Y Bwrdd

Emma Boggis

Emma Boggis

Mae Emma Boggis wedi treulio dros ugain mlynedd yn gweithio yn y sectorau cyhoeddus ac nid er elw.

Dechreuodd ei gyrfa gynnar yn y Fyddin Brydeinig lle'r oedd ganddi deithiau gweithredol yng Ngogledd Iwerddon a Kosovo. Ar ôl cyfnod byr yn Yr Ymgynghoriaeth Reoli, ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil a gweithiodd yn y Swyddfa Safonau mewn Addysg a chael dau gyfnod yn Swyddfa'r Cabinet, gan gynnwys fel pennaeth yr Uned Etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd, a sefydlwyd ar ôl Llundain 2012 i gefnogi'r Arglwydd Coe fel Llysgennad Etifeddiaeth y Prif Weinidog. Cyn hynny, cafodd ei secondio hefyd i'r Swyddfa Dramor fel Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth yn Llysgenhadaeth Prydain ym Madrid a bu'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog.

Yn fwyaf diweddar, mae Emma wedi symud i weinyddu chwaraeon ac ar hyn o bryd mae'n Brif Weithredwr y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden, sef y sefydliad ymbarél ar gyfer cyrff llywodraethu a chynrychioliadol chwaraeon a hamdden, ac mae'n cynrychioli 320 o aelodau. Emma hefyd yw Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Bwrdd Cymdeithas Baralympaidd Prydain ac mae'n Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Baralympaidd Genedlaethol, yn ogystal ag yn aelod o Gyngor Ymgynghorol yr NCVO.

Mae Emma yn hoff iawn o’i chwaraeon – wedi gwneud sawl marathon a triathlon, ac mae hi hefyd yn mwynhau coginio, darllen a theithio yn aml dan pedal power.

Tony Burton CBE

Tony Burton CBE

Is-gadeirydd a Chadeirydd Archwilio a Risg

Mae Tony'n gweithio ar ystod eang o brosiectau cymunedol ac amgylcheddol, gan gynnwys darparu cymorth i grwpiau cymunedol ar gynllunio cymdogaethau ac fel Cadeirydd CPRE Llundain. Mae'n Is-Gadeirydd Panel Dylunio annibynnol HS2 ac yn cynghori'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar ddylunio a Tarmac ar gynaliadwyedd. Mae hefyd yn ymddiriedolwr TCV a mySociety ac yn gyfarwyddwr canolfan cofnodion amgylcheddol Llundain Greenspace Information ar gyfer Llundain Fwyaf. Sefydlodd Tony Civic Voice - yr elusen genedlaethol ar gyfer y mudiad dinesig - yn 2010 ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad ar Fyrddau Gweithredol elusennau cenedlaethol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymgyrch i Ddiogelu Lloegr Wledig a'r Cyngor Dylunio.

Tony yw Cadeirydd Fforwm Dyffryn Wandle ac mae'n Ysgrifennydd ei gymdeithas ddinesig leol yn Mitcham. Dyfarnwyd y CBE iddo yn Anrhydeddau'r Jiwbilî am wasanaethau i gynllunio, llywodraeth leol a chymuned a gellir ei weld ar Twitter fel @Tony4Place

Perdita Fraser

Perdita Fraser

Perdita Fraser yw un o aelodau cyffredinol y Gronfa.

Mae Perdita'n banciwr buddsoddi blaenorol sydd wedi treulio'r deng mlynedd ddiwethaf yn gweithio ar lefel bwrdd mewn diwydiant yn y DU ac UDA, fel buddsoddwr a chyfarwyddwr anweithredol, wrth ochr ymwneud â nifer o fudiadau nid er elw. Mae ganddi brofiad helaeth o lywodraethu corfforaethol a chysylltiadau â budd-ddeiliaid ar draws sectorau ac mae ganddi ddealltwriaeth gref o'r sector gwirfoddol a chymunedol, gyda diddordeb penodol mewn datblygu mentrau cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae Perdita'n gweithredu fel mentor gyda Business Mentoring Scotland; mae hi'n ymddiridolwr ac yn drysorydd Access Aspiration, elusen cyflogadwyedd ieuenctid a symudedd cymdeithasol ac mae hi'n cydgadeirio pwyllgor codi arian Ymddiriedolaeth Rugby Portobello, sy'n elusen ieuenctid, addysg a thai leol yn gweithio i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.

