Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

£2 filiwn o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi gwasanaethau cymunedol hanfodol yng Nghymru

Heddiw mae 48 o gymunedau ledled Cymru wedi derbyn £2 filiwn o arian y Loteri Genedlaethol. Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ei rownd ddiweddaraf o grantiau, gan gynnwys cymorth i gymunedau drwy’r argyfwng costau byw.

Mae Manage Money Wales CIC, yn Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £249,831 i gefnogi pobl leol ar incwm isel drwy greu cartref parhaol ar gyfer eu Siop Rhannu cymunedol. Byddan nhw hefyd yn sefydlu pantri ac oergell gymunedol, ac yn trefnu gweithdai a gweithgareddau allgymorth, gan gynnwys siop dros dro.

Dywedodd Jennifer Hare, Prif Weithredwr Manage Money Wales CIC: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn gallu agor y Siop Rhannu Cymunedol yn llawn amser ac ehangu ein gwasanaethau gan gynnig caffi a phantri cymunedol am ddim; hyfforddiant ariannol am ddim, cefnogaeth ac arweiniad a chynnal gweithgareddau, digwyddiadau a gweithdai am ddim."

Mae Cwmni Theatr Stage Goat CIC yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, wedi derbyn grant £95,705 i ddarparu caffi ieuenctid a man cynnes yn y dref i bobl ifanc 14-25 oed. Bydd y lle yn ganolbwynt i bobl ifanc yn y gymuned leol ac yn eu helpu i fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Dywedodd Tracey O’Grady, Cyfarwyddwr Sefydlu Stage Goat Theatre: “Mae ein gwirfoddolwyr ifanc yma yn Stage Goat wedi bod yn gofyn cwestiwn pwysig i’w cyfoedion. “Beth mae pobl ifanc ei eisiau/ei angen yn eu cymuned?”. Rydym ni’n hynod falch o’r hyn y mae ein gwirfoddolwyr wedi'i wneud i ddod â'r caffi ieuenctid hwn i fodolaeth. Roedd yn rhywbeth yr oedd mawr ei angen a’i eisiau yn ein cymuned ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a gweledigaeth ein hieuenctid lleol!”

Ym Mro Morgannwg, bydd grant Loteri Genedlaethol £80,900 i Gronfa Goffa Richard Taylor yn ailddatblygu’r parc sglefrio yng Ngerddi’r Cnap, Y Barri. Bydd yr arena newydd yn darparu lle ar gyfer sglefrwyr abl ac anabl i fwynhau ymarfer corff yn yr awyr agored a man awyr agored i aelodau'r gymuned o bob oed gymdeithasu. Dywedodd Gaynor Taylor o Gronfa Goffa Richard Taylor:

“Rwyf wrth fy modd bod y Loteri Genedlaethol wedi darparu’r cyllid ychwanegol sydd ei angen i barhau â Pharc Sglefrio Coffa Richard Taylor. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Bendcrete yn dod i'r safle. Hoffwn ddiolch i Chwaraeon Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Y Loteri Genedlaethol, Waterloo Foundation, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a haelioni pawb sydd wedi cyfrannu i wneud y prosiect hwn yn bosibl.”

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae arian y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi sefydliadau cymunedol sy’n gwneud gwaith pwysig, ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol. Mae’r grantiau diweddaraf hyn yn dangos sut y gall arian y Loteri Genedlaethol wneud gwahaniaeth cadarnhaol, a gall chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch o gefnogi cymunedau fel hyn.”

Mae cyfanswm o £2,033,284 wedi cael ei ddyfarnu, sy’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn prynu tocynnau. Mae rhestr lawn o'r grantiau a ddyfarnwyd ynghlwm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk