Fi a’r Loteri Genedlaethol yn ‘dynged y dyfodol’ meddai cyd-sylfaenydd Wallace Youth Project
“Roedd fy nerbyniad priodas ar Dachwedd 19eg 1994 yn eithaf rhyfedd,” meddai Tracy Lowe, Cyd-sefydlydd prosiect Wallace Youth yn Oldbury, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
“Nid ydych yn disgwyl i bawb ddiflannu yn eich derbyniad priodas, ond y noson honno, mi wnaethant!
“Roeddem i gyd yn yr ystafell ddisco pan, yn sydyn, roedd yr ystafell wedi rhyw fath o wagio. Roedd fy holl westeion priodas wedi mynd at y bar i weld raffl gyntaf erioed y Loteri Genedlaethol – roedd yn beth mawr.”

Ac mae’n dal i fod yn beth mawr, ac roedd 2019 yn flwyddyn arbennig i’r Loteri Genedlaethol, prosiect Wallace Youth a Tracy, sydd hefyd yn ymwneud â Grace Mary to Lion Farm Big Local, sy’n gyfle cyffrous i breswylwyr Sandwell i ddefnyddio £1 miliwn (sy’n cynnwys arian y Loteri Genedlaethol) dros 10 mlynedd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Yn ôl yn gynnar yn 1994, roedd Tracy wedi cyffroi wrth gynllunio ei phriodas, ond roedd hi’n poeni sut byddai symud oddi ffwrdd o gartref yn effeithio ei mam a’i tri brodyr a chwiorydd iau.
“Roedd yn eithaf heriol. Roeddwn fod i briodi yn Tachwedd, felly fy mhryder oedd ‘sut mae mam am ddelio ar ôl i mi symud allan?’”
Bryd hynny, roedd Tracy’n byw ar stad Wallace yn Oldbury: “Doedd dim byd yno i mi wrth dyfu fyny. Roedd yn stad gymdogaeth fach mewn ardal oedd yn eithaf heriol.”
Dechrau rhywbeth gwahanol
Daeth ei phryderon i bwynt lle roedd rhaid gweithredu, a chafodd grŵp o rieni, gan gynnwys mam Tracy, eu galw i’r Swyddfa Cymdogaeth Leol i drafod ymddygiad plant y stad.
Aeth Tracy hefyd am gefnogaeth a siarad gyda’r Swyddog Cymdogaeth, a roddodd hi mewn cysylltiad â’r Cyngor lleol a’u tîm ieuenctid.
“Ar ôl siarad â nhw, roeddwn yn meddwl, ‘wel, pam na allwn ni wneud rhywbeth? Pam na all rai rhieni wneud rhywbeth?’ a dechrau meddwl am sefydlu clwb ieuenctid.”
O fewn dim, roedd Tracy yn gweithio gyda’r Cyngor a’n cofrestru i gwrs hyfforddiant ieuenctid a chymuned i’w helpu i ddarparu gofod i’r bobl ifanc yn yr ardal gyfarfod.
“Roedd cwpwl o rieni eraill, ac fe ddechreuodd y tri ohonom yr holl beth. Pan glywodd rhieni eraill yr hyn roeddem yn ei wneud, roeddent eisiau eu plant i gael rhywle i ddianc o broblemau, felly daeth mwy o rieni ynghyd ac fe adeiladom y gymuned gyda’n gilydd.”
Fe agoron nhw ystafell gymunedol mewn islawr o floc reit yng nghanol y stad yn Awst 1994.
25 mlynedd a mwy
Nawr, mae’r clwb ieuenctid ar agor bob nos Fawrth ac ar Sadyrnau i bobl ifanc 8-16 oed. Dros y blynyddoedd, maent wedi defnyddio arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer amryw o brosiectau, gan gynnwys adeiladu ac addurno pyst gôl pren newydd i’r parc lleol.
Yn Haf 2019, dathlodd prosiect Wallace Youth eu pen-blwydd 25ain gyda’r prosiect Feel the Freedom, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

“Fe gymerom ddau gwch cul ar gamlesi’r Black Country gyda grŵp o bobl ifanc. Hefyd, fe gynhaliom ddathliad cymunedol mawr ac fe ddaeth rhai o’r genhedlaeth hyn o bobl ifanc oedd arfer ag ymweld y clwb fel pobl ifanc yn ôl.
“Mae gennyf bobl ifanc wedi cofrestru nawr, lle daeth eu rhieni drwy’r clwb. Mae gennym luniau o’u rhieni pan oeddent yn 11 ac rydych yn edrych ar y lluniau o’u rhieni, a’u plant o’ch blaen, a meddwl, waw! Mae yna gymaint o hanes yn Wallace.”
“Mae fel petai fod y Loteri Genedlaethol wedi fy nilyn. Roedd raffl gyntaf y Loteri Genedlaethol ar ddiwrnod fy mhriodas 25 mlynedd yn ôl ac rwyf wedi cael arian grant 25 mlynedd wedyn i ddathlu 25 mlynedd o brosiect Wallace Youth... am ryw reswm, roedd i fod i ddigwydd.”