Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein hadroddiad bwlch cyflog rhywedd 2025

Rhaid i bob sefydliad sydd â 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi data ar eu bwlch cyflog rhywedd bob blwyddyn. Dyma'r gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.

Mae'r bwlch cyflog rhywedd yn wahanol i gyflog cyfartal sy'n cyfeirio at dalu dynion a menywod yn gyfartal am yr un gwaith neu waith cyfatebol. Mae cyflog cyfartal yn ofyniad cyfreithiol.

Ein bylchau cyflog canolrifol a chymedrig

Fe wnaethom gyfrifo'r ffigurau isod gan ddefnyddio'r methodolegau safonol a ddefnyddir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog rhywedd) 2017.

Ar 31 Mawrth 2025, roedd 796 o weithwyr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ein bwlch cyflog canolrifol yw 2.1%. Mae hyn wedi gostwng o 2.2% yn 2024.

Rydym yn mesur cyflog canolrifol trwy:

  • drefnu'r holl gyfraddau cyflog fesul awr i ddynion yn nhrefn o'r isaf i'r uchaf

  • dewis y gwerth canol

  • trefnu'r holl gyfraddau cyflog fesul awr i fenywod yn nhrefn o'r isaf i'r uchaf

  • dewis y gwerth canol

  • cymharu'r 2 ganlyniad

Mae hyn yn rhoi'r bwlch cyflog rhywedd canolrifol mewn cyflog fesul awr fel canran o gyflog dynion.

Mae'r bwlch cyflog canolrifol yn dweud wrthym fod menywod yn ennill 98c am bob £1 a enillodd dynion ym mis Mawrth 2025.

Ein bwlch cyflog cymedrig yw 7.0%. Mae hyn wedi cynyddu o 6.4% yn 2024.

Rydym yn mesur cyflog cymedrig trwy:

  • ychwanegu’r holl gyfraddau cyflog fesul awr i ddynion at ei gilydd

  • rhannu'r ffigwr â nifer y dynion

  • ychwanegu’r holl gyfraddau cyflog fesul awr i fenywod at ei gilydd

  • rhannu'r ffigwr â nifer y menywod

  • cymharu'r 2 ganlyniad

Mae hyn yn rhoi'r bwlch cyflog rhywedd cymedrig mewn cyflog fesul awr fel canran o gyflog dynion.

O ran meincnodi cyffredinol, rydym yn is na bwlch cyflog canolrifol y Gwasanaeth Sifil 2025 o 6.4% ac yn uwch na'r bwlch cyflog cymedrig o 6.9%.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau’r bwlch cyflog rhywedd o fewn ein sefydliad.

Bwlch cyflog rhywedd bonws

Yn 2024, derbyniodd 93% o'r holl fenywod a 93% o'r holl ddynion yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol daliad bonws.

Mae'r bwlch bonws rhywedd canolrifol yn parhau i fod yn 0%. Mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill yr un peth â dynion wrth gymharu cyflog bonws canolrif.

Y bwlch bonws rhywedd cymedrig yw 31.3%. Mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 69c am bob £1 a enillodd dynion wrth gymharu cyflog bonws cymedrig.

Dosbarthiad rhywedd yn ôl chwarter cyflog yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae'r tabl canlynol yn dangos y dosbarthiad rhywedd ar draws Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r chwarter uchaf yn cynnwys gweithwyr ar y cyfraddau cyflog uchaf, ac mae'r chwarter isaf yn cynnwys gweithwyr ar y cyfraddau cyflog isaf.

Chwarter cyflog

Menywod

Dynion

Chwarter uchaf (cyflog uchaf)

66 %

34 %

Chwarter canol uchaf

72 %

28 %

Chwarter canol isaf

71 %

29 %

Chwarter isaf (cyflog isaf)

76 %

24 %

Yn gyfan gwbl, mae 71% o'r sefydliad yn fenywod. Mae'r tabl uchod yn dangos cyfran is o fenywod yn y swyddi ar y cyflog uchaf (chwarter uchaf), a chyfran uwch yn y cyflog isaf (chwarter isaf).

Ein hymrwymiad sefydliadol

Mae ein hymrwymiad sefydliadol i gydraddoldeb cyflog i bawb yn rhan bwysig o'n Strategaeth Pobl a Diwylliant a Datganiad o Fwriad Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar:

  • monitro a chau unrhyw fylchau ar gyflog a gwobr i gydweithwyr benywaidd

  • ymateb i brofiadau ac adborth staff

Mae ein hymrwymiadau'n cynnwys:

  • gweithio'n agos gyda'n Rhwydwaith Menywod dan arweiniad gweithwyr, i wella ein polisïau a'n canllawiau pobl a chodi ymwybyddiaeth o'r materion y mae menywod yn eu hwynebu yn y gwaith. Mae'r camau gweithredu yn cynnwys creu Gweithgor Mislif a cheisio achrediad ar gyfer ein cefnogaeth i gydweithwyr sy'n cael mislif

  • adolygu ein hanghenion a'n dull recriwtio yn barhaus, fel bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn adlewyrchu'n fwy o'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu

  • mapio llwybrau dilyniant gyrfa a nodi rhwystrau penodol sy'n wynebu gwahanol grwpiau demograffig

  • ymchwilio a mynd i'r afael â'r gymhareb o fenywod i ddynion ym mhob un o'n pum lefel rôl ar draws ein holl gyfarwyddiaethau

  • hyrwyddo ein polisïau gweithio hyblyg, lles a gwyliau gyda chydweithwyr, yn ogystal â mynediad cyfartal at gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

  • deall y materion cymdeithasol ac economaidd ehangach sy'n effeithio ar fenywod, megis yr argyfwng costau byw, patrymau gweithio a chydbwyso cyfrifoldebau gofalu