Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Offer i’ch helpu casglu a defnyddio tystiolaeth a dysg

Ar y dudalen hon mae offer a deunyddiau rydym wedi’u hariannu.

1. Darganfod dysg o brosiectau eraill rydym wedi’u hariannu

Dyma rhai tudalennau gwe ac adroddiadau sy’n amlygu’r themâu gwahanol o’r prosiectau rydym wedi’u hariannu.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adroddiadau ymchwil a gwerthuso o wahanol brosiectau rydym wedi’u hariannu yn ein llyfrgell dystiolaeth.

2. Cael data i ddeall eich cymuned leol

Mae’r wefan hwn gan Happy City Thriving Places Index yn rhoi data i chi ar gryfderau a heriau ardaloedd lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys tri phrif faes pwnc:

  • cydraddoldeb
  • cynaliadwyedd
  • ac amodau’r ddinas

3. Gallwch ddefnyddio’r offer ar-lein am ddim yma

Gallwch lawrlwytho ein fframweithiau canlyniadau a chanllaw mesuriadau annibynnol (PDF). Rhestr yw hwn o offer ac adnoddau gall fod yn ddefnyddiol i chi i fesur y gwahaniaeth mae eich prosiect yn ei wneud. Gallwch ei ffiltro i ddod o hyd i offer ac adnoddau i’ch gwaith chi.

Gall yr offer ar-lein hyn eich helpu i gymharu eich data â mudiadau eraill. Gall defnyddio yr un offer â nifer o fudiadau eraill eich helpu i gymharu eich data. Felly os ydych eisiau cymharu eich canlyniadau, gallwch ddangos y darlun gyfan – a sut mae eich gweithgareddau yn ffitio fewn i hynny.

Mae’n haws defnyddio offer sydd wedi’u profi. Mae defnyddio offer ar-lein mae mudiadau eraill yn eu defnyddio yn haws na dechrau rhywbeth o’r newydd.

Gallwch ddefnyddio’r arolwg Happiness Pulse i fesur budd a lles. Mae hwn yn arolwg ar-lein pum munud o hyd sy’n mesur lles unrhyw fath o grŵp. Mae’n trefnu eich holl ganlyniadau mewn i ddangos fwrdd. Gallwch hefyd lawrlwytho adroddiadau graffig.

4. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau cam wrth gam hyn

Canllaw i fesur budd a lles: Canllaw ar-lein cam wrth gam gan y Ganolfan What Works for Wellbeing. Bydd yn eich helpu i ddeall os, a sut mae eich gweithgareddau yn effeithio lles y bobl rydych yn gweithio â nhw. Mae’n cynnwys canllaw ar sut i ddewis pa gwestiynau i’w defnyddio ac offer creu arolwg.

Canllaw bras i fesur unigrwydd: Mae’r canllaw hwn gan y Ganolfan What Works for Wellbeing yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i ddeall a mesur eich effaith ar leihau unigrwydd. Mae’n gosod y mesuriadau unigrwydd cenedlaethol gall prosiectau eu defnyddio. Mae’n cynnwys templed holiadur ar gyfer gwerthusiad unigrwydd.

5. Darganfod sut gallwch wella eich arfer

Mae Inspiring Impact yn cynnig dau offeryn hunan-asesiad. Gall rhain ddangos i chi sut i leihau eich effaith, arfer a chasgliad data. Ar ôl ateb y cwestiynau hunan-asesiad, rydych yn derbyn adroddiad personol sy’n dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

6. Cymorth gan fudiadau arbenigol

Inspiring Impact

Beth gallent eich cefnogi gyda:

  • cefnogaeth ymarferol i bob cam o waith data a thystiolaeth
  • cynllunio, deall a gwella eich effaith
  • cyfathrebu, cymharu a rhannu eich canlyniadau
  • cyfnewid arfer

Sut gallent eich cefnogi:

  • cefnogaeth ariannol
  • adnoddau ar-lein
  • hyfforddiant ar-lein
  • offer hunanasesu
  • rhwydweithiau dysgu cymheiriaid

Charity Evaluation Working Group (Linkedin Group)

Beth gallent eich cefnogi gyda:

  • rhwydwaith cefnogaeth cymheiriaid i weithwyr proffesiynol gwerthuso elusennau
  • cyfnewid dysgu ac arfer
  • mynediad i Gymunedau Ymarfer (Iechyd a Lles)

Sut gallent eich cefnogi:

  • wyneb i wyneb a hyfforddiant ar-lein
  • canllaw cam wrth gam ar-lein
  • mynediad at gronfeydd data

Statisticians for Society

Beth gallent eich cefnogi gyda:

  • paru ystadegwyr arbenigol â mudiadau menter gwirfoddol, gymunedol a chymdeithasol
  • cefnogaeth ymarferol i gasgliad a dadansoddiad data

Sut gallent eich cefnogi:

  • cefnogaeth wedi’i deilwra un i un

Alliance for Useful Evidence - Nesta

Beth gallent eich cefnogi gyda:

  • cyngor ar sut i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol
  • eirioli ac adeiladu cynghreiriau a phartneriaethau strategol ar gyfer defnydd craffach o dystiolaeth

Sut gallent eich cefnogi:

  • rhwydweithiau cymheiriaid
  • dosbarth meistr tystiolaeth
  • digwyddiadau hyfforddi
  • adnoddau
  • cyngor