1.5m ar gael ar gyfer rhwydwaith dysgu DU-gyfan i gefnogi cymunedau i ddarparu prosiectau ynni
16 Medi 2024
Dyma Peter Capener, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Bath & West Community Energy a Dirprwy Gadeirydd Community Energy England yn adlewyrchu ar y sector ynni cymunedol ledled y DU ac yn rhannu dysgu i helpu llywio cyllid i gefnogi rhwydwaith dysgu ynni cymunedol DU-gyfan fel rhan o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Roeddwn yn sicr yn gyffrous i gynnal adolygiad cyflym o ddysgu o fewn y sector ynni cymunedol, dywedodd Nick o’r Gronfa wrthyf “Hoffem ddarparu £1.5 miliwn i sefydlu rhwydwaith dysgu DU-gyfan dros dair i bum mlynedd a hoffem wybod beth sydd eisoes yn bodoli”
O'r diwedd, meddyliais i, ffocws ar ddysgu. Mae'n faes sydd angen llawer mwy o gefnogaeth yn bendant os hoffem ysgogi, galluogi ac ysbrydoli lefelau uwch o weithredu cymunedol ar ynni.
Yn ddiweddar, comisiynodd y Gronfa Ashden Trust i wneud rhywfaint o waith ymchwil cwmpasu sy'n amlygu bod diffyg cyllid i gefnogi rhannu gwybodaeth a dysgu ar draws prosiectau ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni. Yn enwedig rhwng grwpiau mwy sefydledig a grwpiau llai profiadol sydd newydd ddechrau archwilio'r potensial ar gyfer gweithredu yn y maes ynni.
Mae ymchwil hefyd yn amlygu pwysigrwydd datblygu rhwydwaith a chysylltu ar draws rhanbarthau a gweinyddiaethau datganoledig, yr angen am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith rhwydwaith a allai annog dulliau newydd o rannu dysgu a sgiliau a gwerth thema gweithredu hinsawdd wedi’i thargedu a allai gyfrannu at dwf mentrau sy'n canolbwyntio ar ynni cymunedol.
Ond roedd angen deall nawr sut y gallai rhwydwaith newydd adeiladu ar gyfleoedd dysgu presennol.
Nod yr adolygiad newydd hwn oedd crynhoi pa gyfleoedd dysgu sydd eisoes ar gael yn y maes ynni cymunedol, yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, yr hyn y mae pobl eisiau ei weld yn y dyfodol a sut y gallai cyllid newydd gefnogi gwaith presennol i osgoi dyblygiad. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a dderbyniodd 67 o ymatebion, gan nodi 116 o weithgareddau dysgu gyda 102 o weithgareddau unigryw, ynghyd â gweithdy ar-lein a ddaeth â 18 o randdeiliaid ynghyd o bob rhan o’r sector.
Mae'n bwysig nodi bod 80% o ymatebwyr yr arolwg yn ddarparwyr dysgu a'r 20% arall yn gyfranogwyr dysgu. Roedd 51% o'r ymatebwyr wedi'u lleoli yn y gymuned (29% yn wirfoddol, 21% yn cael eu talu), 35% wedi'u lleoli mewn cymdeithasau ynni cymunedol, rhwydweithiau neu sefydliadau cymorth ehangach ac roedd 14% ohonynt o sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleoedd dysgu a nodwyd (64%) yn dal i fod ar gael ar hyn o bryd, gan gwmpasu pynciau allweddol fel ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni/ôl-osod.
Roedd y ddarpariaeth ddysgu yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr ar y cyfan gyda sgôr o 4.3 ar raddfa o 1 i 5 ar gyfartaledd. 5 oedd y mwyaf llwyddiannus o ran bodloni nodau dysgu. Ar gyfartaledd, sgoriodd darparwyr ynni ddarpariaeth ddysgu uwch (4.4) na'r cyfranogwyr (4).
Cynulleidfaoedd targed
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau dysgu wedi’u targedu at grwpiau ynni cymunedol cychwynnol, ac yna grwpiau ynni cymunedol gwirfoddol profiadol a grwpiau cymunedol nad ydynt yn ymwneud ag ynni, gyda llai o gyfleoedd dysgu ar gael i grwpiau ynni cymunedol profiadol neu bartneriaid allanol fel awdurdodau lleol neu'r diwydiant ynni ehangach.
Dywed cyfranogwyr mai amser yw'r prif gyfyngiad wrth ddechrau dysgu, yn enwedig i wirfoddolwyr. Felly, mae'n ddiddorol bod y rhan fwyaf o’r dysgu yn targedu grwpiau sydd efallai â’r gallu lleiaf i fanteisio arno.
Er ei bod yn amlwg yn bwysig cefnogi'r rhai sydd newydd ddechrau, mae hefyd yn ymddangos yn bwysig cefnogi'r grwpiau cymunedol hynny sy'n gallu cynyddu eu heffaith o ran ysgogi cymunedau a lleihau allyriadau carbon.
Bydd creu’r amodau lle y gall ysgogiad cymunedol ffynnu hefyd yn dibynnu ar alluogi cyfran uwch o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i weld gwerth gweithredu cymunedol a sut y gall hyn ategu eu hymgyrch tuag at sero net, sy’n angen dysgu penodol iawn.