Dr Simone Lowthe-Thomas

Dr Simone Lowthe-Thomas

Dr Lowthe-Thomas yw Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ynni Hafren-Gwy – elusen ynni gynaliadwy sy'n gweithio yng Nghymru a siroedd y gororau. Cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredol, roedd ganddi rolau lluosog yn y sefydliad, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cymru a Phennaeth Ynni Cymunedol. Mae hefyd yn Is-lywydd Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yn Federene (Ffederasiwn Asiantaethau Ynni Ewrop). Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gan astudio Cnydau Ynni a Biomas.

Roedd Dr Lowthe-Thomas yn un o sylfaenwyr Ynni Cymunedol Cymru a threuliodd ddeng mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd fel cydymaith Ymchwil.

John Mothersole

John Mothersole

Mae John Mothersole wedi dal swyddi llywodraeth leol uwch yn ninasoedd y DU gan gynnwys Llundain, yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr Cyngor Dinas Sheffield. Ers sefyll i lawr o'r swydd honno ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl 11 mlynedd, mae John wedi ymgymryd â chyfres o rolau anweithredol sydd bellach yn cynnwys Cadeirydd-Dynodwr Coleg Sheffield, ymddiriedolwr elusen gofal cymunedol, aelodaeth o Fwrdd Cynghori Ysgol Reoli Prifysgol Sheffield a Chadeirydd Canolfan Addysg Meadowhall. Cyn cael ei ddewis yn Gadeirydd Pwyllgor Lloegr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, roedd John yn aelod o'r pwyllgor hwnnw.

Mae John wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r agenda bolisi ar gyfer dinasoedd y DU drwy'r rhwydwaith Dinasoedd Craidd, menter Pwerdy'r Gogledd a chyda'r Llywodraeth i sicrhau cytundebau datganoli rhwng dinasoedd a dinas-ranbarthau a chymryd rhan mewn teithiau masnach.

Roedd ei yrfa gynnar yn y celfyddydau, yn Llundain a'r Gogledd-ddwyrain yn bennaf, ac mae'n gweld uchafbwynt o'r rhan honno o'i yrfa fel ailagor y Tŷ Crwn yn Llundain a alluogodd ei ailddatblygu wedyn.

Mae John yn byw yn Sheffield er bod ei wreiddiau yn y Gogledd-orllewin. Gan mai dim ond yn ddiweddar y mae wedi sefyll i lawr o fod yn Brif Weithredwr, mae'n dal i geisio gweithio allan beth yw ei hobïau!

Elizabeth Passey

Elizabeth Passey

Elizabeth Passey yw un o aelodau cyffredinol y Gronfa.

Mae Elizabeth yn Aelod o Lys Prifysgol Greenwich, Cadeirydd Sefydliad y Gwy a'r Wysg, Aelod o Gyngor Cymdeithas Swolegol Llundain, ymddiriedolwr SEfydliad Asia Yr Alban ac yn aelod o Bwyllgor Rhaglenni WWF-UK.

Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Stanley ac yn Gadeirydd Bwrdd Sefydliad Rhyngwladol Morgan Stanley, ac fel Rheolwr Gyfarwyddwr Investec Asset Management. Mae hi'n Is-lywydd flaenorol Cymdeithas Swolegol Llundain, ac yn gyn-ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Isle of Dogs. Mae Elizabeth yn Rhyddfreiniwr Cwmni Goldsmiths, a graddiodd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Glasgow.

