Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cyfrifo eich costau ar gyfer eich cais Awards for All

Bydd yr erthygl hon yn eich helpu i ddeall sut i ddweud wrthym am gostau eich prosiect yn eich cais am Awards for All.

Dim ond enghreifftiau yw’r costau isod i ddangos sut i’w rhannu’n gategorïau ac egluro cost pob categori. Efallai y bydd gennych gategorïau gwahanol i’r rhai a ddangosir isod.

Categori: Mae hyn yn cyfeirio at y math penodol o gost sydd ynghlwm â’r prosiect.

Swm: Dyma gyfanswm y gost a ddyrannir i bob categori. Mae hyn yn cynrychioli’r gwerth ariannol a roir i gost benodol o fewn y gyllideb. Mae’n rhaid i hwn fod yn rhif cyfan (e.e. dim llefydd degol)

Sut gwnaethoch gyfrifo’r gost: Esboniad manwl o sut bennwyd cyfanswm y gost ar gyfer bob categori. Gall hyn gynnwys cost unedau, niferoedd, cyfraddau'r awr etc.

Mae’r tabl isod yn dangos rhai esiamplau cyffredinol o gostio. Gwiriwch y costau sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani cyn cwblhau’r cwestiwn hwn.

Dadansoddiad o gostau’r prosiect fesul categori, swm a dull cyfrifo
Categori Swm Sut y cyfrifwyd y gost
Cyflenwadau swyddfa £300 4 pecyn o feiros am £8.50 yr un = £34
60 bwndel o bapur A4 am £2.50 yr un = £150
90 o amlenni am £1.28 yr un = £116
Llogi lleoliad £1,000 2 ddiwrnod am £500 y dydd
Staff £10,296 1 Cynorthwyydd Swyddfa (10 awr yr wythnos am £11.45 yr awr am 48 wythnos = £5,496)
1 Rheolwr Prosiect (4 awr yr wythnos am £25 yr awr am 48 wythnos = £4,800)
Offer £1,750 Cyfrifiadur £800
Desg £300
Cadair £150
Popty newydd £500
Costau gwirfoddolwyr £1,000 4 gwirfoddolwr am 40 wythnos, yn cynnwys teithio a threuliau
Gweithgareddau £5,000 25 sesiwn am £200 y sesiwn
Adnewyddu £3,200 Paentio £500
Drws newydd £700
Carped/teils £2,000
Sesiynau celf/crefftau £3,840 12 awr yr wythnos am £16 yr awr am 20 wythnos
Teithio/cludiant £1,500 Llogi bws £1,000 ar gyfer un digwyddiad
Milltiroedd 45c y filltir = £500
Costau rhedeg £5,250 Rhent £4,000
Trydan £400
Ffôn £100
Band eang £300
Gwres £350
Yswiriant £100