natural England, sy'n canfod bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn Lloegr yn fwy tebygol o adrodd nad oes ganddynt fannau gwyrdd lleol o fewn pellter cerdded hawdd.

Beth yw presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Mae'r GIG yn diffinio 'presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd' fel yr arfer o gefnogi pobl i gymryd rhan mewn ymyriadau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol. Mae presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn cynnwys yr hyn a elwir yn weithgareddau gwyrdd a glas.

Gallai'r rhain gynnwys cynlluniau cerdded lleol, prosiectau garddio cymunedol, gwirfoddoli cadwraeth, campfeydd gwyrdd, nofio dŵr agored neu weithgareddau celfyddydol a diwylliannol sy'n digwydd yn yr awyr agored.

Gall y gweithgareddau hyn gael eu 'presgripsiynu' gan weithwyr cyswllt (a gweithwyr proffesiynol dibynadwy eraill) ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth, er enghraifft, atgyfeiriadau at gymorth ar gyfer tai neu gyllid, yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau pob unigolyn.