Pawb a'i Le: Grantiau mawr

Grantiau o £100,001 i £500,000 ar gyfer prosiectau lle mae pobl a chymunedau'n cydweithio ac yn defnyddio eu cryfderau i gael effeithiau cadarnhaol ar y pethau sydd bwysicaf iddynt.

Rydym yma i helpu ac eisiau siarad â chi am eich syniadau i gefnogi cymunedau i addasu, adfer a ffynnu.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol, Mudiadau sector cyhoeddus
Cyfanswm ar gael
Hyd at £23 miliwn yn y flwyddyn ariannol presennol
Terfyn amser ymgeisio

Dim dyddiad cau

Beth yw Pawb a'i Le?

Pawb a’i Le: Grantiau mawr sy'n cynnig ariannu rhwng £100,001 a £500,000 ar gyfer prosiectau sy'n gweld pobl a chymunedau'n gweithio ar y cyd a defnyddio eu cryfderau i gael effaith gadarnhaol ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.

Rydym ni yma i chi wrth i gymunedau adfer ac ail-adeiladu yn dilyn pandemig COVID-19. Gallwch ymgeisio am gyllid i gynnal gweithgaredd newydd neu sydd eisoes yn bodoli neu i gefnogi eich sefydliad i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol, gan gynnwys yr argyfwng costau byw cyfredol.

Bydd ceisiadau da/llwyddiannus wedi’u Harwain gan Bobl, yn Seiliedig ar Gryfderau ac yn Gysylltiedig

Rydym yn ariannu ystod eang o weithgarwch ledled Cymru felly cysylltwch â ni i siarad â Swyddog Ariannu lleol os oes gennych syniad ar 0300 1230735 neu e-bostiwch cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Chwilio am grant rhwng £20,001 a £100,000? Bwrw golwg ar ein grantiau maint canolig yma.
Chwilio am grant o dan £20,000? Bwrw golwg ar ein grantiau bach yma

Pwy all ymgeisio?

Gallwch ymgeisio os ydych yn un o'r canlynol ac wedi'ch lleoli yn y Deyrnas Unedig:

  • grŵp gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • cydweithfa
  • menter gymdeithasol neu gwmni buddiant cymunedol
  • cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warant
  • mudiad statudol fel awdurdod iechyd, bwrdd iechyd neu ysgol.

Mae croeso i bartneriaethau o bob sector ymgeisio cyhyd â bod yr ymgeisydd arweiniol yn un o'r mathau o fudiadau sydd wedi'u rhestru uchod. Mae'n rhaid bod gan eich mudiad bwyllgor rheoli gydag o leiaf dri aelod nad ydynt yn perthyn i'w gilydd, y maent yn 18 oed neu'n hŷn. Ni allwn ariannu unigolion neu unig fasnachwyr, grwpiau sy'n gwneud elw a mudiadau nad ydynt wedi'u sefydlu yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid bod mwyafrif o'r bobl a fydd yn elwa o'r prosiect yn byw yng Nghymru.

Gwirio a ydych yn gymwys

Eisiau gwneud yn hollol siŵr bod eich prosiect yn gymwys? Rydym wedi creu teclyn gwirio cymhwyster isod i chi ei ddefnyddio unrhyw bryd.

Siaradwch â ni cyn i chi ddechrau ar eich cais, gallwch gysylltu drwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio ein llinell gymorth ar 0300 1230735 rhwng 9yb a 5yh, dydd Llun i ddydd Gwener.

Teclyn gwirio cymhwyster ar-lein

Am beth allwch chi ymgeisio?

Rhaid i geisiadau llwyddiannus fod:

Yn cael eu harwain gan bobl

Credwn fod pobl yn deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau yn well na neb. Felly mae'n bwysig i ni eich bod yn cynnwys eich cymuned yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych yn eu cynllunio.

Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:

  • Ydw i wedi siarad â'r bobl yn fy nghymuned?
  • A yw'r bobl yn fy nghymuned wedi dweud wrthyf beth sydd ei angen arnynt a beth sy'n bwysig iddynt?
  • Ydw i wedi gwrando arnyn nhw ac wedi defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i ddweud i greu fy mhrosiect?

Seiliedig ar gryfder

Hoffem gefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd ganddynt eisoes, i wneud y newidiadau y maent eu eisiau.

Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:

  • Beth sydd eisoes yn gweithio yn fy nghymuned?
  • Sut bydd fy mhrosiect yn ychwanegu at y pethau cadarnhaol hyn sydd eisoes yn gweithio?
  • Sut bydd fy mhrosiect yn gwneud y gorau o unrhyw adnoddau sydd eisoes yn helpu fy nghymuned?

Rydym wedi datblygu StrengthChecker, offeryn am ddim i helpu sefydliadau'r trydydd sector i flaenoriaethu'r cryfderau sydd eu hangen arnynt i adeiladu arnynt fwyaf ar gyfer eu datblygiad a'u twf. Defnyddiwch yr offeryn hwn i helpu i nodi unrhyw gostau datblygu sefydliadol

Cysylltiedig

Rydym am wybod bod gennych ddealltwriaeth dda o weithgareddau a gwasanaethau eraill yn eich cymuned. Hoffem weld sut y byddwch yn cyd-fynd â’r rhain. Felly gallwch ychwanegu gwerth at yr hyn sydd yno'n barod.

Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:

  • Ydw i wedi siarad â grwpiau eraill yn yr ardal sy'n gwneud rhywbeth tebyg i'm prosiect?
  • Ydw i wedi meddwl sut y gallwn ni i gyd helpu ein gilydd?

Cyflwyno eich prosiect yn Gymraeg

Pan fyddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd angen i chi ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg a sicrhau fod eich holl weithgareddau ar gael i’ch cymuned yn y ddwy iaith. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog am fwy o wybodaeth neu gallwch gysylltu a’r Tîm Cymraeg yn cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk

Cofiwch gynnwys costau gweithredu eich prosiect yn ddwyieithog, megis costau cyfieithu, yn eich cyllideb.

Mae cymorth ar gael i chi hefyd gan sefydliadau allanol:

Tim Hybu, Comisiynydd y Gymraeg: Mae Tîm Hybu, Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi elusennau a busnesau i gynllunio eu gwasanaethau Cymraeg. Cysylltwch â nhw hybu@cyg-wlc.cymru i glywed mwy am eu: Cymorth un i un yn seiliedig ar anghenion; Cyfarfodydd rhwydweithiau elusennau a busnesau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arfer da; Canllawiau syml ar bob agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg; System ar lein er mwyn hunan asesu eich gwasanaethau; Gwasanaeth prawf ddarllen - hyd at 1,000 o eiriau’r flwyddyn

Helo Blod: Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfeillgar a chyflym rhad ac am ddim sydd yma i helpu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda hyder. Cysylltwch gyda Helo Blod heddiw ar 0300 25 88 88 neu e-bost heloblod@llyw.cymru i glywed mwy.

Beth allwch chi wario'r arian arno?

Gall Pawb a'i Le ariannu costau cyfalaf a refeniw hyd at £500,000, fel cyfarpar, costau staff a gwaith adnewyddu. gallwn ariannu prosiectau am hyd am bum mlynedd. Ni allwn ariannu:

  • alcohol
  • gweithgareddau gwneud elw/codi arian
  • TAW adferadwy
  • gweithgareddau statudol
  • gweithgareddau grefyddol
  • talu rhywun arall i ysgrifennu'ch cais.
Sut ydw i'n ymgeisio?

Rydym yn parhau i fod yn agored i bob cais. Rydym yma i helpu ac eisiau siarad â chi am eich syniadau i gefnogi cymunedau i addasu, adfer a ffynnu.

Mae dau gam i'r broses ymgeisio. Os hoffech wneud cais am grant, cysylltwch â ni i siarad â Swyddog Ariannu lleol drwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio 0300 1230735 rhwng 9.00yb a 5.00yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn yn eich cyflwyno i Swyddog Ariannu yn eich ardal i gael sgwrs anffurfiol gyda chi am y syniad y mae angen grant arnoch ar ei gyfer. Os ydych yn barod i wneud cais, gallwn anfon ffurflen gais atoch.

Cyn galw, edrychwch ar ein Dogfen Ganllawiau i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais enghreifftiol isod. Rydym hefyd yn argymell edrych ar ein StrengthChecker, offeryn am ddim i helpu sefydliadau'r trydydd sector i flaenoriaethu'r cryfderau sydd eu hangen arnynt i adeiladu ar gyfer eu datblygiad a'u twf. Defnyddiwch yr offeryn hwn i helpu i nodi unrhyw gostau datblygu sefydliadol

Chwilio am gymorth a chyngor ar redeg prosiect neu elusen gymunedol?

Mae Infoengine yn gyfeiriadur o wasanaethau'r trydydd sector yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy'n darparu gwybodaeth a chymorth fel y gallwch wneud dewis gwybodus. Darperir Infoengine gan Cymorth Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cyflwyno cais cam un

Gallwch gyflwyno'r ffurflen gais hon unrhyw bryd. Ar ôl i ni dderbyn y cais, byddwn yn eich hysbysu p'un a fu'r cais yn llwyddiannus ai beidio o fewn 30 niwrnod gwaith (tua chwech wythnos). Os nad ydych yn llwyddiannus byddwn yn dweud pam wrthych, ac os dymunwch gallwch ailgyflwyno ar ôl i chi ystyried yr adborth.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau cais Cam dau neu gynllun prosiect. Bydd gennych hyd at bedwar mis i gwblhau'r cais. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais Cam Dau, byddwch yn derbyn penderfyniad terfynol o fewn pedwar mis.

Gallwch gysylltu â'n tîm Cymorth trwy anfon e-bost i cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio 0300 123 0735 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Dogfennau cysylltiedig

Noder na allwn dderbyn fersiynau hŷn y ffurflen gais mwyach.

Lleihau eich ôl troed amgylcheddol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gofalu am ein hamgylchedd ac rydym bob amser yn ceisio rheoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn annog ac yn cefnogi prosiectau a chymunedau i wneud yr un peth. Dysgwch fwy am sut y gallwch wneud eich prosiect neu ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy cynaliadwy ac arbed arian.

Gwiriadau

Fel mudiad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cyflawni nifer o wiriadau ar yr wybodaeth a ddarparwch i ni.