Kate Still

Kate Still

Kate yw Cyfarwyddwr yr Alban ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog, elusen ieuenctid flaenllaw sy'n cefnogi pobl ifanc i fyw, dysgu ac ennill. Bu'n aelod o Fwrdd ERSA am flynyddoedd lawer, yn Gadeirydd Cymorth Cyflogaeth yr Alban ac yn Gymrawd y Sefydliad Cyflogadwyedd. Dechreuodd Kate ei gyrfa fel athro ar ôl cwblhau MA (Anrh) mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow.

Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad perthnasol o ddarparu rhaglenni addysg, prentisiaethau, sgiliau, cyflogadwyedd a menter gymunedol ac adfywio ar draws sawl sector, gan gynnwys 15 mlynedd yn y sector Elusennau. Mae gan Kate awydd angerddol i wneud gwahaniaeth ynghyd â'r ymgyrch i gael effaith ar faterion tlodi, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae Kate wedi dal rolau arwain strategol ar lefel yr UE a'r DU gan gynnwys Rheoli rhaglenni cymorth yr UE i Ganol a Dwyrain Ewrop. Yn gyn-Aelod o Fwrdd Partneriaeth Ewropeaidd Strathclyde, cwblhaodd ei hymchwil MPhil mewn Polisi Ewropeaidd ym Mhrifysgol Strathclyde yn 2011.

Mae hi wedi dal rolau Cyfarwyddwr o'r blaen gyda Rathbone a Wise Group. Mae Kate wedi treulio dros bedair blynedd yn gwirfoddoli gyda'i chyngor cymuned lleol.

Paul Sweeney

Paul Sweeney

Mae gan Paul gyfoeth o brofiad yn gweithio yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol a chyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Rhwng 1987 a 1994 ef oedd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Wirfoddol Gogledd Iwerddon, a oedd yn cefnogi mentrau hunangymorth yn y gymuned.

Ymunodd â Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon (NICS) ym 1994, ar secondiad i ddechrau, fel cynghorydd ar ddatblygu a chysoni cymunedol. Drwy gydol ei yrfa ddilynol yn yr NICS roedd ganddo nifer o swyddi uwch gan gynnwys Dirprwy Ysgrifennydd yn Swyddfa'r Prif Weinidog a'r dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden ac Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Addysg.

Ers ymddeol o'r NICS yn 2017 mae Paul wedi ymgymryd â rôl ymddiriedolwr mewn nifer o sefydliadau dielw sy'n ymwneud ag adfywio, diwylliant a phobl ifanc.

Dywedodd: "Rwy'n ei ystyried yn fraint cael fy mhenodi i'r rôl hon ac i gael y cyfle i adeiladu ar lwyddiant y broses o wneud grantiau'r Gronfa yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae'r sector Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol ledled Gogledd Iwerddon wedi ymateb i heriau COVID-19 gydag arweinyddiaeth, gwydnwch a thosturi. Credaf fod y Gronfa Gymunedol Genedlaethol mewn sefyllfa dda i barhau i gefnogi pobl leol wrth i ni ail-adeiladu ar ôl pwysau uniongyrchol y pandemig."

Danielle Walker Palmour

Danielle Walker Palmour

Danielle Walker Palmour is the director of the Friends Provident Foundation, which is an independent grant-making and investment charity that was established from unclaimed shares arising from the de-mutualisation of Friends Provident Life Office in 2001. In 2013 she joined the judging panel for the Charity Awards.

She is also a non-executive director of Big Society Capital and Civil Society Media, a trustee of a number of local and national charities, and a member of the Congress of the University of York.

Previously, she held senior policy and research roles throughout the sector including director of policy and practice development at the Joseph Rowntree Foundation, head of policy of the Big Lottery Fund (now The National Lottery Community Fund) and at the Commission for Racial Equality and the Law Society of England and Wales.