Ym mis Mawrth 2020, recriwtiwyd 10 o bobl ifanc anhygoel o bob rhan o Gymru i weithio gyda ni, i gynllunio a chynnal ymchwil i'r materion sy'n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru, gyda chymorth ProMo Cymru a'r Weinyddiaeth Bywyd.
Fel rhan o'u hymchwil, mae tîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru wedi bod yn siarad gyda phobl ifanc ledled Cymru ac yn gofyn iddynt beth sydd bwysicaf iddynt a beth sy'n eu cadw'n effro yn y nos.
Rydym hefyd wedi bod yn gwrando'n astud ar sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n cefnogi pobl ifanc i gael gwybod beth maen nhw'n ei glywed gan bobl ifanc. Ynghyd â'r panel, ProMo Cymru a'r Weinyddiaeth Fywyd, gwnaethom ddilyn ein hymchwil gyda chyfres o sesiynau cyd-ddylunio i drafod yr hyn yr oeddem i gyd wedi'i ddysgu.
Yn seiliedig ar yr hyn a glywsom gan bobl ifanc, cytunwyd bydd £10 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sydd â'r nod o helpu iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc, ac y dylai pobl ifanc arwain y ffordd o ran dychmygu a chreu dyfodol mwy gwydn a meddyliol iach wrth i gymdeithas ailadeiladu ac adfer o bandemig COVID-19.
Tynnodd ein panel o bobl ifanc sylw at rai meysydd allweddol o'u hymchwil i'n helpu i ddeall pa fath o wahaniaeth y gallai'r grantiau hyn ei wneud. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Creu mwy o opsiynau cymorth a sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn, ble bynnag y maent yn troi am help.
- Symud i ffwrdd o weld 'cymorth' fel rhywbeth na ellir ond ei ddarparu gan wasanaethau ffurfiol – mae pobl ifanc am gael amrywiaeth o opsiynau ac i weithgarwch nad yw'n cael ei ystyried yn draddodiadol yn 'gymorth iechyd meddwl' fod mewn sefyllfa well i hybu eu hiechyd meddwl a'u gwydnwch.
- Mae angen cyfeirio pobl ifanc yn well er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth a'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes.
- Mae'n bwysig iawn bod profiad llygad y ffynnon amrywiol pobl ifanc yn cael ei adlewyrchu wrth gynllunio a chyflawni prosiectau, rhaglenni a gwasanaethau.
- Mae pobl ifanc yn gweld gwerth ac effeithiolrwydd cymorth gan gymheiriaid a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar weithgareddau.
Yn fwy na dim, nod y rhaglen hon yw grymuso pobl ifanc i wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl a gwydnwch y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol o bobl ifanc yng Nghymru.