Galw am ddysgu yn y dyfodol - Fformat
Pwysleisiodd y galw am hyfforddiant yn y dyfodol y gwerth a roddir ar rwydweithio anffurfiol a mentora cymheiriaid (gydag adnoddau tymor hirach i fentoriaid) gan gyfranogwyr a darparwyr.
Mae lle pwysig iawn ar gyfer dysgu strwythuredig fel hyfforddiant a gweithdai/gweminarau wedi'u targedu, a dyma'r math mwyaf cyffredin o ddysgu a ddarperir ar hyn o bryd. Ond mae ymagwedd fwy distrwythur a rhyngweithiol yn amlwg yn cael ei gwerthfawrogi a gall hyn fod yn effeithiol wrth ymateb i anghenion dysgu unigol, yn enwedig o ran trosglwyddo gwybodaeth a meithrin partneriaethau dysgu tymor hirach.
Galw am ddysgu yn y dyfodol - Cynnwys
Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng yr hyn yr oedd gwahanol grwpiau yn chwilio amdano o hyfforddiant yn y dyfodol.
Mae gan grwpiau cymunedol gyda staff cyflogedig fwy o ddiddordeb na grwpiau gwirfoddol mewn cyflenwad ynni lleol, datblygiad busnes a buddion ynni cymunedol. Mae gan grwpiau gwirfoddol fwy o ddiddordeb na grwpiau gyda staff cyflogedig mewn newid ymddygiad, gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ymateb ochr y galw (symud y galw am drydan i leihau galw gyda’r nos, a mabwysiadu lefelau cynyddol o ynni adnewyddadwy o fewn y system yn haws).
Mae'n werth nodi bod gan grwpiau sefydledig gyda staff cyflogedig fwy o ddiddordeb mewn datblygiad busnes na grwpiau gwirfoddol . Mae hyn yn awgrymu y gallai busnesau newydd gael budd o ychydig mwy o gynllunio a meddwl busnes.
Mae'n ddiddorol bod grwpiau gwirfoddol yn awyddus i ddysgu am farchnadoedd ynni newydd gan ganolbwyntio ar hyblygrwydd ac ymateb i'r galw. Mae hwn yn faes sy’n arbennig o heriol i ymgysylltu ag ef yn awr, gyda chymhlethdod, a diffyg gwerth, yn y marchnadoedd hyblygrwydd sefydledig. Efallai y byddai canolbwyntio mwy ar gamau cyntaf haws yn ddefnyddiol.
Roedd y diffyg cyfatebiaeth mwyaf arwyddocaol rhwng yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd a’r hyn y gofynnwyd amdano yn ymwneud â dysgu am newid ymddygiad, lle mae’r cyfleoedd presennol yn isel, ond mae’r galw’n uchel.
Materion allweddol a godwyd
Mae materion a godwyd yn yr arolwg hefyd yn cynnwys yr angen i baru canlyniadau dysgu yn gliriach ag anghenion dysgu a gwybodaeth flaenorol , ac angen i ganolbwyntio dysgu ar alluogi gweithredu ymarferol. Yn ystod y gweithdy, roedd dymuniad cryf am ddysgu gweithredol, lle mae’r dysgu’n ymestyn y tu hwnt i sesiwn unigol wedi’i ynysu oddi wrth gyflwyniad ymarferol. Sawl gwaith yr ydym wedi bod ar gyrsiau hyfforddi, ac yna chwe mis yn ddiweddarach pan fydd angen y wybodaeth arnom mewn gwirionedd, rydym wedi anghofio rhannau allweddol ohoni?
Roedd materion eraill yn cynnwys gwerth dysgu trawsffiniol ar lefel genedlaethol , ond hefyd gwerth dysgu a gynigir yn lleol sy’n arbennig o berthnasol i anghenion lleol, pwysigrwydd meithrin capasiti, mwy o hyfforddiant galwedigaethol a’r angen i dynnu rhwystrau i gyfranogiad a chynyddu amrywiaeth.
Strwythuro rhwydwaith agored
Mae cryn dipyn o ddysgu ar gael eisoes, ac mae llawer ohono'n amlwg yn cael ei werthfawrogi os nad yw bob amser wedi'i dargedu'n ddelfrydol, yn hygyrch, neu'n cynnwys adnoddau da. Yn y dyfodol, bydd gwell mapio ac arwyddbostio dysgu presennol yn hollbwysig.
Cydnabuwyd hefyd ei bod yn bwysig osgoi dyblygiad trwy adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar gael lle bo'n briodol. Mae angen integreiddio proses o gydweithio a chydgynhyrchu o fewn datblygiad unrhyw gais am arian, felly nid yw cynigion yn dibynnu'n unig ar wybodaeth neu ddiddordebau ychydig o gymeriadau neu sefydliadau cryf.
Mynegwyd angen clir hefyd i’r rhwydwaith fod yn agored i newid, gan ganiatáu i ddarparwyr dysgu newydd ymgysylltu a mynd i’r afael ag anghenion dysgu newydd, wrth i’r sector ddatblygu dros amser. Does dim modd trefnu a chynllunio popeth ar y diwrnod cyntaf
Pwrpas
Yn ystod y gweithdy, awgrymodd y cyfranogwyr y dylai rhwydwaith dysgu newydd ategu trosglwyddiad cyflymach a mwy cyfiawn i sero net trwy alluogi a grymuso cymunedau i gael yr effaith fwyaf posibl ar leihau carbon a thlodi tanwydd. Mae'n bryd i ni gyd ddechrau meddwl.