
Newyddion a digwyddiadau
Os ydych chi eisiau gwybod am yr hyn sy'n digwydd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar weithredu yn yr hinsawdd, rydych chi wedi dod i'r lle iawn. Darllenwch y newyddion diweddaraf am sut rydym yn cefnogi cymunedau i weithredu yn yr hinsawdd a gweld ein digwyddiadau sydd ar y gweill.
Sesiynau gwybodaeth Gyda’n Gilydd ar Gyfer Ein Planed
Er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan grwpiau am raglen ariannu Gyda’n Gilydd Ar Gyfer Ein Planed, gan gynnwys y meini prawf a'r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu, byddwn yn cynnal dau weminar gwybodaeth.
I fynychu gweminar, cofrestrwch cyn y digwyddiad.